 Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Carers Go Free Scheme
If a paying customer wishes to use any of the Leisure Centres in the Vale of Glamorgan or Cardiff International Pool, and has an unpaid carer with them, then the carer can enter for free.
Just go to reception and tell them you a carer. There is no requirement for ID or filling in an application form.
For the purposes of this Scheme the definition of a carer used would be:
'a person who is caring for another who would not be able to use the facilities without them in attendance'
Regarding the swimming pool, an unpaid carer may just need to help the paying Member in and out of the pool and may sit on the side; or they may need their carer to go into the pool with them during a Leisure Swim etc.
The Schemes covers a paying member needing a carer to assist them during any activity offered in Vale Leisure Centres or Cardiff International Pool.
|
Inquiry - removing the barriers to higher education, employment and training for young adult carers.
The All Party Parliamentary Group (APPG) for Young Carers and Young Adult Carers has launched its' latest inquiry.
The inquiry is being led by APPG chair, Chris Vince MP and APPG Vice-Chair, Alison Bennett MP and three young adult carers. They are being supported by a group of 14 young adult carer youth advisors from across the country.
Get involved in the inquiry
The Call for Evidence is now open for carers aged 16 to 30, individuals and organisations.
Current/former Young Adult Carers (up to age of 30)
Deadline Sunday 31st August
|
Individuals and organisations
Deadline Friday 15th August
Young Adult Carers can also submit evidence through a variety of other methods:
- Written evidence via e-mail to appg@carers.org
- Voice/video notes to appg@carers.org
or via WhatsApp to 07598 068 602
For more information:
Vale Unpaid Carers Hub
Please feel free to pop by and chat with us about what matters to you.
We will be providing information and advice relating to unpaid carers in July 2025:
-
Wednesday 9th 14:30 – 16:00 – Parkinson’s Group, Y Galon, The Broad Shoard, Cowbridge, CF71 7DA.
-
Wednesday 30th 10:30 – 12:30 - Oddfellows Barry Island Friends, Cuppa and Chat, Scoop Barry, 11 Paget Road, Barry Island, CF62 5TQ
-
Thursday 31st 13:30 – 16:30 - Llandough Hospital, Penlan Road, Llandough CF64 2XX
For more information about the Vale Unpaid Carers Hub, please contact us: valecarershub@tuvida.org or ring 02921 921 024
|
Provided by partner - English only
Carers Supporting Carers Through Gardens
Carers Trust know how much carers give every day – that’s why they wanted to share the story of Jane, who’s giving back to carers as a former carer herself.
At Downton House in Gloucestershire, Jane Kilpatrick opens her garden to the public – not just to share its beauty, but to create a space where everyone can pause, exhale, and feel the healing power of nature.
Jane knows what this means. As a former carer herself, she understands the weight so many carers carry and how gardens can offer something rare: calm, connection, and a moment to breathe.
National Garden Scheme visits are a special experience – you can wander through beautiful gardens on a guided tour, enjoy tea and homemade cakes, and connect with like-minded people.
Watch the video to see what a visit is really like and Jane's story as a carer.
|
Cynllun Mynediad am ddim i Ofalwyr
Os yw cwsmer sy'n talu yn dymuno defnyddio unrhyw un o'r Canolfannau Hamdden ym Mro Morgannwg neu Bwll Rhyngwladol Caerdydd, a’i fod yng nghwmni gofalwr di-dâl, yna gall y gofalwr gael mynediad am ddim.
Ewch i'r dderbynfa a dywedwch wrthynt eich bod yn ofalwr. Nid oes angen dangos ID na llenwi ffurflen gais.
At ddibenion y Cynllun hwn, diffiniad gofalwr fyddai:
'person sy'n gofalu am rywun arall na fyddai'n gallu defnyddio’r cyfleusterau heb i’r person hwnnw fod yno'
O ran y pwll nofio, efallai y bydd angen i ofalwr di-dâl helpu'r aelod sy'n talu i mewn ac allan o'r pwll ac eistedd ar yr ochr ar wahân i hynny; neu efallai y bydd angen i'r gofalwr fynd i'r pwll gyda’r aelod i’w gefnogi yn ystod sesiwn nofio hamddenol etc.
Mae'r Cynllun yn berthnasol i aelodau sy'n talu sydd angen gofalwr i'w cynorthwyo yn ystod unrhyw weithgaredd a gynigir yng Nghanolfannau Hamdden y Fro neu Bwll Rhyngwladol Caerdydd.
|
Ymchwiliad - dileu'r rhwystrau i addysg uwch, cyflogaeth a hyfforddiant i oedolion ifanc sy’n ofalwyr.
Mae'r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Gofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr wedi lansio ei ymchwiliad diweddaraf.
Mae'r ymchwiliad yn cael ei arwain gan Chris Vince AS, Cadeirydd y Grŵp, ac Alison Bennett AS, Is-gadeirydd y Grŵp, a thri oedolyn ifanc sy’n ofalwyr. Maent yn cael eu cefnogi gan grŵp o 14 o ymgynghorwyr ieuenctid ar gyfer oedolion ifanc sy’n ofalwyr o bob cwr o'r wlad.
Cymerwch ran yn yr ymchwiliad
Mae'r Cais am Dystiolaeth bellach ar agor ar gyfer gofalwyr rhwng 16 a 30 oed, unigolion a sefydliadau.
Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr ar hyn o bryd a’r rhai sydd â phrofiad o fod yn ofalwyr yn oedolion ifanc (hyd at 30 oed)
Dyddiad cau Dydd Sul 31 Awst
|
Unigolion a sefydliadau
Dyddiad cau dydd Gwener 15 Awst
Gall Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr hefyd gyflwyno tystiolaeth trwy amrywiaeth o ddulliau eraill:
- Tystiolaeth ysgrifenedig drwy e-bost i appg@carers.org
- Nodiadau llais/fideo i appg@carers.org
- neu drwy WhatsApp i 07598 068 602
Am ragor o wybodaeth ewch i:
Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro
Mae croeso i chi alw heibio a sgwrsio gyda ni am yr hyn sy'n bwysig i chi.
Byddwn yn darparu gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â gofalwyr di-dâl ym Gorffennaf 2025:
-
Dydd Mercher 9ain, 14:30 – 16:00 – Grŵp Parkinsons, Y Galon, The Broad Shoard, Cowbridge, CF71 7DA.
-
Dydd Mercher 30ain, 10:30 – 12:30 - Oddfellows Barry Island Friends, Cuppa and Chat, Scoop Barry, 11 Paget Road, Barry Island, CF62 5TQ
-
Dydd Iau 31ain, 13:30 – 16:30 - Ysbyty Llandochau, Penlan Road, Llandochau CF64 2XX
I gael rhagor wybodaeth am Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro, cysylltwch â ni:
E-bost: valecarershub@tuvida.org
Ffoniwch: 02921 921 024
|
|