Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Vale Unpaid Carers Hub
Please feel free to pop by and chat with us about what matters to you.
We will be providing information and advice relating to unpaid carers in March 2025:
-
Wednesday 19th - EmpowerMind Mental Health People’s event, Cornerstone, Charles Street, Cardiff, CF10 2GA – 10:30am – 15:30pm
-
Thursday 27th - Llandough Hospital, CF64 2XX - 9:30am – 12:30pm
-
Friday 28th - DWP Wellbeing Event, Victoria Park Community Centre, Barry, Cadoxton, CF63 1JX - 11:00am – 14:00pm
For more information about the Vale Unpaid Carers Hub, please contact us: valecarershub@tuvida.org
or ring 02921 921 024
|
Adferiad – Unpaid Carer Group
A monthly carers’ group enables opportunities for carers living in the Vale, to connect and gain mutual support.
The next Meeting will be held on 19 March 2025 between 11am to 1pm, at Bridge Between Community Centre, Heol Y Llongau, Barry CF63 4AT.
In March, our guest speaker, Chrissy Derby, Home Instead, will be explaining the various social groups running in the Vale supporting older adults with healthcare needs.
The carers group is available to any unpaid carer providing support to someone with a mental health illness. Light refreshments are provided, and all are welcome.
For more information call: 07597 579 005
|

Relaunching the Unpaid Carers Charter – Supporting Those Who Care!
On this #YoungCarersActionDay, 12th March 2025, we proudly relaunch the Unpaid Carers Charter for Cardiff and the Vale, reinforcing our commitment to recognising and supporting unpaid carers of all ages.
With 1 in 10 people in our region providing unpaid care to a loved one, the updated Charter ensures that carers receive the right support, at the right time, in the right place. This update reflects carers’ voices and insights from events like the Cardiff and Vale Unpaid Carers Assembly held on 2nd October 2024.
What’s in the Charter?
- A commitment from NHS, councils & voluntary sector partners to identify, recognise, and support unpaid carers.
- Clear pathways to information, financial guidance, and wellbeing support.
- A pledge to improve services, listen to carers, and empower choice.
Where to Get Support?
- In the Vale of Glamorgan: Contact Vale Carers Hub at valecarershub@tuvida.org or call 02921 921024
- In Cardiff: Contact First Point of Contact (FPOC) at ContactILS@cardiff.gov.uk or call 02920 234 234 (Option 2)
Whether you’re a carer, a professional, or someone who wants to help — get involved, spread the word, and explore the support available!
Click below to view posters:
|

Give us a Break – Young Carers Action Day 2025
Young Carers Action Day 12 March 2025, is a national campaign run by Carers Trust, to promote awareness of young carers and acknowledge the contribution they make to their communities and families
A local event is to be held, following this years theme of ‘Give Me A Break’, which will provide an opportunity for young carers to have time to rest, have fun and take time out from their care giving roles.
This young carers celebration event will see150 young carers, who are supported by the Young Carers Projects in Cardiff and the Vale of Glamorgan, sent invitations to attend the celebration.
Both local authorities, Tuvida and YMCA Cardiff are working in partnership to organise the event, which they hope will become an annual activity.
|
Carers Wales – Art Workshops
Join Carers Wales for a series of free online art workshops for unpaid carers.
Have a chat or sit back and enjoy getting crafty. The sessions are informal and the team will send you materials and a blank postcard to decorate.
-
Thursday 20 March - 13:00-14:00pm: Watercolour Paints
-
Wednesday 9 April - 1.30-2.30pm: Neurographic Art
-
Wednesday 30 April – 11:00-12:00pm: Fine liner drawing
-
Thursday 8 May 1.30- 2.30pm: Tangles Art
Phone: 02920 811 370
|
Dementia Learning and Development Team
The Dementia Learning and Development Team are pleased to announce that our next six months’ of Dementia training is now available!
We have a wide range of opportunities for learning available to Health, Social Care and Third Sector staff across Cardiff and The Vale and really look forward to connecting with you over the coming months.
We are an innovative multidisciplinary team focused on improving the lives of people living with Dementia by supporting those around them. Whether this be in the form of training, education, mentorship or project support; to name a few! We work within the Mental Health Services for Older People (MHSOP) department in University Hospital Llandough, Penarth, but we facilitate sessions all over Cardiff and the Vale.
If you have any queries about our training, please email us on: cavdldt.booking.cav@wales.nhs.uk
or ring: 029 218 25 779
|
Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro
Mae croeso i chi alw heibio i gael sgwrs â ni am eich rôl ofalu ddi-dâl.
Byddwn yn darparu gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â gofalwyr di-dâl ar 25 Mawrth:
-
Dydd Mercher 19 – Digwyddiad Iechyd Meddwl Pobl EmpowerMind - Cornerstone, Heol Charles, Caerdydd, CF10 2GA – 10:30am – 15:30pm
-
Dydd Iau 27 - Ysbyty Llandochau, CF64 2XX - 9:30am – 12:30pm
-
Dydd Gwener 28 - Digwyddiad Lles yr Adran Gwaith a Phensiynau, Canolfan Gymunedol Parc Fictoria, Y Barri, Tregatwg, CF63 1JX - 11:00am –14:00pm
I gael rhagor o wybodaeth am Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro, cysylltwch â ni:
valecarershub@tuvida.org
neu ffoniwch 02921 921024
|
Adferiad – Grŵp Gofalwyr Di-dâl
Grŵp gofalwyr yn cwrdd yn fisol i greu cyfleoedd i ofalwyr sy'n byw yn y Fro ymgysylltu a chefnogi ei gilydd.
Y Cynhelir y Cyfarfod nesaf ar 19th Mawrth 2025 rhwng 11am ac 1pm, yng Nghanolfan Gymunedol The Bridge Between, Heol y Llongau, Y Barri CF63 4AT
Ym mis Mawrth, bydd ein siaradwr gwadd, Chrissy Derby, Home Instead yn esbonio'r grwpiau cymdeithasol amrywiol sy'n rhedeg yn y Fro yn cefnogi oedolion hŷn ag anghenion gofal iechyd.
Mae’r grwpiau ar gael i bob gofalwr di-dâl sy'n rhoi cymorth i rywun sydd â salwch iechyd meddwl. Croeso i bawb a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
Ffoniwch 07597 579005 i gael rhagor o wybodaeth
|

Ail-lansio Siarter Gofalwyr Di-dâl – Cefnogi'r Rheini sy'n Gofalu!
Ar y #youngcarersactionday, 12 Mawrth 2025, rydym yn falch o ail-lansio'r Siarter Gofalwyr Di-dâl ar gyfer Caerdydd a’r Fro, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i gydnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed.
Gyda 1 o bob 10 o bobl yn ein rhanbarth yn darparu gofal di-dâl i rywun annwyl, mae'r Siarter newydd yn sicrhau bod gofalwyr yn derbyn y cymorth cywir, ar yr adeg gywir, yn y lle cywir. Mae’r diweddariad hwn yn adlewyrchu lleisiau gofalwyr ac yn cynnwys mewnwelediadau o ddigwyddiadau fel y Cynulliad Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a'r Fro a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2024.
Beth sydd yn y Siarter?
- Ymrwymiad gan y GIG, cynghorau a sefydliadau’r trydydd sector i gydnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl.
- Llwybrau clir at wybodaeth, cyngor ariannol, a chefnogaeth llesiant.
- Addewid i wella gwasanaethau, gwrando ar ofalwyr, a grymuso dewis.
Ble i Gael Cymorth?
-
Yn y Fro: Cysylltwch â Hwb Gofalwyr y Fro yn valecarershub@tuvida.org neu ffoniwch 02921 921024
-
Yng Nghaerdydd: Cysylltwch â Pwynt Cyswllt Cyntaf (FPOC) yn ContactILS@cardiff.gov.uk neu ffoniwch 02920 234 234 (Opsiwn 2)
P'un a ydych yn ofalwr, yn weithiwr proffesiynol, neu’n rhywun sydd eisiau helpu—ymunwch, rhannwch y neges, a darganfyddwch y cymorth sydd ar gael!
Cliciwch isod i weld posteri:
|

Rhowch Seibiant i Ni – Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2025
Mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, 12 Mawrth 2025, yn ymgyrch genedlaethol a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr i hybu ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a chydnabod y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud i'w cymunedau a'u teuluoedd.
Bydd digwyddiad lleol yn cael ei gynnal ar y thema eleni, sef ‘Rhowch Seibiant i Mi’, a fydd yn rhoi cyfle i ofalwyr ifanc gael amser i orffwys, cael hwyl a chymryd amser allan o'u rolau gofalu.
Fel rhan o’r digwyddiad hwn, bydd 150 o ofalwyr ifanc, sy'n cael eu cefnogi gan y Prosiectau Gofalwyr Ifanc yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, yn cael eu gwahodd i ymuno â’r dathliadau.
Mae'r ddau awdurdod lleol, Tuvida ac YMCA Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth i drefnu'r digwyddiad, a fydd, gobeithio, yn dod yn weithgaredd blynyddol.
|
Gofalwyr Cymru - Gweithdai Celf
Ymunwch â Gofalwyr Cymru am gyfres o weithdai celf ar-lein am ddim i ofalwyr di-dâl.
Mwynhewch sgwrs neu ymlaciwch gyda chrefftau. Mae'r sesiynau'n anffurfiol a bydd y tîm yn anfon deunyddiau atoch a cherdyn post gwag i’w addurno.
Dydd Iau 20 Mawrth - 13.00-14:00pm: Paent Dyfrlliw
Dydd Mercher 9 Ebrill - 1.30-2.30pm: Celf Niwrograffig
Dydd Mercher 30 Ebrill - 11:00-12.00pm: Darlunio Leinwyr Cain
Dydd Iau 8 Mai - 1.30 2.30pm: Celf Clymau
Ffoniwch: 02920 811 370
|
Tîm Dysgu a Datblygu Dementia
Mae'r Tîm Dysgu a Datblygu Dementia yn falch o gyhoeddi bod ein chwe mis nesaf o hyfforddiant Dementia bellach ar gael!
Mae gennym ystod eang o gyfleoedd ar gyfer dysgu ar gael i staff Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Trydydd Sector ledled Caerdydd a'r Fro ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gysylltu â chi dros y misoedd nesaf.
Rydym yn dîm amlddisgyblaethol arloesol sy'n canolbwyntio ar wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia trwy gefnogi'r rhai o'u cwmpas. Boed hyn ar ffurf hyfforddiant, addysg, mentoriaeth neu gymorth prosiect; i enwi ond rhai!
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein hyfforddiant, anfonwch e-bost atom ar cavdldt.booking.cav@wales.nhs.uk
neu ffoniwch 029 218 25 779
|
|