Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Vale Unpaid Carers Hub
We’ve reached December! We have one outreach session left for the year. Please pop by if you can and chat with us about what matters to you.
We will be providing information and advice relating to unpaid carers and what you can access including financial support available to unpaid carers living in the Vale.
Monday 16 December - Penarth DWP CF64 3DA - 10am - 12pm
For more information about the Vale Unpaid Carers Hub, please contact us: valecarershub@tuvida.org or ring 02921 921 024
https://www.tuvida.org/vale-unpaid-carers-hub
|
Carers Resources on Dewis Cymru
In the Autumn Newsletter, we featured an article about Dewis Cymru, an online directory which connects people to groups and services in the local community and across Wales. Dewis Wales would like you to take a look at the refreshed ‘Carer Support Services’ search for the Vale of Glamorgan.
Click here: Search - Dewis Wales - ‘Carers’. This information has also been added to the unpaid carers’ webpages on the Vale of Glamorgan site.
At the moment, there are 182 results for Carer Support Services in the Vale of Glamorgan, including some national services The Services on offer might be provided by a charity, community group, Local Authority, Health Board or private business.
The link provided above will take you to many fantastic services in the Vale that aim to help you keep well, connect with others, and live a meaningful life whilst in a caring role, for you and the person you care for. This could be a cup of tea at a Carers’ support group or singing in a choir for one person, or looking to hire a wheelchair accessible vehicle, having access to a parenting helpline or support for those coping with illness to the next.
As well as help and support, it could also be that you’re just looking for some new and different activities to do with the person(s) you’re caring for, to keep things interesting. Whatever you are looking for, please click on the link today.
We also have lots more searches to share that could be really useful for you and help you improve your wellbeing. If you need any help please get in touch with us by email to DewisCymru@valeofglamorgan.gov.uk
|
Me Time Online Support Sessions for carers
Thursday 9 January, 11am-12pm: Welsh Water Dwr Cymru
Thursday 16 January, 1-2pm: Crafty catch-up
Monday 20 January, 11am-12pm: Brightening “Blue Monday”
Thursday 23 January: 1-2pm - Cwmpas and Business Wales Social Enterprise and Starting Your Own Self Employment Business
Wednesday 29 January, 12-1.30pm: Power of Attorney session
Wednesday 5 February, 1.30-2.30pm: Homefront WWII with National Museum
Wales
https://www.carersuk.org/wales/help-and-advice/your-health-and-wellbeing/me-time-sessions/
|
Cardiff and Vale Regional Partnership Board
Supporting unpaid carers to identify themselves
We are looking for your input on how we should explain what an unpaid carer is, so that this wording will help other unpaid carers to identify themselves
This explanation will be used in literature promoting services for unpaid carers across Cardiff and the Vale of Glamorgan. We would appreciate your input into this decision whether you are an unpaid carer or not.
Don't forget, you can still be an unpaid carer even if you are in receipt of Carer’s Allowance!
Please click the link or scan the Qr code (Below) to share your views.
https://forms.office.com/e/bzw6f0jUMT
Your views on the explanation to support unpaid carers to identify themselves
|
|
|
The deadline for your response is 10 January 2025
|
Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro
Rydym wedi cyrraedd mis Rhagfyr! Mae gennym un sesiwn allgymorth ar ôl am y flwyddyn. Galwch heibio os gallwch chi a sgwrsio gyda ni am yr hyn sy'n bwysig i chi.
Byddwn yn darparu gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â gofalwyr di-dâl a'r hyn y gallwch ei gyrchu, gan gynnwys cymorth ariannol sydd ar gael i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn y Fro.
Dydd Llun 16 Rhagfyr - AGPh Penarth CF64 3DA - 10am - 12pm
Am fwy o wybodaeth am Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro, cysylltwch â ni: valecarershub@tuvida.org neu ffoniwch 02921 921024
https://www.tuvida.org/vale-unpaid-carers-hub
|
Adnoddau Gofalwyr ar Dewis Cymru
Yng Nghylchlythyr yr Hydref, gwnaethom gynnwys erthygl am Dewis Cymru, cyfeiriadur ar-lein sy'n cysylltu pobl â grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned leol a ledled Cymru. Hoffai Dewis Cymru i chi edrych ar y chwiliad 'Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr' newydd ar gyfer Bro Morgannwg.
Cliciwch yma: Chwilio - Dewis Wales - 'Gofalwyr'. Mae'r wybodaeth hon wedi'i hychwanegu at dudalennau gwe gofalwyr di-dâl ar safle Bro Morgannwg hefyd.
Ar hyn o bryd, mae 182 o ganlyniadau ar gyfer Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr ym Mro Morgannwg, gan gynnwys rhai gwasanaethau cenedlaethol. Gallai'r Gwasanaethau a gynigir gael eu darparu gan elusen, grŵp cymunedol, Awdurdod Lleol, Bwrdd Iechyd neu fusnes preifat.
Bydd y ddolen uchod yn eich tywys i lawer o wasanaethau gwych yn y Fro sy'n ceisio eich helpu i gadw'n iach, cysylltu ag eraill a byw bywyd ystyrlon wrth ofalu, i chi a’r person rydych yn gofalu amdano. Gallai hyn fod yn baned o de mewn grŵp cymorth i Ofalwyr neu'n canu mewn côr i un person, neu'n llogi cerbyd sy'n addas i gadeiriau olwyn, cael mynediad at linell gymorth magu plant neu gefnogaeth i'r rhai sy'n ymdopi â salwch i berson arall.
Yn ogystal â chymorth a chefnogaeth, gallech fod yn chwilio am weithgareddau newydd a gwahanol i’w gwneud gyda’r person/pobl rydych chi'n gofalu amdanyn nhw, i gadw pethau'n ddiddorol. Beth bynnag rydych chi'n chwilio amdano, cliciwch ar y ddolen heddiw.
Mae gennym hefyd lawer mwy o chwiliadau i'w rhannu a allai fod yn ddefnyddiol iawn i chi a'ch helpu i wella'ch lles. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â ni drwy e-bost i DewisCymru@valeofglamorgan.gov.uk
|
Me Time - sesiynau cymorth ar-lein i ofalwyr
Dydd Iau 9 Ionawr, 11yb-12yp: Dŵr Cymru
Dydd Iau 16 Ionawr, 1-2yp: Dal i fyny crefftus
Dydd Llun 20 Ionawr, 11yb-12yp: Brightening "Dydd Llun Glas"
Dydd Iau 23 Ionawr: 1-2yp - Menter Gymdeithasol Cwmpas a Busnes Cymru a Dechrau Eich Busnes Hunangyflogaeth Eich Hun
Dydd Mercher 29 Ionawr, 12-1.30yp: Sesiwn Atwrneiaeth
Dydd Mercher 5 Chwefror, 1.30-2.30yp: Homefront WWII gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru
https://www.carersuk.org/wales/help-and-advice/your-health-and-wellbeing/me-time-sessions/
|
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro
Cefnogi gofalwyr di-dâl i adnabod eu hunain
Rydym yn chwilio am eich mewnbwn ar y ffordd y dylem esbonio beth yw gofalwr di-dâl, er mwyn i’r geiriad hwn helpu gofalwyr di-dâl eraill i adnabod eu hunain.
Bydd yr esboniad hwn yn cael ei ddefnyddio mewn llenyddiaeth sy'n hyrwyddo gwasanaethau i ofalwyr di-dâl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn i'r penderfyniad hwn, p'un ai eich bod yn ofalwr di-dâl neu beidio.
Cofiwch, gallwch barhau i fod yn ofalwr di-dâl hyd yn oed os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr!
Cliciwch ar y ddolen neu sganiwch y cod QR (Isod) i rannu eich barn.
https://forms.office.com/e/bzw6f0jUMT
Eich barn ar yr esboniad i gefnogi gofalwyr di-dâl i adnabod eu hunain
|
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 10 Ionawr 2025.
|
|