2. Newyddion
Digwyddiad Ymgysylltu â
Chwsmeriaid Teithio a Llety Busnes
Cyhoeddodd
y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ddyfarniad y Fframwaith Atebion Teithio
Busnes a Llety ym mis Hydref ac ar unwaith dechreuodd gael ceisiadau am ragor o
wybodaeth gan nifer o gwsmeriaid oedd â diddordeb. Cafodd y Digwyddiad
Ymgysylltu â Chwsmeriaid cyntaf gyda CTM, Cwmni Rheoli Teithio y GCC, ei
drefnu a’i gynnal yn ddiweddar ym Medwas. Roedd 8 o sefydliadau cwsmeriaid y GCC yn bresennol yn y digwyddiad llwyddiannus, a fu’n cwrdd â Thîm Gweithredu
CTM, a byddant yn awr yn cydweithio i roi’r gwasanaeth ar waith. Bydd hyn yn
helpu cwsmeriaid i fanteisio ar lawer o fuddiannau’r fframwaith, gan gynnwys:
- ffioedd archebu
cystadleuol;
- arbedion ar eu gwariant ar
deithio busnes;
-
bydd eu gwariant yn y maes hwn yn fwy gweladwy;
- adroddiadau Gwybodaeth
Reoli deallus;
- arbenigedd y diwydiant;
- cydymffurfiaeth uwch â pholisi
teithio;
- gwell dyletswydd gofal am
eu teithwyr.
Mae’r GCC yn awyddus iawn i sicrhau bod pob
cwsmer yn cael yr un cyfle i gwrdd â CTM, ac mae’n gobeithio cynnal rhagor o
ddigwyddiadau rhanbarthol i hwyluso’r ymgysylltu hwn.
Cysylltwch
â NPSPeopleServices&Utilities@wales.gsi.gov.uk os hoffech drafod y
fframwaith yn fanylach neu os hoffech fod yn bresennol mewn digwyddiad ymgysylltu
rhanbarthol.
|
Dangos
Cydweithredu Effeithiol mewn Digwyddiad Caffael Cyhoeddus
Rhoddodd cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector
cyhoeddus groeso cynnes i Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth, mewn digwyddiad arbennig a drefnwyd i ddangos cydweithredu
effeithiol mewn caffael cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd ar 19 Tachwedd 2015.
Roedd y digwyddiad yn dathlu cydweithredu a
cheisiadau ar y cyd mewn caffael cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi’r Canllaw
Ceisiadau ar y Cyd yn 2013. Mae’r canllaw wedi’i gynllunio i helpu busnesau
bach a chanolig a micro yng Nghymru i sylweddoli manteision ceisiadau ar y cyd
(ffurfio consortia) drwy roi sylw i heriau cydweithredu effeithiol i sicrhau
twf eu busnesau.
Yn ystod y digwyddiad, gwelwyd tystiolaeth o
lwyddiant y canllaw drwy gyflwyniadau gan nifer o Brosiectau Arddangos, ac mae
eu hastudiaethau achos wedi’u cynnwys yn yr 'Adroddiad Gwersi a
Ddysgwyd' sydd newydd ei gyhoeddi. Ers 2013, bu 12 prosiect wedi’u cynllunio ar gyfer consortia gan gaffael cyhoeddus yng Nghymru, gan
gynnwys pum fframwaith y GCC.
Mae
canllawiau ceisio ar y cyd, astudiaethau achos a gwybodaeth ddefnyddiol i
brynwyr a chyflenwyr, ar gael yma.
|
3. Fframweithiau Cyfredol
|
|
Mae rhestr
o Fframweithiau cyfredol y NPS sydd ar gael i’w defnyddio ar ein gwefan.
Mae
canllaw i gwsmeriaid ar gyfer pob fframwaith i’w cael yn Adran y NPS ar GwerthwchiGymru.
|
4. Eich gair. Ein gweithred
Rydym yn parhau i gymryd adborth gan gwsmeriaid ac yn gweithio'n ddi-baid i roi sylw i hyn. Gweler un o’r enghreifftiau mwyaf diweddar isod:
© Hawlfraint y Goron (2014) Visit Wales
Eich gair: : "Wyddom ni ddim pwy yw pwy yn y GCC felly nid
ydym yn siŵr pwy i gysylltu â hwy gyda’n hymholiadau.”
Ein hymateb: Rydym wedi creu Cyfeiriadur Cysylltiadau'r GCC,
gyda manylion cyswllt Staff NPS a gwybodaeth am eu rolau a’u cyfrifoldebau. Mae’r
cyfeiriadur ar gael ar gais. I wneud cais, cysylltwch â Swyddog Cyfathrebu'r GCC.
5. Edrych i'r Dyfodol
Er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi cymaint o rybudd ymlaen
llawn â phosibl i brynwyr a chyflenwyr am ddigwyddiadau'r GCC, rydym
wedi creu'r tablau Edrych i'r Dyfodol isod. Cysylltwch â'r blwch post categori
perthnasol am ragor o wybodaeth, a chofiwch gadw llygad ar dudalennau Twitter a LinkedIn
y GCC a gwefan GwerthwchiGymru
ar gyfer y newyddion diweddaraf am y digwyddiadau.
Digwyddiadau i Gyflenwyr
Digwyddiadau i Brynwyr
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau uchod, cysylltwch â'r blwch
post cyfatebol isod:
Adeiladu a Rheoli
Cyfleusterau
Fflyd a Thrafnidiaeth
Bwyd
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Gwasanaethau Pobl
a Chyfleustodau
Gwasanaethau Proffesiynol
6. Gweithgarwch ar y gweill yn
ôl categori
Mae yna nifer o Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen
Llaw a Hysbysiadau Contract wedi’u rhestru isod. Gofynnir i chi rannu'r
wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o
ddiddordeb iddynt.
Os byddwch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.
Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
- Rheoli Cyfleusterau Cam 2 (ar
hyn o bryd o fewn cwmpas y fframwaith yw Gwasanaethau Mecanyddol, Gwasanaethau Diogelwch, Cynnal
a Chadw Offer Ymladd Tanau, Rheoli Plâu) – disgwylir ei gyhoeddi ddechrau
Rhagfyr.
Hysbysiadau Dyfarnu Contract ar y gweill
Diweddariadau
- Fframwaith
Darparu Deunyddiau Trydanol, Gwresogi, Plymio a Deunyddiau
Cysylltiedig – mae’r Canllaw i Gwsmeriaid wedi cael ei ddiwygio i ddangos
y bydd rhai o’r cyflenwyr yn darparu danfoniadau a byddant yn gwasanaethu o
ganghennau brandiau cwmnïau cysylltiedig. Ceir rhagor o wybodaeth ar Wefan y GCC. Mae’r Canllaw i Gwsmeriaid diwygiedig ar gael ar GwerthwchiGymru
-
Fframwaith Darparu Deunyddiau Glanhau a Phorthorol - mae dwy ddogfen ychwangeol wedi'u hychwanegu i ardal y GCC ar GwerthwchiGymru:
1. Adnodd Dadansoddi Bwrdd Gwaith ar gyfer Lot 1 Deunyddiau Adeiladu Cyffredinol. Mae'r adnodd yn galluogi cwsmeriaid i gymharu prisiau yn gyflym ar gyfer basgedi o gynnyrch gan bob gyflenwr. 2. Mae rhestr graidd ychwanegol ar gyfer Lot 2 Deunyddiau mewn Swmp bellach wedi'i chynnwys. Ceir rhagor o fanylion ar GwerthwchiGymru.
Cyswllt:
NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk
|
Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes
Hysbysiadau Contract
Cyswllt: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk
|
|
Fflyd a Thrafnidiaeth
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
- Cyflenwi
Teiars a Gwasanaethau Cysylltiedig – dyfarnwyd 16 Tachwedd 2015. Mae’r
fframwaith hwn yn cynnwys gwasanaeth cyflenwi teiars, eu ffitio a’u trwsio,
ynghyd â’r holl weithgareddau cysylltiedig eraill ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus
Cymru. Mae’r Fframwaith Teiars presennol (cyfeirnod VWNPT/892) wedi cael ei
ymestyn tan 28 Chwefror 2016 i ganiatáu amser ar gyfer rhagor o gystadlaethau ac
i weithredu Fframwaith newydd y GCC. Bydd rhagor o ganllawiau yn cael eu
cyhoeddi ar GwerthwchiGymru.
|
Galwad am Gystadlaethau a Gofynion
-
Prydlesu Cerbydau - Rydym
wrthi’n casglu gofynion i sefydlu fframwaith Cymru gyfan. Os oes gan eich
sefydliad ofyniad am brydlesu cerbydau yn y 12 mis nesaf, cysylltwch â'r
blwch post isod i gael holiadur byr.
-
Prynu Cerbydau - Rydym wrthi’n
casglu gofynion i gydgrynhoi gwariant a galw ac i gynnal cystadleuaeth
drwy ocsiynau gyda Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS). Os oes gan eich
sefydliad ofyniad am brynu cerbydau yn y 12 mis nesaf, cysylltwch â'r
blwch post isod am ragor o wybodaeth.
Dyddiadau allweddol i gwsmeriaid eu nodi.
Ymrwymiad nifer cwsmeriaid – rhowch wybod i ni erbyn dydd Mercher 20
Ionawr 2016. Cynhelir y digwyddiad e-Ocsiwn Byw ar ddydd Iau 25 Chwefror
2016.
Mae 12 wythnos o amser arwain cyn cyflenwi.
Rydym yn gweithio'n agos gyda CCS ac mae’n bosibl y bydd hyblygrwydd i
drefnu digwyddiad ychwanegol, yn dibynnu ar eich gofynion ac argaeledd
CCS. Cysylltwch â ni.
-
Gwirio Trwyddedau Gyrru –
Oherwydd y newid i ddeddfwriaeth trwyddedau ym mis Ebrill 2015, mae yna
ofyniad deddfwriaethol ar unwaith i wneud hyn ar gyfer y Consortiwm
Pwrcasu Cymreig. Os oes gofyniad gan sefydliadau sy'n aelodau i
wirio trwyddedau gyrru yn flynyddol, gan gynnwys Fflyd Lwyd, cysylltwch
â'r blwch post isod.
- Darnau Sbâr i Gerbydau – Rydym wrthi’n casglu
gwybodaeth ar gyfer darnau sbâr i gerbydau gan sefydliadau sy’n
aelodau, gan gynnwys awdurdodau lleol. Os oes gennych unrhyw ofynion,
cysylltwch â'r blwch post isod
Cyswllt: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk
Bwyd
Hysbysiadau Contract
- Brechdanau wedi’u Paratoi a Llenwadau
Brechdanau, a Phrydau wedi’u Rhewi – disgwylir ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Diweddariadau
- Brechdanau
wedi’u Paratoi a Llenwadau Brechdanau, a Phrydau wedi’u Rhewi – mae
dogfennau manyleb wedi’u dosbarthu i aelodau Grŵp Fforwm y Categori Bwyd i
gael eu sylwadau cyn cyhoeddi Hysbysiad y Contract. Os hoffech gyfrannu at
y rhain, yna cysylltwch â ni yn y cyfeiriad e-bost isod.
Cyswllt: NPSFood@cymru.gsi.gov.uk
|
|
|
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Diweddariadau - galwad am gynrychiolwyr
- Mae
Strategaeth TGCh y GCC bellach wedi’i datblygu. Nod y strategaeth yw mapio
trefniadau TGCh y GCC i ateb gofynion TGCh y sector cyhoeddus ac i
ddiwallu eich anghenion busnes yn unol â blaenoriaethau’r Gweinidogion.
Rydym yn awr yn chwilio am wirfoddolwyr o sefydliadau sy’n aelod o'r GCC i
weithio â’i gilydd i ganfod pa gontractau a fframweithiau y dylai'r GCC roi
blaenoriaeth iddynt yn y pedair blynedd nesaf. Mae gweithdai cychwynnol yn
cael eu trefnu yn y Gogledd a’r De ar gyfer Chwefror 2016, a chaiff y
dyddiadau a’r lleoliadau eu cyhoeddi yn y man. Y dyddiad cau ar gyfer
enwebiadau yw 31 Ionawr 2016. Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni
yn y cyfeiriad e-bost isod.
Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk
Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau
Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Hysbysiadau Dyfarnu Contract
-
Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Cynlluniau Buddiannau Cyflogeion – dyfarnwyd 7 Rhagfyr 2015. Gall cwsmeriaid ddyfarnu'n uniongyrchol i'r Darparwr Gwasanaeth a Reolir a thrafod taliadau gwasanaeth yn seiliedig ar anghenion unigol. Mae yna nifer o gynlluniau buddiannau ar gael gan gynnwys; Cynlluniau Aberthu Cyflog, Buddiannau Iechyd a Lles, Disgowntiau Adwerthu a Hamdden, Cynlluniau Gwobrwyo a Chydnabod, a Llwyfan Buddiannau Ar-lein. Mae'r canllawiau i gwsmeriaid ar gael ar GwerthwchiGymru.
|
|
|
Gwasanaethau Proffesiynol
Diweddariadau
-
Ymgynghoriad
Adeiladu - rydym yn awr yn cynnig set integredig o gyngor ac arweiniad ar
ymgynghori sy’n ymdrin â thua 30 o ddisgyblaethau sy’n cynnwys gwasanaethau
proffesiynol Eiddo, Seilwaith ac Ystadau. Os hoffech i un o’r tîm Gwasanaethau
Proffesiynol ddangos i chi’r hyn sydd gennym i’w gynnig i’ch sefydliad,
cysylltwch â’r cyfeiriad e-bost isod. Neu, gallwch weld y cytundebau ar GwerthwchiGymru.
- Yswiriant –
mae is-grŵp Fforwm Categori wedi’i sefydlu i fwrw ymlaen â datblygiad
dogfennaeth y Gwahoddiad i Dendro gyda chyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer
mis Ionawr.
Grwpiau Fforwm Categori (GFfC) - Galwad am gynrychiolwyr
-
Ymgynghori
Busnes – mae ein Grŵp Fforwm Categori wedi datblygu strategaeth gyffrous i
ddiwallu anghenion ymgynghori busnes y sector cyhoeddus yng Nghymru. Cymeradwywyd hyn gan Grŵp Cyflawni'r GCC ym mis Tachwedd. Rydym yn awr yn symud ymlaen gyda nifer o brosiectau caffael ymgynghori busnes i gefnogi gwasanaethau Addysg, ffyrdd amgen o gynnig gwasanaethau, a chyflawni effeithlonrwydd gwasanaethau.Yn ogystal â helpu ni i lunio'r rhain, rydym hefyd yn edrych am gymorth i nodi sut y gallwn rannu adnoddau mewnol ar draw sefydliadau. Rydym felly yn edrych am gynrychiolaeth fwy eang i’r GFfC i'n galluogi i gyflawni ar eich
rhan. Cysylltwch â Paul Griffiths ar y blwch post isod os hoffech drafod y
mater ymhellach.
Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gov.uk
7. Arbedion
Mae’r GCC yn adrodd cyfradd arbedion o 4.88% y flwyddyn ariannol hon, drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn yn cynnwys arebdion wedi'u negodi a chytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i'r GCC.
Mae'r arbedion yn hafal i £2,350,020 rhwng 1 Ebrill 2015 a 30 Medi 2015.
Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.
Os
hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk
|