|
Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Adferiad – Unpaid Carer Group
The next Meeting will be held on 19 February 2025 between 11am to 1pm, at The Bridge Between Community Centre, Heol Y Llongau, Barry, CF63 4AR
The carers group is available to any unpaid carer providing support to someone with a mental health illness.
Light refreshments are provided, and all are welcome.
For more information ring 07597 579005
|
Older Not Colder: Free Home Energy Support
Keep your home warm this winter with our free Older Not Colder service, for those aged 60 and over.
Older Not Colder is a new service from Care & Repair that supports older people to keep their homes warm and energy bills down.
The service has Home Energy Officers working across Wales who visit and assess homes for free. They offer expert advice and can help you find funding if repairs or improvements are needed to keep a home warm.
Who is the service for?
To be eligible, you must be living in Wales, be over the age of 60 and own your home or privately rent.
How the service can help you:
- A free visit and assessment of your home.
- Free advice on how to improve the energy efficiency of your home.
- Guidance for those who are struggling with bills.
- Support with accessing the Warm Homes Programme.
- Support with accessing benefits that you are entitled to.
- Help to apply for grants that can keep your home warm.
Request a free visit from a Home Energy Officer
Our Home Energy Officers are ready and waiting to visit your home and support you with your home energy needs. Use the form below to request a free home visit.
https://careandrepair.org.uk/oldernotcolder/
Tel: 029 20 473 337
|
A Period Proud Wales
A Period Proud Wales Plan was launched in February 2023 and sets out the Welsh Government’s approach to ensuring period dignity by 2027.
Welsh Government provides funding through the Period Dignity Grant to every local authority in Wales. This is to ensure free period products are available within all schools, colleges and community settings, such as libraries, leisure centres etc.
Every local authority has a designated Period Dignity Lead, they can provide advice and guidance on the products and training available through the grant. Additional information may also be found on local authority websites.
You can also contact period.dignity@gov.wales for further information.
|
Adferiad – Grŵp Gofalwyr Di-dâl
Cynhelir y Cyfarfod nesaf ar 19 Chwefror 2025 rhwng 11am ac 1pm, yng Nghanolfan Gymunedol The Bridge Between, Heol y Llongau, Y Barri, CF63 4AR
Mae’r grŵp gofalwyr ar gael i bob gofalwr di-dâl sy'n rhoi cymorth i rywun sydd â salwch iechyd meddwl.
Croeso i bawb a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch 07597 579005
|
Hynach Nid Oerach: Cymorth Ynni Cartref am ddim
Cadwch eich cartref yn gynnes y gaeaf hwn gyda gwasanaeth am ddim Hynach Nid Oerach, ar gyfer pobl 60 oed a throsodd.
Mae Hynach Nid Oerach yn wasanaeth newydd gan Gofal a Thrwsio sy’n cefnogi pobl hŷn i gadw eu cartrefi yn gynnes a biliau ynni yn is.
Mae Swyddogion Ynni Cartref yn gweithio ledled Cymru fel rhan o’r gwasanaeth gan ymweld ac asesu cartrefi am ddim. Maent yn cynnig cyngor arbenigol a gallant eich helpu i ganfod cyllid os oes angen gwaith trwsio neu welliannau i gadw eich cartref yn gynnes.
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru, bod dros 60 oed ac yn berchen eich cartref eich hun neu yn rhentu’n breifat.
Sut y gall y gwasanaeth eich helpu:
- Ymweliad ac asesiad o’ch cartref am ddim
- Cyngor am ddim ar sut i wella effeithiolrwydd ynni eich cartref.
- Canllawiau ar gyfer rhai sy’n ei chael trafferthion gyda biliau.
- Cymorth i gael mynediad i’r Rhaglen Cartrefi Cynnes.
- Cymorth i gael y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
- Help i wneud cais am grantiau a all gadw eich cartref yn gynnes.
Gofynnwch am ymweliad am ddim gan Swyddog Ynni Cartref
Mae ein Swyddogion Ynni Cartref yn barod ac yn aros i ymweld â’ch cartref a’ch cefnogi gyda’ch anghenion ynni cartref. Defnyddiwch y ffurflen isod i wneud cais am ymweliad cartref am ddim.
https://careandrepair.org.uk/cy/oldernotcolder/
Ffoniwch: 029 20 473337
|
Cymru sy'n Falch o'r Mislif
Lansiwyd Cynllun Cymru sy'n Falch o'r Mislif ym mis Chwefror 2023 ac mae'n nodi dull Llywodraeth Cymru o sicrhau urddas mislif erbyn 2027.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid drwy'r Grant Urddas Mislif i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cynhyrchion mislif am ddim ar gael ym mhob ysgol, coleg a lleoliad cymunedol, fel llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac ati.
Mae gan bob awdurdod lleol Arweinydd Urddas Mislif dynodedig. Maent yn gallu darparu cyngor ac arweiniad ar y cynhyrchion a'r hyfforddiant sydd ar gael drwy'r grant. Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ar wefannau awdurdodau lleol hefyd.
|
|
|
|
|