2. Rhaglen waith
Ers
mis Rhagfyr, mae’r GCC wedi dyfarnu’r contractau canlynol:
3. Gwybodaeth ar rifau adnabod catalogau
O’r mis yma ymlaen, byddwn yn defnyddio’r
cylchlythyr i rannu gwybodaeth ar sut y gall cwsmeriaid gael mynediad at gatalogau eFasnachu Cymru ar gyfer Fframweithiau'r GCC a ddyfarnwyd yn ddiweddar. Mae’r Fframwaith canlynol
â Rhifau Adnabod Catalog wedi’u rhestru ar GwerthwchiGymru, ynghyd â chanllaw
ar ddefnyddio Basware (a elwid gynt yn Procserve).
- Cyflenwi Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig (NPS-FT-0043-15)
Cliciwch isod i weld yr wybodaeth ganlynol ar
GwerthwchiGymru: Rhifau Adnabod Catalog (sydd i’w cael ochr yn ochr â Chanllawiau'r Fframwaith
a Phrisiau) Dogfennau Canllaw Procserve-Basware (sydd i’w cael yn 'Adnoddau Defnyddiol') Byddwn yn ychwanegu Rhifau Adnabod
Catalogau ar gyfer Fframweithiau canlynol y GCC yn ystod y mis nesaf:
- Teithio a
Llety Busnes (NPS-PSU-0015-14)
- Deunyddiau
Trydanol, Gwresogi, Plymio a Chysylltiedig (NPS-CFM-0030-15)
- Cyflenwi
Deunyddiau Glanhau a Phorthorol (NPS-CFM-0026-15)
4. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cymaint o rybudd ymlaen
llawn â phosibl i brynwyr a chyflenwyr am ddigwyddiadau'r GCC, rydym wedi
creu'r tablau Edrych i'r Dyfodol isod. Cysylltwch â'r blwch post categori
perthnasol am ragor o wybodaeth, a chofiwch gadw llygad ar dudalennau Twitter a LinkedIn
y GCC a gwefan GwerthwchiGymru
ar gyfer y newyddion diweddaraf am y digwyddiadau.
Digwyddiadau i Gyflenwyr
Digwyddiadau i Brynwyr
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch
post cyfatebol isod:
Adeiladu a Rheoli
Cyfleusterau
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Fflyd a Thrafnidiaeth
Bwyd
Technoleg
Gwybodaeth a Chyfathrebu
Gwasanaethau Pobl
a Chyfleustodau
Gwasanaethau
Proffesiynol
5. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen
Llaw a Hysbysiadau Contract wedi’u rhestru isod. Gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os byddwch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm
perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
Hysbysiadau Dyfarnu Contract ar y gweill
-
Fframwaith
Cyflenwi Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Cam 1 (Gwasanaethau a Reolir) – i’w
ddyfarnu ym mis Ionawr. Bydd y Fframwaith yn cynnwys 3 lot gwasanaeth
(Gwasanaethau Meddal, Gwasanaethau Caled a Rheoli Gwasanaethau Cyflawn
(TFM)) ar lefel Cymru gyfan. Bydd NPS yn helpu dau sefydliad cwsmeriaid
gyda chystadlaethau bach o’r lotiau Gwasanaethau Meddal a TFM ar gyfer eu
dyfarnu ddiwedd Ionawr 2016. Bydd canllawiau i gwsmeriaid ar gael ar GwerthwchiGymru cyn hir.
Adroddiadau Canlyniadau Grwpiau Fforwm Categori
-
Mae’r
Adroddiad Canlyniadau Cyfleustodau ar gael yn awr ar GwerthwchiGymru.
Cyswllt:
NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
|
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Contract
- Gwasanaeth
Post Cymru Gyfan, Fframwaith Gwasanaethau Cludo ac Offer Ystafell Bost – i’w
gyhoeddi fis Ionawr 2016.
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
Cyswllt: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
Fflyd a Thrafnidiaeth
Adroddiadau Canlyniadau Grwpiau Fforwm Categori
-
Adroddiad
Canlyniadau Darnau Sbâr Cerbydau ar gael yn awr ar GwerthwchiGymru.
Diweddariadau
-
Cyflenwi
Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig – mae Canllaw Cwsmeriaid a Rhifau Adnabod Catalogau eFasnachu Cymru ar gael yn awr ar GwerthwchiGymru.
Bydd y GCC yn cydlynu mini-gystadlaethau rhanbarthol ar y cyd ym mhob un o'r rhanbarthau rhwng mis Ionawr a mis Chwefror. Dylai cwsmeriaid gysylltu â thîm Fflyd y GCC os yw eu sefydliad yn dymuno cymryd rhan yn y mini-gystadlaethau. Nid yn unig yw’r GCC yn ceisio cymryd baich y mini-gystadleuaeth i ffwrdd o gwsmeriaid, ond disgwylir i'r ymrwymiad ar y cyd wella canlyniadau.
Cyswllt: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
|
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
Diweddariadau
- Gwasanaethau
Sicrwydd Gwybodaeth – Cyn hir bydd NPS yn gwahodd adborth ar y dogfennau
tendro. Os hoffai sefydliadau prynu NPS gyfrannu, cysylltwch â’r cyfeiriad
e-bost isod.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Proffesiynol
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
Diweddariadau
-
Ymgynghoriaeth Adeiladu - rydym yn awr yn cynnig set
integredig o gyngor ac arweiniad ar ymgynghori sy’n ymdrin â thua 30 o
ddisgyblaethau sy’n cynnwys gwasanaethau proffesiynol Eiddo, Seilwaith ac
Ystadau. Os hoffech i un o’r tîm Gwasanaethau Proffesiynol ddangos i chi’r
hyn sydd gennym i’w gynnig i’ch sefydliad, cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost
isod. Neu, gallwch weld y cytundebau ar GwerthwchiGymru. Rydym
hefyd yn bwriadu creu grŵp rheoli fframwaith fforwm categori, a byddem yn
croesawu gwirfoddolwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Cysylltwch
â Paul Griffiths yn y cyfeiriad e-bost isod os hoffech drafod y mater
ymhellach.
- Yswiriant – mae is-grŵp Fforwm Categori wedi’i sefydlu
i fwrw ymlaen â datblygiad dogfennaeth y Gwahoddiad i Dendro gyda
chyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer mis Ionawr.
Grwpiau Fforwm Categori (GFfC) - Galwad am gynrychiolwyr
- Ymgynghoriaeth Busnes – mae ein Grŵp Fforwm Categori wedi
datblygu strategaeth gyffrous i ddiwallu anghenion ymgynghori busnes y
sector cyhoeddus yng Nghymru. Cymeradwywyd hyn gan Grŵp Cyflawni'r
GCC ym mis Tachwedd. Rydym yn awr yn symud ymlaen gyda nifer o brosiectau
caffael ymgynghori busnes i gefnogi gwasanaethau Addysg, ffyrdd amgen o
gynnig gwasanaethau, a chyflawni effeithlonrwydd gwasanaethau.Yn ogystal â
helpu ni i lunio'r rhain, rydym hefyd yn edrych am gymorth i nodi sut y
gallwn rannu adnoddau mewnol ar draw sefydliadau. Rydym felly yn edrych am
gynrychiolaeth fwy eang i’r GFfC i'n galluogi i gyflawni ar eich rhan.
Cysylltwch â Paul Griffiths ar y blwch post isod os hoffech drafod y mater
ymhellach.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gov.uk
6. Arbedion
Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 4.73% y flwyddyn ariannol
hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn
yn cynnwys arebdion wedi'u negodi a chytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r
GCC.
Mae'r arbedion yn hafal i £2,662,915 rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Hydref 2015.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch
â'ch Cynrychiolydd
Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
7. Cyhoeddiadau a chyflawniadau staff y GCC
Daeth secondiad Diana Francis i ben yn ddiweddar ac felly mae hi wedi dychwelyd i weithio i'r Swyddfa Gartref. Yn cymryd lle Diana fel Pennaeth Categori ar gyfer Fflyd a Thrafnidiaeth yw Jackie Kay. Mae Kate Johnston wedi cael ei dyrchafu i Reolwr Categori o fewn y categori Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes. Mae gennym hefyd ddau aelod newydd o staff; Stuart Smith sydd wedi symud o'r adran gaffael yng Nghyngor CNPT i ddod yn Bennaeth Categori ar gyfer Gwasanaethau Pobl, a Phil Joslin sydd wedi symud yn fewnol o'r Uned Fasnachol a Chontractau i ddod yn Rheolwr Categori ar gyfer TGCh.
Cyflawniadau Staff y GCC
Mae aelodau staff canlynol y GCC wedi llwyddo i
ennill cymwysterau proffesiynol yn ystod 2015 a hoffem eu llongyfarch ar eu
hymroddiad i ddatblygu fel gweithwyr caffael proffesiynol:
Karen Roberts - MSc mewn Rheolaeth Caffael Strategol
James Roberts - MSc mewn Rheolaeth Caffael Strategol
Faye Haywood - MCIPS
Paul Robertson - MCIPS
Jonathan Rogers - MCIPS
Phil Joslin - MCIPS
Lisa McBride - CIPS Lefel 4
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|