Cylchlythyr mis Hydref y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk 

NPW News Banner

Hydref 2015

CY Logo

Cynnwys 

1. Rhagair y Cyfarwyddwr

2. Rhaglen Waith
3. Newyddion
4. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

5. Arbedion

6. Taflu golwg

2. Rhaglen waith

 

Ers mis Medi mae’r GCC wedi dyfarnu’r contractau canlynol:


Rhaglen waith Hydref

3. Newyddion

 

Y GCC yn ennill Gwobr fawreddog CIPS

 

Gwobrau CIPS

Ar Fedi’r 9 fed fe enillodd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wobr ar gyfer y ‘Gweithrediad Caffael sydd wedi Gwella Fwyaf – O’r Cychwyn' yng Ngwobrau blynyddol Rheoli Cyflenwi'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS).

 

Mae Gwobrau Rheoli Cyflenwi CIPS yn dathlu rhagoriaeth ac enghreifftiau eithriadol o arfer gorau, gan daflu golwg gynhwysfawr ar y cwmnïau ac unigolion mwyaf arloesol yn y proffesiwn.

 

Darllenwch yr erthygl lawn ar ein gwefan.


Newidiadau pwysig i Fframwaith Llogi Cerbydau'r GCC

 

Cafodd Fframwaith Llogi Cerbydau'r GCC ei ddyfarnu mewn 3 lot. Mae sefydliadau aelod y GCC wedi mynegi ffafriaeth i'r lot sydd fwyaf addas i'w gofynion gweithredol yn y camau tendro ac OJEU. Ond ers i'r Fframwaith fod yn weithredol, daeth yn fwyfwy amlwg nad yw cymhwyso'r lotiau'n llym fel hyn yn addas i bob sefydliad yn lotiau 1 a 2. 


Mae costau rhai o'r sefydliadau aelod yn ddrutach yn lot 1 nag yn lot 2 ac fel arall, ac felly maent wedi gofyn am yr hyblygrwydd i symud rhwng lotiau (dan oruchwyliaeth a rheolaeth Tîm Categori Fflyd y GCC) er mwyn cael y prisiau gorau sydd ar gael ac i gadw'r gwariant dan y Fframwaith.

 

Ar ôl ystyried yr adborth a gafwyd gan gyflenwyr gallwn nawr gadarnhau bod sefydliadau aelod yn gallu symud rhwng lotiau, a hynny ar unwaith. Mae gan sefydliadau aelod hawl i newid lotiau ar yr amod bod pob cais i newid yn cael ei gyfarwyddo drwy Dîm Fflyd y GCC, a fydd yn rheoli'r broses drwy broses ffurfiol Hysbysu Newid Rheolaeth. Os bydd unrhyw gyflenwr neu sefydliad aelod yn peidio â dilyn y broses briodol, bydd yn torri contract ac felly ni fydd yn cydymffurfio.


eFasnachu Cymru – Gweminarau Procserve

 

Bydd Procserve, ein partneriaid eFasnachu Cymru, yn cynnal y Gweminarau canlynol i gyflenwyr dros y misoedd nesaf. Mae'r gwasanaeth am ddim i gyflenwyr a bydd yn cynnig trosolwg o’r system, cyngor a chefnogaeth, a chyflwyno manteision eFasnachu.

 

Gall cyflenwyr gofrestru yma ar gyfer sesiynau unigol.

 

28 Hydref a 9 Rhagfyr 2015

Gweddarllediad Croesawu 13:15 - 14:15

 

25 Tachwedd 2015

Gweddarllediad ‘Bitesize’ – Sut i roi cynnwys ar Procserve 13:30 - 14:00


4. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori


Mae yna nifer o Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw a Hysbysiadau Contract wedi’u rhestru isod. Gofynnir i chi rannu'r wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o ddiddordeb iddynt.


Os byddwch angen gwybodaeth bellach neu os hoffech fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau isod, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.


Construction and Facilities Management

Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau


Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw

  • Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau (Cam 2 - yn cynnwys cynnal a chadw mecanyddol, rheoli pla a gwasanaethau diogelwch) – i’w gyhoeddi ym mis Hydref.
  • Fframwaith Darparu Lloriau, Gosodiadau a Ffitiadau - i'w gyhoeddi ym mis Hydref.

 

Hysbysiadau Contract

  • Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau (Cam 1 - Gwasanaeth a Reolir) – i’w gyhoeddi ym mis Hydref.

 

Hysbysiadau Dyfarnu Contract


Cyswllt: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk

     


    Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes


    Digwyddiadau


    Cyswllt: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk



    Fleet and Transport

    Fflyd a Thrafnidiaeth

    Hysbysiadau Contract


    Hysbysiadau Dyfarnu Contract

    • Cynhaliwyd cystadleuaeth bellach a chwblhawyd ar 30 Medi 2015 ar ran 17 o randdeiliaid. Ar hyn o bryd mae'r cyflenwr llwyddiannus yn ymgymryd â gweithredu'r contract gyda rhanddeiliaid yn unigol.


    Galwad am Gystadlaethau a Gofynion

    • Prydlesu Cerbydau - Rydym wrthi’n casglu gofynion i sefydlu fframwaith Cymru gyfan. Os oes gan eich sefydliad ofyniad am brydlesu cerbydau yn y 12 mis nesaf, cysylltwch â'r blwch post isod i gael holiadur byr.

    • Prynu Cerbydau - Rydym wrthi’n casglu gofynion i gydgrynhoi gwariant a galw ac i gynnal cystadleuaeth drwy ocsiynau gyda Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS). Os oes gan eich sefydliad ofyniad am brynu cerbydau yn y 12 mis nesaf, cysylltwch â'r blwch post isod am ragor o wybodaeth.

      Dyddiadau allweddol i’w nodi gan gwsmeriaid:

      Ymrwymiad nifer cwsmeriaid – rhowch wybod i ni erbyn dydd Mercher 20 Ionawr 2016. Cynhelir y digwyddiad e-Ocsiwn Byw ar ddydd Iau 25 Chwefror 2016.
      Mae 12 wythnos o amser arwain cyn cyflenwi.

      Rydym yn gweithio'n agos gyda CCS ac mae’n bosibl y bydd hyblygrwydd i drefnu digwyddiad ychwanegol, yn dibynnu ar eich gofynion ac argaeledd CCS. Cysylltwch â ni.

    • Gwirio Trwyddedau Gyrru – Oherwydd y newid i ddeddfwriaeth trwyddedau a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2015, mae yna ofyniad deddfwriaethol ar unwaith i wneud hyn ar gyfer y Consortiwm Pwrcasu Cymreig. Os oes gofyniad gan sefydliadau sy'n aelodau i wirio trwyddedau gyrru yn flynyddol, gan gynnwys Fflyd Lwyd, cysylltwch â'r blwch post isod. 

    • Darnau Sbâr Cerbydau – Rydym wrthi’n casglu gwybodaeth ar gyfer darnau sbâr cerbydau gan sefydliadau aelod, gan gynnwys awdurdodau lleol. Os oes gennych unwrhyw ofynion, cysylltwch â'r blwch post isod.

     

    Cyswllt: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk


    Bwyd

    Bwyd


    Diweddariadau


    Cyflwynwyd papur opsiynau i Grŵp Cyflawni’r GCC ym mis Gorffennaf i gytuno i fwrw ymlaen â chwe maes blaenoriaeth. Mae papurau opsiynau penodol ar gyfer 1 a 2 isod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cyflawni ar 21 Hydref 2015.

     

    Mae Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw wedi ei gyhoeddi gan nodi’r chwe maes isod i’r farchnad.

     

    1. Brechdanau wedi’u Paratoi, Llenwadau Brechdanau a Darpariaeth Bwffe

    2. Prydau wedi’u Rhewi ar Blât

    3. Diodydd Meddal, Creision, Byrbrydau a Melysfwyd

    4. Bwydydd, Darpariaethau a Bwydydd wedi'u Rhewi

    5. Bara, Rholiau, Cacennau a Chynhyrchion Cysylltiedig

    6. Diodydd Alcoholaidd.

     

    Rhoddwyd holiadur cwmpasu i'r Grŵp Fforwm Categori yn gofyn am wybodaeth yn ymwneud â chytundebau cyfredol, gwariant a mwy, ac mae’r ymatebion yn cael eu dadansoddi.

     

    Cynhelir Digwyddiadau Ymgysylltu â Chyflenwyr ym mis Hydref / Tachwedd yng Ngogledd a De Cymru. Gall cyflenwyr gofrestru drwy wefan GwerthwchiGymru.

     

    Mae gwybodaeth bellach ar gael gan NPSFood@cymru.gsi.gov.uk


    Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

     

     

    Hysbysiadau Dyfarnu Contract

     

    Diweddariadau

     

    Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk


    People Services

    Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau

     

    Hysbysiadau Dyfarnu Contract

     

    Diweddariadau

     

    Digwyddiadau

    • Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Darparu Gweithwyr Asiantaeth

      Digwyddiad i Brynwyr: Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod gydag Awdurdodau Lleol De Cymru i gydlynu gofynion cyffredin ac i helpu hwyluso'u hymgysylltiad â'r fframwaith. Os nad oeddech yn gallu dod ond bod gennych ddiddordeb yn y Fframwaith, cysylltwch â'r blwch post isod.

    • Gweithdy Hyfforddiant Corfforaethol Cymru gyfan - Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, Dydd Mawrth 20 Hydref 10:30am - 3:00pm.
      Mae'r gweithdy hwn ar agor i bob sefydliad sector cyhoeddus Cymreig. Os oes gennych unrhyw ofynion o ran dysgu, datblygu a hyfforddi (darpariaeth fewnol ac allanol), dyma gyfle i gyfrannu at Gytundeb Fframwaith Cymru gyfan newydd i'w gyflwyno yn ystod Haf 2016. I gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â'r blwch post isod.

     

    Grwpiau Fforwm Categori

    • Iechyd Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig - Canolbarth Cymru, Dydd Mercher 21 Hydref 2015.

     

    Cyswllt: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk


    Gwasanaethau Proffesiynol

     

    Hysbysiadau Dyfarnu Contract

    • Fframwaith Gwasanaethau Casglu Arian Parod – dyfarnwyd ar 9 Medi 2015. Mae'r canllawiau ar gael ar GwerthwchiGymru.
    • Ymgynghoriaeth Adeilady (Isadeiledd) Cam 2 – dyfarnwyd ar 1 Hydref. Mae’r canllawiau ar gael ar GwerthwchiGymru.

     

    Diweddariadau

    • Ymgynghoriaeth Adeiladu (Isadeiledd) Cam 3 – dychwelwyd y tendrau ac maent wrthi’n cael eu gwerthuso.
    • Fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Fargyfreithwyr - byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad Contract yn gynnar yn yr hydref.
    • Is-gategori Ymgynghoriaeth Busnes – rydym wrthi’n cwmpasu am gymorth i gynorthwyo sefydliadau i ddatblygu darpariaeth gwasanaeth amgen ac ymgynghoriaeth addysgol.

     

    Digwyddiadau

    • Fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr - digwyddiadau lansio: 
      De Cymru, Canolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, Dydd Llun 26 Hydref 2015
      Gogledd Cymru, Cyffordd Llandudno, Dydd Llun 19 Hydref 2015
      Mae croeso mawr i gydweithwyr y sector cyhoeddus fynychu i gael rhagor o wybodaeth ar y fframwaith ac i gwrdd â'r cyflenwyr.
    • Fframwaith Gwasanaethau Casglu Arian Parod – cynhelir y digwyddiad lansio yng Nghanolbarth Cymru ym mis Tachwedd. Manylion i'w cadarnhau.
      Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer y digwyddiadau, cysylltwch â'r blwch post isod.

     

    Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk


    5. Arbedion

     

    Ar hyn o bryd, mae'r GCC yn rhedeg ar 4.67% o gyfradd redeg ar yr holl arbedion yn erbyn gwariant drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith a reolir, sy'n cynnwys arbedion ychwanegol ar gontractau wedi’u negodi a chytundebau a drosglwyddir.

     

    Cyfanswm cyffredinol yr arbedion yw £1,555,010, rhwng 1af Ebrill 2015 – 31ain Gorffennaf 2015.

    Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector yn y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.


    6. Taflu Golwg


    Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru


    Y mis hwn rydym yn taflu golwg ar Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, sef corff a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n gyfrifol am wella’r broses adeiladu yng Nghymru. Pennaeth Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yw’r Prif Weithredwr, Milica Kitson.

     

    Mae Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) yn sicrhau bod egwyddorion gweithio ar y cyd a chyflawni drwy dimau integredig, fel yr amlinellir yn adroddiadau Egan a Latham yn yr 1990au, yn dod yn arfer prif ffrwd yn y diwydiant.

     

    Eu gweithgareddau craidd yw meithrin cydweithio, hyrwyddo arfer gorau a chefnogi dull holistig o ymdrin â phob math o adeiladu yng Nghymru. Felly maent yn gyswllt byw a gweithredol rhwng y llywodraeth a'r sector adeiladu, yn gyfrwng syniadau ac yn dylanwadu ar benderfyniadau. Maent yn gweithio gyda phob rhan o'r diwydiant – o Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac awdurdodau iechyd i ddatblygwyr, cwmnïau adeiladu a chwmnïau bach a chanolig – i droi polisi da yn arfer sydd hyd yn oed yn well.

     

    Dyma'r unig sefydliad traws-sector, traws-bortffolio sy'n gwasanaethu'r diwydiant adeiladu yng Nghymru. Y neges graidd yw annog yr holl gadwyn gyflenwi i weithio fel tîm, caffael ar y cyd ac ystyried effaith hirdymor cynlluniau adeiladu – oherwydd dyma'r unig ffordd i gyrraedd targedau'r llywodraeth ar gyfer datblygu cynaliadwy, rheoli gwastraff, lleihau carbon a manteision cymunedol.

     

    Nawr yn eu pedwaredd flwyddyn ar ddeg, mae'r CEW wedi cynnal cannoedd o gynadleddau, gweithdai, seminarau a digwyddiadau adolygu cymheiriaid. Maent yn rhannu gwybodaeth a dysg drwy Glybiau Arferion Gorau, grwpiau rhwydweithio a’r rhaglenni Demonstration ac Exemplar. Mae ganddynt fwy nag erioed o gysylltiad â llywodraeth a diwydiant. Bob wythnos mae eu cylchlythyr yn cyrraedd tua 5,000 o randdeiliaid ac maent yn cynnal dros 70 o ddigwyddiadau bob blwyddyn. Maent wedi sicrhau dros filiwn o oriau dynol o gymorth o bob rhan o amgylchedd adeiledig Cymru, ac maent yn amcangyfrif bod eu prosiectau Exemplar wedi cynhyrchu dros £1 biliwn o werth i Gymru.


    Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

    e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk