Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg

Thinkedi Diversity & Inclusion Awards recognises Social Care Officer’s work with parent carers.
Tristan Harris, who is the Social Care Officer based within the Family First Advice Line Team, won the Inclusive Front-line Professional category of the inaugural Diversity & Inclusion Wales Awards.
The Award is a recognition of the carers’ team’s work to support unpaid carers.
Thinkedi, are a company that promote equality, diversity and inclusion within businesses and Tristan was nominated by their Chief Executive Officer after completing parent carer assessments for both her and her husband, and by another parent who was a judge on the panel whom he also supported.
Congratulations Tristan, on winning the prize in the first year of the awards which are set to become an annual event moving forwards.
|
Vale Unpaid Carers Hub
Please feel free to pop by and chat with us about what matters to you.
We will be providing information and advice relating to unpaid carers:
on Thursday 30th January 2025 at Llandough Hospital, CF64 2XX between 9:30am – 12:30pm
For more information about the Vale Unpaid Carers Hub, please contact us: valecarershub@tuvida.org or ring 02921 921024
https://www.tuvida.org/vale-unpaid-carers-hub
|
This Government recognises and values the huge contribution unpaid carers make to our society and the care they provide to their family and friends. We published the Strategy for Unpaid Carers in 2021. This document sets out our commitments and priorities for action and our intention was to revise the strategy in 2025.
The Ministerial Advisory Group for Unpaid Carers oversees the work completed under the strategy. This group comprises representatives of national carer organisations, health boards, local authorities, regulators, the Children and Older People’s Commissioner’s office, researchers and individual unpaid carers.
We have been working hard to deliver against our existing strategy, including:
- Our £9million short breaks scheme will deliver 30,000 breaks for unpaid carers by 31 March 2025.
- The £4.5million Carers Support Fund will provide 15,000 small grants for emergency financial support by 31 March 2025.
- Carer Aware and other funded programmes to support carers, train professionals and drive cultural change to benefit unpaid carers.
- Funding of £1million to health boards to support unpaid carers when the person they care for is admitted to or discharged from hospital.
The Ministerial Advisory Group has been reviewing our priorities for action in 2025/26 and has identified that these can be accommodated within the four overarching priorities of the existing strategy. Our engagement with carers, and reports produced by Carers Wales reflect carers experiences and views that also fit within the existing national strategy.
In October, the First Minister wrote to members of the Cabinet urging us to focus our resources on action that directly drives improvement for the people of Wales. Our priorities for targeted support of carers in 2025/26 aligns with the current strategy. On this basis, I have decided it is more beneficial to target resource on progressing a robust annual delivery plan for 2025/26, rather than using our resources on a full review. This will provide a refresh of our strategic approach. We will undertake a full review of the national strategy later in 2025, to be in place for April 2026.
Written Statement: Strategy for Unpaid Carers (12 December 2024) | GOV.WALES
|
Cardiff and Vale Parents Federation
Offer free support services for unpaid family carers who support someone with a learning disability or additional learning need. They support through the whole life cycle.
They have funding to provide free wellbeing events, walking groups and meals out amongst other plans. Opportunities are advertised via their social media page https://www.facebook.com/CardiffValeParentsFederation and monthly newsletter.
You can self-refer and register for the opportunities as they advertise them via their website https://www.parentsfed.org or call 02920 565917.
|

Gwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant Thinkedi yn cydnabod gwaith Swyddog Gofal Cymdeithasol gyda rhiant-ofalwyr.
Enillodd Tristan Harris, sy'n Swyddog Gofal Cymdeithasol yn Nhîm Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf, y categori Gweithiwr Proffesiynol Rheng Flaen Cynhwysol yng Ngwobrau Amrywiaeth a Chynhwysiant cyntaf Cymru.
Mae'r Wobr yn gydnabyddiaeth o waith y tîm gofalwyr i gefnogi gofalwyr di-dâl.
Mae Thinkedi yn gwmni sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn busnesau a chafodd Tristan ei henwebu gan eu Prif Swyddog Gweithredol ar ôl cwblhau asesiadau rhiant-ofalwr iddi hi a'i gŵr, a chan riant arall a oedd yn farnwr ar y panel a gefnogodd hefyd.
Llongyfarchiadau i Tristan ar ennill y wobr ym mlwyddyn gyntaf y gwobrau a fydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol wrth symud ymlaen.
|
Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro
Mae croeso i chi alw heibio a sgwrsio gyda ni am yr hyn sy'n bwysig i chi.
Byddwn ni’n cynnig gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â gofalwyr di-dâl Ddydd Iau 30 Ionawr 2025 yn Ysbyty Llandochau, CF64 2XX rhwng 9:30am – 12:30pm
I gael rhagor wybodaeth am Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro, cysylltwch â ni: valecarershub@tuvida.org neu ffoniwch 02921 921024
https://www.tuvida.org/vale-unpaid-carers-hub
|
Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro
Cynnig gwasanaethau cymorth am ddim i ofalwyr teulu di-dâl sy'n cefnogi rhywun ag anabledd dysgu neu angen dysgu ychwanegol. Maent yn cefnogi trwy'r cylch bywyd cyfan.
Mae ganddynt gyllid i ddarparu digwyddiadau lles am ddim, grwpiau cerdded a phrydau bwyd allan ymhlith cynlluniau eraill. Mae cyfleoedd yn cael eu hysbysebu drwy eu tudalen cyfryngau cymdeithasol https://www.facebook.com/CardiffValeParentsFederation a'u cylchlythyr misol.
Gallwch hunangyfeirio a chofrestru ar gyfer y cyfleoedd wrth iddynt gael eu hysbysebu drwy eu gwefen https://www.parentsfed.org/ neu drwy ffonio 02920 565917
|
Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad enfawr y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud i'n cymdeithas, a'r gofal y maent yn ei ddarparu i'w teulu a'u ffrindiau. Cafodd ein strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl ei chyhoeddi yn 2021, ac mae'r ddogfen yn nodi ein hymrwymiadau a'n blaenoriaethau gweithredu. Rydym yn bwriadu adolygu'r strategaeth yn 2025.
Mae Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl yn goruchwylio'r gwaith a gyflawnir o dan y strategaeth. Mae aelodau'r grŵp hwn yn cynrychioli sefydliadau gofalwyr cenedlaethol, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, rheoleiddwyr, swyddfeydd y Comisiynydd Plant a'r Comisiynydd Pobl Hŷn, ac ymchwilwyr, ac mae hefyd yn cynnwys unigolion sy'n ofalwyr di-dâl.
Rydym wedi gweithio’n galed i gyflawni yn erbyn ein strategaeth bresennol, gan gynnwys y canlynol:
- Bydd ein cynllun seibiannau byr gwerth £9 miliwn yn darparu 30,000 o seibiannau ar gyfer gofalwyr di-dâl erbyn 31 Mawrth 2025.
- Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr gwerth £4.5 miliwn yn darparu 15,000 o grantiau bach ar gyfer cymorth ariannol brys erbyn 31 Mawrth 2025.
- Bydd Carer Aware a rhaglenni a ariennir eraill yn cefnogi gofalwyr, yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol, ac yn sbarduno newidiadau diwylliannol er budd gofalwyr di-dâl.
- Rhoddir £1 miliwn i fyrddau iechyd i gefnogi gofalwyr di-dâl pan fo’n unigolyn y maent yn gofalu amdano yn cael ei dderbyn i’r ysbyty neu ei ryddhau o’r ysbyty.
Mae'r grŵp wedi adolygu ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn 2025/26, gan nodi y gellir darparu ar eu cyfer o fewn pedair blaenoriaeth gyffredinol y strategaeth bresennol. Mae ein gweithgarwch ymgysylltu â gofalwyr, ac adroddiadau a gynhyrchwyd gan Gofalwyr Cymru, yn adlewyrchu profiadau a safbwyntiau gofalwyr sydd hefyd yn cyd-fynd â'r strategaeth hon.
Ym mis Hydref, ysgrifennodd y Prif Weinidog at aelodau'r Cabinet yn ein hannog i ganolbwyntio ein hadnoddau ar gamau gweithredu sy'n ysgogi gwelliannau uniongyrchol i bobl Cymru. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer rhoi cymorth wedi'i dargedu i ofalwyr yn 2025/26 yn cyd-fynd â'r strategaeth bresennol, ac felly rwyf wedi penderfynu y byddai'n fwy buddiol targedu adnoddau i ddatblygu cynllun cyflawni blynyddol cadarn ar gyfer 2025/26, yn hytrach na defnyddio ein hadnoddau i gynnal adolygiad llawn. Bydd hyn yn adnewyddu ein dull gweithredu strategol. Byddwn yn cynnal adolygiad llawn o'r strategaeth genedlaethol yn nes ymlaen yn 2025, a bydd ar waith erbyn mis Ebrill 2026.
Datganiad Ysgrifenedig: Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl (12 Rhagfyr 2024) | LLYW.CYMRU
|
|