2. Rhaglen waith
Mae'r Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol wedi dyfarnu'r fframwaith a ganlyn yn ddiweddar:
-
Darparu Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau
(Gwasanaeth a Reolir)
Amcangyfrif o werth
blynyddol £20m
Mae’r canllawiau i
gwsmeriaid a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GwerthwchiGymru.
Cofiwch fod rhestr o gytundebau Fframwaith Gwasanaeth Caffael
Cenedlaethol cyfredol ar gael yn yr adran ‘categorïau’ ar wefan y Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol.
3. Edrych i'r dyfodol
Er
mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cymaint o rybudd ymlaen llawn â
phosibl i brynwyr a chyflenwyr am ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi creu'r
tablau Edrych i'r Dyfodol isod. Cysylltwch â'r blwch post categori perthnasol
am ragor o wybodaeth, a chofiwch gadw llygad ar dudalennau Twitter a LinkedIn
y GCC a gwefan GwerthwchiGymru
ar gyfer y newyddion diweddaraf am y digwyddiadau.
Digwyddiadau i Gyflenwyr
Digwyddiadau i Brynwyr
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch
post cyfatebol isod:
Adeiladu a Rheoli
Cyfleusterau
Gwasanaethau
Corfforaethol a Chymorth Busnes
Fflyd a Thrafnidiaeth
Bwyd
Technoleg
Gwybodaeth a Chyfathrebu
Gwasanaethau Pobl
a Chyfleustodau
Gwasanaethau Proffesiynol
4. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau pwysig wedi’u rhestru isod. Hysbysir popeth drwy wefan GwerthwchiGymru, ond gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os byddwch angen gwybodaeth bellach neu os hoffech fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau isod, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
-
Darparu
Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Cam 1 (Gwasanaeth a Reolir) - dyfarnwyd
ar 11 Ionawr 2016. Mae'r Fframwaith yn ymwneud â thair lot gwasanaeth
(Gwasanaethau Meddal, Gwasanaethau Caled a Gwasanaethau Rheoli
Cyfleusterau Cyflawn (TFM) ar draws Cymru gyfan. Mae’r canllawiau i
gwsmeriaid ar gael yn GwerthwchiGymru.
Adroddiadau Canlyniadau Grwpiau Fforwm Categori
Diweddariadau
- Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wrthi’n cynorthwyo
dau sefydliad sy’n gwsmeriaid i ddyfarnu contractau cyfnod ar gyfer Rheoli
Cyfleusterau; Llywodraeth Cymru ar gyfer eu contract Gwasanaethau Rheoli
Cyfleusterau Meddal a Chontract Rheoli Cyfleusterau Cyflawn Gwasanaeth Gwaed
Cymru. Dylai’r ddau gontract gael eu dyfarnu’n ffurfiol yn ystod mis
Chwefror.
Cyswllt:
NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Diweddariadau
- Cyflenwi Dillad Llachar a Chyfarpar Diogelu
Personol (PPE) - Iwnifformau, Dillad
Gwaith a Dillad Hamdden - rydym yn y cam gwerthuso ar hyn o bryd. Mae wythnos
samplu wedi’i threfnu ar gyfer diwedd mis Chwefror, bydd manylion yn dilyn. I
gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r blwch post isod.
Adroddiadau Canlyniadau Grwpiau Fforwm Categori
Cyswllt: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Contract ar y gweill
Diweddariadau
- Bu staff TGCh y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol
yng nghyfarfod fforwm Technoleg Gwybodaeth Addysg Uwch Cymru ddydd Gwener 5
Chwefror 2016, i roi diweddariad am TGCh. Cysylltwch â’r blwch post isod os
hoffech gael diweddariad hefyd.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau
Diweddariadau
-
Darparu Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Cyflenwi
Gweithwyr Asiantaeth - rydym yn parhau i gynorthwyo cwsmeriaid i weithredu’r
fframwaith hwn sydd â gwerth mawr. Ar hyn o bryd, rydym yn rheoli cystadleuaeth
arall gydweithredol ar gyfer awdurdod lleol de Cymru ar draws pob cyflenwr Lot
1 a Lot 2. Os hoffai eich sefydliad gael cymorth i weithredu’r fframwaith hwn,
cysylltwch â'r blwch post isod. Mae canllawiau ar gael yn
adran y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar wefan GwerthwchiGymru.
Grwpiau Fforwm Categori (CFG)
-
Bagiau Gwaredu Gwastraff - yn dilyn cyfarfod CFG adeiladol ar 14
Ionawr, mae Strategaeth y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Cytundeb
Fframwaith Bagiau Gwaredu Gwastraff wedi cael ei chymeradwyo erbyn hyn gan y
Grŵp Cyflawni ar 27 Ionawr. Mae Adroddiad Canlyniadau CFG
ar gael ar wefan GwerthwchiGymru. Rydym wrthi’n datblygu
dogfennau tendr ar gyfer y fframwaith hwn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau,
neu os hoffech fod yn rhan o ddatblygu'r tendr ar gyfer y prosiect hwn,
cysylltwch â’r blwch post isod.
Cyswllt: NPSPeopleServices&Utilities@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Proffesiynol
Diweddariadau
-
Ymgynghoriaeth Adeiladu - rydym yn cynnig cyfres integredig o
ganllawiau a chyngor ymgynghorol sy’n ymwneud â 30 o ddisgyblaethau sy’n
cynnwys gwasanaethau proffesiynol Ystadau, Eiddo a Seilwaith. Os hoffech i un
o’r tîm Gwasanaethau Proffesiynol esbonio ein cynnig i’ch sefydliad, cysylltwch
â'r blwch post isod. Neu gallwch weld y cytundebau yn
adran Gwasanaethau Proffesiynol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar wefan
GwerthwchiGymru.
-
Hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch Contract
Gwasanaethau Proffesiynol NEC 3 I gefnogi fframweithiau Ymgynghoriaeth ym maes
Adeiladu, rydym yn bwriadu cynnal sesiynau ymwybyddiaeth ar Gontract
Gwasanaethau Proffesiynol NEC 3 (Ebrill 2013). Os oes gennych ddiddordeb mewn
mynychu, cysylltwch â Kathryn Jones yn y blwch post isod.
- Mae ein Fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan
Gyfreithwyr yn gwbl weithredol erbyn hyn ac yn cael ei ddefnyddio ar draws
sector cyhoeddus Cymru. Rydym wrthi’n sefydlu tîm rheoli fframwaith fforwm
categori i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eich anghenion. Cysylltwch â
Carla Lavender yn y blwch post isod os hoffech drafod hyn ymhellach.
Grwpiau Fforwm Categori (CFG) - Galwad am gynrychiolwyr
- Ymgynghoriaeth Busnes – mae ein CFG wedi
datblygu strategaeth gyffrous a fydd yn bodloni anghenion ymgynghoriaeth busnes
sector cyhoeddus Cymru. Cafodd hyn ei gymeradwyo gan Grŵp Cyflawni Gwasanaeth
Caffael Cenedlaethol ym mis Tachwedd. Rydym wrthi’n datblygu sawl prosiect
caffael ymgynghoriaeth busnes i gefnogi gwasanaethau Addysg, darparu modelau
cyflawni gwahanol a sicrhau effeithlonrwydd gwasanaeth. Yn ogystal â helpu i
siapio’r rhain, mae angen cefnogaeth arnom hefyd i weld beth yw’r ffordd orau o
rannu adnoddau mewnol ar draws sefydliadau. Felly, rydym yn chwilio am
gynrychiolwyr ychwanegol ar gyfer y CFG, i’n galluogi i gyflawni ar eich rhan.
Cysylltwch â Paul Griffiths yn y blwch post isod os hoffech drafod hyn
ymhellach.
- Gwasanaethau Bargyfreithwyr – rydym wrthi’n
cwblhau ein dull caffael ac mae gennym sawl cyfarfod ymgysylltu wedi'i drefnu
gyda Phenaethiaid timau Cyfreithiol ym mis Ionawr a mis Chwefror. Ond, byddem
yn croesawu rhagor o ymgysylltiad ac os oes rhywun am gyfarfod i drafod hyn
ymhellach, cysylltwch â blwch post y categori.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gov.uk
5. Arbedion
Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 4.72% y flwyddyn ariannol
hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn
yn cynnwys arbedion wedi'u negodi a chytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r
GCC.
Mae'r arbedion yn hafal i £3,071,351 rhwng 1 Ebrill 2015 a 30 Tachwedd 2015.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch
â'ch Cynrychiolydd
Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
Cyfeiriadur
Busnesau Cymru
Cafodd Cyfeiriadur Busnesau Cymru ei lansio gan Busnes Cymru ar
ddechrau'r flwyddyn newydd. Mae hwn yn adnodd ar-lein gwych ar gyfer busnesau
Cymru sy’n awyddus i hyrwyddo nhw eu hunain ymhlith cwsmeriaid newydd posibl, a
chodi eu proffil.
Gall busnesau hysbysebu yn y Cyfeiriadur i hyrwyddo eu nwyddau,
gwasanaethau a manylion adnabod, a gall defnyddwyr chwilio’n gyflym am fusnesau
Cymru yn ôl enw, sector, rhanbarth a hidlyddion eraill.
Mae’n rhwydd creu cofnod ac mae am ddim, Tynnwch sylw atoch chi’ch
hun a rhowch
eich manylion ar wefan Busnes Cymru heddiw.
Newid enw Procserve |
|
|
Ym mis Ebrill 2015, llwyddodd Basware i gaffael Procserve. Fel
rhan o integreiddio’r broses caffael, mae cyfeiriadau e-bost holl staff
eFasnachu Cymru wedi cael eu newid i gyfeiriadau e-bost Basware erbyn hyn. Bydd
strwythur newydd y cyfeiriad e-bost yn newid o procserve.com i basware.com. Gwelir enghraifft isod:
Bydd john.smith@procserve.com
yn newid i fod yn john.smith@basware.com
Dros gyfnod, byddwch yn siŵr o weld rhagor o newidiadau brand hefyd a bydd hyn
yn cynnwys newidiadau i frand marchnadfa eFasnachu Cymru.
Digwyddiadau cymorthfeydd a
gweminarau cyflenwyr eFasnachu Cymru
Mae Basware (arferai fod yn
Procserve) yn trefnu cyfres o weminarau ar gyfer 2016, ac mae’r rhain wedi'u
cynllunio’n benodol i gefnogi cymuned cyflenwyr sector cyhoeddus Cymru. Bydd y gweminarau’n
cael eu cynnal bob deufis gan godi
ymwybyddiaeth o Raglen Newid eFasnachu Cymru a’r ffordd orau o ddefnyddio’r
adnoddau sydd ar gael. Mae’r gweminar cyntaf wedi'i drefnu ar gyfer 11 Chwefror
2016. Caiff y gweminar ei recordio a bydd ar gael i’w weld ar ôl y digwyddiad.
Ar ben hynny, mae digwyddiadau cymorthfeydd i gyflenwyr wedi'u
trefnu mewn sawl lleoliad yn ystod 2016 er mwyn sicrhau bod gan gyflenwyr gyfle
hefyd i gwrdd yn bersonol.
Pen-y-bont ar Ogwr - 15 Chwefror
Aberystwyth - 10 Mawrth
Llandrindod - 11 Mawrth
Bedwas - 19 Ebrill
Llandudno - 4 Mai
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r aelod staff
sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth eGaffael (ePS) neu anfon e-bost at eProcurementService@wales.gsi.gov.uk.
Digwyddiad Cangen
De Cymru Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) - Chwilio am y Greal
Sanctaidd ar gyfer Rheoli Categorïau
Bydd Mike Utting, Rheolwr Gyfarwyddwr Springtide, yn cyflwyno ei
ddealltwriaeth fanwl o fethodoleg ac ymarfer ym maes rheoli categorïau a sut
mae modd defnyddio hyn i sicrhau’r gwerth a'r canlyniadau gorau i randdeiliaid.
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Chwefror
Amser: 6pm (cofrestru o 5:30pm ymlaen)
Lleoliad: Jury's Inn, Caerdydd
I
gadw lle yn y digwyddiad, cofrestrwch drwy wefan CIPS.
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|