Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Discount cards and other schemes to support unpaid carers!
This article first appeared in Care’Diff News, the latest news for unpaid carers in Cardiff, Edition 9 – Spring 2025. We are very grateful for their permission to use their article in our ebulletin.
At the recent Carer Wales All Wales Assembly at County Hall in Cardiff an unpaid carer asked the strategic panel “why unpaid carers don’t get access to blue light (discount) cards that can give access to discounts at participating businesses?”
In support of this Care’Diff put together a quick exploration of some of the discount schemes similar to Blue Light Cards currently available to unpaid carers.
Sleep, A Guide For Parents
Nathalie Shek, Helping Kids Shine
Thursday the 10th of April 2025, 10:00am - 12:00pm
About the Session
Quality of sleep deeply impacts every single one of us, parents included. This session will explore a basic understanding around the facts of sleep and the use of generalised sensory strategies to support sleep challenges. Nathalie will discuss environmental adaptations and other interventions to support sleep as well as an Occupational Therapist's role in sleep.
About the Presenter
Nathalie is an Advanced Practitioner Occupational Therapist working with children, young people, and families. Her clinical specialism is in working with neurodiverse families, with an interest in sensory processing, trauma, attachment, and how this impacts their daily lives.
|
Cardiff University, Widening Participation - The Confident Futures Team
We are thrilled to invite you and the young people you support to a Confident Futures Campus Day from 9:30 – 2:30pm on 10th April 2025.
This full day is designed for young people aged 14+ with care experience, who are adopted, are estranged or have caring responsibilities to explore university and the opportunities available during study.
What the day will include:
- A Scavenger hunt across the university
- Demystifying misconceptions about who achieves at university
- Information about the tailored support your young people could receive
- Opportunity to explore the idea of being a student
- Free lunch at one of our student venues
- Support with transportation costs to and from the event
Eligibility:
- Young people aged 14+ who are:
-
Young carers
- Care Experienced
- Adopted
- Estranged from family
- + Any supporting adults to accompany them!
How to sign up:
Please scan the attached QR code on the poster attached to sign up! Otherwise, please give us an email at outreach@cardiff.ac.uk.
Please feel free to get in touch with us if you have any questions.
|
In 2025, Carers UK’s 60th Anniversary year, Carers Active April is back again!
The month-long campaign aims to raise awareness of the importance of physical activity for carers and highlight the benefits of moving more. Carers often face a challenging time, and see their own health and wellbeing impacted by their caring responsibilities.
Finding ways to improve your health and wellbeing as a carer remains crucial, and Carers Active April is a chance to kickstart that activity.
|
Cardiau disgownt a chynlluniau eraill i gefnogi gofalwyr di-dâl!
Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi gyntaf yn Newyddion Dinas Gofal, y newyddion diweddaraf i ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd, Rhifyn 9 – Gwanwyn 2025.
Rydym yn ddiolchgar iawn am eu caniatâd i ddefnyddio eu herthygl yn ein he-bwletin.
Yng Nghynulliad Cymru Gyfan Gofalwyr Cymru yn Neuadd y Sir, Caerdydd yn ddiweddar, gofynnodd gofalwr di-dâl i'r panel strategol "pam nad yw gofalwyr di-dâl yn cael mynediad at Blue Light Cards (disgownt) a all roi mynediad i ostyngiadau mewn busnesau sy'n cymryd rhan?”
I gefnogi hyn, Care’Diff archwilio cynlluniau disgownt tebyg i Blue Light Cards sydd ar gael i ofalwyr di-dâl ar hyn o bryd.
Cwsg - Canllaw i Rieni
Nathalie Shek, Helping Kids Shine
Dydd Iau 10 Ebrill 2025, 10:00am – 12:00pm
Ynglŷn â’r Sesiwn
Mae ansawdd cwsg yn effeithio’n fawr ar bob un ohonom, gan gynnwys rhieni. Bydd y sesiwn hon yn archwilio dealltwriaeth sylfaenol yn ymwneud â ffeithiau am gwsg a’r defnydd o strategaethau synhwyrol cyffredinol i gefnogi heriau yn ymwneud â chwsg. Bydd Nathalie yn trafod addasiadau amgylcheddol ac ymyriadau eraill i gefnogi cwsg yn ogystal â rôl Therapydd Galwedigaethol o ran cwsg.
Ynglŷn â’r Cyflwynydd
Mae Nathalie yn Uwch Ymarferydd Therapi Galwedigaethol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae ei harbenigedd clinigol mewn gweithio gyda theuluoedd niwroamrywiol, gyda diddordeb mewn prosesu synhwyraidd, trawma, ymlyniad a sut mae hyn yn effeithio ar eu bywydau bob dydd.
|
Prifysgol Caerdydd, Ehangu Cyfranogiad - Tîm Dyfodol Hyderus
Rydyn ni’n falch dros ben o’ch gwahodd chi a’r bobl ifanc rydych chi’n eu cefnogi i Ddiwrnod Ymweld â’r Campws o 9:30 – 14:30 ar 10 Ebrill 2024 mewn cysylltiad â’r prosiect Dyfodol Hyderus.
Mae'r diwrnod hwn ar gyfer pobl ifanc 14 oed a throsodd sydd â phrofiad o fod mewn gofal, pobl ifanc y rhai sydd wedi’u mabwysiadu, gofalwyr ifanc a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd, a hynny er mwyn iddyn nhw ystyried mynd i’r brifysgol a chael gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael wrth astudio.
Bydd y diwrnod yn cynnwys:
- Helfa drysor o gwmpas Prifysgol Caerdydd
- Trafodaeth i chwalu hud camsyniadau o bwy sy’n cyflawni yn y brifysgol
- Gwybodaeth am y cymorth wedi’i deilwra y gallai eich person ifanc ei gael yn y brifysgol
- Cyfle i archwilio’r syniad o fod yn fyfyriwr
- Cinio am ddim yn un o'n lleoliadau i fyfyrwyr
- Cymorth i dalu costau teithio i’r digwyddiad ac oddi yno
Bod yn gymwys:
- Unrhyw berson ifanc 14+ oedd sydd:
- Yn ofalwyr ifanc
- A phropfiad gofal
- Mabwysiadu
- Pobl Ifanc wedi dieithrio
- + Unrhyw oedolion cefnogol i fynd gyda nhw!
Sut i gofrestru:
Sganiwch y côd QR ynghlwm ar y poster sydd ynghlwm i gofrestru! Fel arall, e-bostiwch outreach@caerdydd.ac.uk, a byddwn ni’n gallu eich helpu.
|
Yn 2025, blwyddyn pen-blwydd Carers UK yn 60 oed, mae Ebrill Egnïol Gofalwyr yn ôl eto!
Nod yr ymgyrch mis o hyd yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gweithgaredd corfforol i ofalwyr a thynnu sylw at fanteision symud mwy. Mae gofalwyr yn aml yn wynebu cyfnod heriol, ac yn gweld eu hiechyd a'u lles eu hunain yn cael eu heffeithio gan gyfrifoldebau gofalu.
Mae dod o hyd i ffyrdd o wella eich iechyd a'ch lles fel gofalwr yn dal i fod yn hanfodol, ac mae Ebrill Egnïol Gofalwyr yn gyfle i roi hwb i'r gweithgaredd hwnnw.
|
|