Please scroll down for Welsh / Sgroliwch i lawr am Gymraeg
First Aid Awareness for Unpaid Carers
When and where will the training be taking place? The training is available on Friday 20 September 2024 from 10am – 2pm.
There are a maximum of 12 spaces available.
The training will be taking place at 305 Gladstone Road, Barry, South Glamorgan, CF63 1NL.
What is the First Aid Awareness training and what is involved? The First Aid Awareness training is a 4 hour training session run by FAST - First Aid Supplies and Training in partnership with the Vale of Glamorgan Council.
This training will give you a basic understanding of what to do in an emergency and how you can help in the situation.
Please can you complete this short form to book a place on the course
How much does this cost? Although we are offering this at no cost to you, there is a cost to the Vale of Glamorgan council in the region of £60 per place, so once you have booked your place, please commit to attending on the day, as we will still incur a charge for your non attendance.
FREE Respite Opportunity at Moss Rose Cottage for Unpaid Carers
Moss-Rose Cottage provides an environment in which people of working age with ‘invisible’ barriers such as brain injuries, low level mental health issues and other chronic conditions can; Access resources, support and strategies to improve their self-esteem and improve their chances of employment, whilst in a setting that will improve the shared wellbeing of the wider community, by creating mutually beneficial connections and relationships.
https://mossrosecottage.co.uk/
At Moss Rose Cottage, we deeply appreciate the hard work of unpaid carers. Thanks to Cardiff and Vale Regional Partnership Board and C3SC, we are able to offer unpaid carers some well-deserved respite, while also providing an opportunity for those you care for to explore independent living, by inviting you to stay for free!
Whether you choose a day trip, an overnight stay, or a weekend break, all you have to do is check our available dates displayed below and email us at the address below to secure your slot.
We are delighted to share our space with the community. Our flexible space includes:
19th Century Cottage
- Games room
- Well-being lounge
- Kitchen diner area
- Downstairs bathroom with bath and shower
- Two double bedrooms upstairs
Self-Contained Living Annex
- One double sofa bed
- Open-plan kitchen and living area
- Bathroom and shower
Outdoor Area
- Outdoor dining in the covered vineyard
- Healing garden
PACKAGES
Package 1 – Day Trip
For those unable to stay overnight, we still want you to experience some respite and are pleased to offer a day trip option. The day trip package grants you exclusive access to the cottage from 9am to 3pm for yourself and up to three guests. This package includes:
- A welcome hamper with refreshments and nibbles
- Access to our healing garden, games room, kitchen diner, covered vineyard and well-being room
Total Max Guests: 4
Package 2 – Annex overnight stay (max 2 nights)
For those able to stay overnight, we are delighted to offer you and a guest (optional) access to our self-contained living annex from 6pm on the day of arrival until 3pm on the day of check-out. The annex features a ground-floor studio flat with direct access to the covered vineyard. During your stay, you can also enjoy:
- A welcome hamper with refreshments and snacks
- Access to our healing garden, games room, kitchen diner, covered vineyard, and well-being room
- Fresh bedding
Total Max Guests:2 Beds: 1 sofa bed
Package 3 – Cottage overnight stay (maximum 2 nights)
For those able to stay overnight and comfortably manage a flight of stairs, we are delighted to offer accommodation for you and a guest (optional) in our cottage from 6pm on the day of arrival until 3pm on the day of check-out. The cottage features an open-plan kitchen diner with garden views and direct access to the covered vineyard. During your stay, you can also enjoy:
- A welcome hamper with refreshments and snacks
- Access to our healing garden, games room, kitchen diner, covered vineyard, and well-being room
- Fresh bedding
- One double bedroom
Total Max Guests: 2 Beds: 1 double & 1 single
*All packages include free WiFi and access to the use our Smart TV and pool table
Dates offered subject to availability
Mon: Aug 26
Tues: Aug 20, Aug 27
Wed: Aug 21, Aug 28
Thurs: Aug 22, Aug 29, Sept 12
Fri: Aug 23, Aug 30, Sept 13, Oct 4, Oct 18
Sat: Aug 24, Aug 31, Sept 14, Oct 5, Oct 19
Sun: Aug 25, Oct 6
The dates listed above are not live and require manual confirmation. Any booking requests will be reviewed and confirmed via email. Date requests will be handled on a first-come, first-served basis. When booking, please discuss any accessibility requirements with us.
Contact us
To book your slot email: Admin@mossrosecottage.co.uk
Or ring 02920 635 570 or 07716 183 313 Monday-Thursday (9am-3pm)
|
Adferiad Let's Get Physical!
We would like to invite you to our 2024 Summer Campaign Event.
On: 30th August 2024
At: Cyncoed Campus, Cardiff Metropolitan University, Cyncoed Road, Cardiff CF23 6XD
Come and take part in our 2024 Summer Campaign: Let’s Get Physical! This year’s campaign is all about three essential things: physical health, physical fitness, and healthy eating.
The event is aimed at both unpaid carers and the people they care for, who are coping with mental health and substance use issues. The campaign aims to raise awareness of healthy habits and help people understand their own physical health and wellbeing.
The event will include a free, 10-minute health check for all attendees, as well as speakers, information, demonstrations, and a series of fun, engaging activities.
Link to register:
https://bit.ly/4dqoCeW
Please contact Paul Keeping on 07760 808930 if you need help attending the event
Funded short breaks for unpaid carers in Wales
Carers Trust Wales
Funded by Welsh Government, the Short Breaks Scheme is a new initiative to support unpaid carers of all ages in Wales to take a break from their caring role.
A short break is more than just a yoga class or an overnight stay in a hotel, it is a chance for carers to de-stress and recharge. It offers a break from the daily challenges of caring for a family member or friend.
Find a funded short break in Vale of Glamorgan at:
https://www.shortbreaksscheme.wales/
|
|
|
Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Di-dâl
Pryd a ble fydd yr hyfforddiant? Mae'r hyfforddiant ar gael ddydd Gwener 20 Medi 2024 rhwng 10am a 2pm.
Cynhelir yr hyfforddiant yn 305 Gladstone Road, Y Barri, De Morgannwg, CF63 1NL.
Mae uchafswm o 12 lle ar gael.
A fyddech cystal â chwblhau'r ffurflen fer hon i gadw lle ar y cwrs
Beth yw'r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf a beth mae’n ei gynnwys? Mae’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Cymorth Cyntaf yn sesiwn 4 awr a gynhelir gan FAST - First Aid Supplies and Training mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’r hyn i'w wneud mewn argyfwng a sut y gallwch helpu yn y sefyllfa.
Beth fydd y gost? Er ein bod yn cynnig hyn am ddim i chi, mae ’na gost o ryw £60 fesul lle i Gyngor Bro Morgannwg, felly ar ôl i chi archebu eich lle dylech ymrwymo i fynychu ar y dydd oherwydd byddwn yn dal i orfod talu os na fyddwch yn dod.
Cyfle Seibiant AM DDIM i Ofalwyr Di-dâl yn Moss Rose Cottage
Mae Moss-Rose Cottage yn amgylchedd lle gall pobl o oed gweithio â rhwystrau 'anweledig' fel anafiadau i'r ymennydd, problemau iechyd meddwl lefel isel a chyflyrau cronig eraill; mae’n cynnig mynediad at adnoddau, cymorth a strategaethau i wella hunan-barch pobl a’u gobaith o gael gwaith, y cyfan mewn lleoliad fydd yn gwella lles y gymuned ehangach, trwy greu cysylltiadau a pherthnasoedd sydd o fudd i'r ddwy ochr.
https://mossrosecottage.co.uk/
Yn Moss Rose Cottage, rydym wir yn gwerthfawrogi gwaith caled gofalwyr di-dâl. Diolch i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro a C3SC, rydym yn gallu cynnig seibiant haeddiannol i ofalwyr di-dâl, tra hefyd yn rhoi cyfle i'r rhai rydych yn gofalu amdanynt gael blas ar fyw'n annibynnol, trwy eich gwahodd i aros am ddim!
Boed yn dewis ymweliad undydd, arhosiad dros nos, neu seibiant penwythnos, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwirio’r dyddiadau sydd ar gael a ddangosir isod ac anfon e-bost atom yn y cyfeiriad isod i sicrhau eich slot.
Rydym yn falch iawn o all rhannu ein gofod gyda'r gymuned. Mae ein gofod hyblyg yn cynnwys:
Bwthyn o'r 19eg Ganrif
- Ystafell gemau
- Lolfa llesiant
- Ardal fwyta a chegin
- Ystafell ymolchi lawr llawr gyda bath a chawod
- Dwy ystafell wely ddwbl lan llofft
Lle byw Hunangynhwysol ar Wahân
- Un gwely soffa dwbl
- Cegin ac ardal fyw cynllun agored
- Ystafell ymolchi a chawod
Ardal Awyr Agored
- Bwyta awyr agored yn y winllan dan orchudd
- Gardd iachau
PECYNNAU
Pecyn 1 – Ymweliad Undydd
I'r rhai sy'n methu aros dros nos, rydym yn dal am i chi gael ychydig o seibiant ac yn falch o gynnig opsiwn ymweliad undydd. Mae'r pecyn ymweliad undydd yn rhoi mynediad i chi a hyd at dri gwestai - a neb arall - rhwng 9am a 3pm. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:
- Hamper croeso gyda lluniaeth a bwydydd bach
- Mynediad i'n gardd iachau, ystafell gemau, cegin/ystafell fwyta, gwinllan dan orchudd, a’r ystafell llesiant
Nifer Uchaf o Westeion: 4
Pecyn 2 – Arhosiad dros nos yn y llety ar wahân (hyd at 2 noson)
I'r rhai sy'n gallu aros dros nos, rydym yn falch iawn o gynnig mynediad i chi a gwestai (dewisol) i'n llety hunangynhwysol ar wahân o 6pm ar y diwrnod cyrraedd tan 3pm ar y diwrnod ymadael. Mae'r llety ar wahân yn cynnwys fflat stiwdio llawr gwaelod gyda mynediad uniongyrchol i'r winllan dan orchudd. Yn ystod eich arhosiad, gallwch hefyd fwynhau:
- Hamper croeso gyda lluniaeth a bwydydd bach
- Mynediad i'n gardd iachau, ystafell gemau, cegin/ystafell fwyta, gwinllan dan orchudd, a’r ystafell llesiant
- Dillad gwely glân
Nifer Uchaf o Westeion: 2 Wely: 1 gwely soffa
Pecyn 2 – Arhosiad dros nos yn y Bwthyn (hyd at 2 noson)
I'r rhai sy'n gallu aros dros nos, rydym yn falch iawn o gynnig mynediad i chi a gwestai (dewisol) i'n llety hunangynhwysol ar wahân o 6pm ar y diwrnod cyrraedd tan 3pm ar y diwrnod ymadael. Mae'r bwthyn yn cynnwys cegin a man bwyta cynllun agored gyda golygfeydd dros yr ardd a mynediad uniongyrchol i'r winllan dan orchudd. Yn ystod eich arhosiad, gallwch hefyd fwynhau:
- Hamper croeso gyda lluniaeth a bwydydd bach
- Mynediad i'n gardd iachau, ystafell gemau, cegin/ystafell fwyta, gwinllan dan orchudd, a’r ystafell llesiant
- Dillad gwely glân
- Un ystafell wely ddwbl
Nifer Uchaf o Westeion: 2 Wely: 1 dwbl ac 1 sengl
*Mae pob pecyn yn cynnwys WiFi am ddim a defnydd o'n Teledu Clyfar a'n bwrdd pŵl
Dyddiadau a gynigir yn amodol ar argaeledd
Llun: Awst 26
Mawrth: Awst 20, Awst 27
Mercher: Awst 21, Awst 28
Iau: Awst 22, Awst 29, Medi 12
Gwener: Awst 23, Awst 30, Medi 13, Hyd 4, Hyd 18
Sadwrn: Awst 24, Awst 31, Medi 14, Hyd 5, Hyd 19
Sul: Awst 25, Hyd 6
Nid yw'r dyddiadau a restrir uchod yn rhestr fyw a bydd angen i chi gadarnhau. Bydd unrhyw geisiadau archebu yn cael eu hadolygu a'u cadarnhau drwy e-bost. Bydd ceisiadau yn cael eu trin ar sail y cyntaf i'r felin. Wrth archebu, trafodwch unrhyw ofynion hygyrchedd gyda ni.
Cysylltu â ni
I archebu eich slot, e-bostiwch: Admin@mossrosecottage.co.uk
Neu ffoniwch 02920 635 570 neu 07716 183 313 Llun-Iau (9am-3pm)
|
Adferiad Caffael Ar Y Corfforol!
Hoffem eich gwahodd i’n Digwiddiad Ymgyrch Haf 2024
Pan: 30ain o Awst 2024
Ble: Campws Cyncoed, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Ffordd Cyncoed, Caerdydd CF23 6XD
Dewch i gymryd rhan yn ein Hymgyrch Haf 2024: Caffael ar y Corfforol! Mae'r ymgyrch eleni yn ymwneud â thri pheth hanfodol: iechyd corfforol, ffitrwydd corfforol, a bwyta'n iach.
Mae'r digwyddiad ar gyfer gofalwyr di-dâl a'r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, sy'n ymdopi â phroblemau iechyd meddwl a defnyddio sylweddau. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o arferion iach a helpu pobl i ddeall eu hiechyd a'u lles corfforol eu hunain.
Fe Fydd y digwyddiadu yn cynnwys archwiliadu iechyd 10minud rhad ac am ddim i bawb sy’n mynychu, yn ogystal a siaradwyr, gwybodaeth, arddangosiadau, a chyfres o weithgareddau hwyl.
Dolen i gofrestru:
https://bit.ly/4dqoCeW
Cysylltwch â Paul Keeping ar 07760 808930 os oes angen help arnoch i fynychu'r digwyddiad.
Seibiannau byr wedi'u hariannu ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghymru
Carers Trust Wales
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cynllun Seibiant Byr yn fenter newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru i gael seibiant o'u rôl ofalu.
Mae seibiant byr yn fwy na dosbarth ioga neu arhosiad dros nos mewn gwesty, mae'n gyfle i ofalwyr ymlacio ac adfywio. Mae'n cynnig seibiant o'r heriau dyddiol sy’n gysylltiedig â gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind.
Dewch o hyd i seibiant byr wedi'i ariannu ym Mro Morgannwg yn:
https://www.shortbreaksscheme.wales/cymraeg/hafan
|
|