Cylchlythyr mis Medi y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk 

NPW News Banner

Medi 2015

CY Logo

Cynnwys 

1. Rhagair y Cyfarwyddwr

2. Rhaglen waith
3. Newyddion
4. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

5. Arbedion

6. Taflu golwg

7. Staffio a recriwtio


2. Rhaglen waith

 

Ers mis Awst, mae’r GCC wedi dyfarnu’r contract canlynol:


Rhaglen waith Medi

3. Newyddion

 

Telathrebu Symudol PSN 

Hwylusodd y GCC gontract cyfanredol yn ôl y gofyn o Lot 6 PSN dan arweiniad CCS, ar ran y sector cyhoeddus Cymreig, sy'n cwmpasu gofynion llais a data symudol yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2015, cynhaliodd CCS e-Ocsiwn, gan nodi Telefonica fel y cyflenwr llwyddiannus.

 

Bydd y trefniant yn ôl y gofyn yn cyflawni arbedion amcangyfrifedig o 39.6% yn ôl y cyfraddau cyfredol sydd ar gael drwy gatalogau Lot 6 PSN, sef cyfanswm o arbedion gwerth oddeutu £170mil dros y cyfnod tair blynedd.

 

Mae’r GCC yn mynd i gynnal cystadleuaeth gyfanredol bellach ar gyfer Telathrebu Llinell Sefydlog ar ran sefydliadau sydd â diddordeb o dan 'Lot 3 Teleffoni Traddodiadol' o Fframwaith newydd CCS, 'Gwasanaethau Rhwydwaith RM1045'. Bydd y gystadleuaeth yn arwain at gontractau cyd-derfynol gydag un cyflenwr am gyfnod cychwynnol hyd at fis Medi 2017, gydag opsiwn am estyniad hyd at 12 mis ychwanegol.

 

Mae CCS wedi nodi arbedion cyraeddadwy oddeutu 15%, gydag arbedion posibl oddeutu 30% ar gyfer sefydliadau sydd ar gontract treigl sy'n bodoli eisoes, sydd heb fod yn destun broses gystadleuaeth.

 

Mae’r GCC yn bwriadu cynnal yr ymarfer gystadleuaeth hon unwaith yn unig, a byddwn yn gallu nodi dyddiad trawsnewid pob sefydliad. Mae dal angen i sefydliadau nad ydynt angen adnewyddu eu contract tan rywbryd yn 2016, ddarparu gwybodaeth ar gyfer y gystadleuaeth hon nawr.

 

Mae'n rhaid i sefydliadau sydd â diddordeb, ddarparu'r holl ddata y gofynnir amdano erbyn y dyddiad cau estynedig, sef 4 Medi 2015. I gael rhagor o wybodaeth a dogfennau templed, cysylltwch â blwch post TGCh y GCC: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk



e Fasnachu Cymru - Gwe-seminarau Procserve


Bydd ein partneriaid eFasnachu Cymru, ProcServe yn cynnal y Gwe-seminarau canlynol i gyflenwyr dros y misoedd nesaf. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i gyflenwyr a bydd yn cynnig trosolwg o’r system, cyngor a chefnogaeth, a chyflwyno manteision eFasnachu.

 

Gall cyflenwyr gofrestru yma ar gyfer sesiynau unigol.

 

30 Medi 2015

Gwe-ddarllediad ‘Bitesize’ - eAnfonebu 13:30 - 14:00

 

28 Hydref a 9 Rhagfyr 2015

Gwe-ddarllediad Croesawu 13:15 - 14:15

 

25 Tachwedd 2015

Gwe-ddarllediad ‘Bitesize’ – Sut i roi cynnwys ar Procserve 13:30 - 14:00



4. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori


Mae yna nifer o Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw a Hysbysiadau Contract wedi’u rhestru isod. Gofynnir i chi rannu'r wybodaeth hon gyda chynifer o gyflenwyr â phosibl os ydych yn credu y byddent o ddiddordeb iddynt.


Os byddwch angen gwybodaeth bellach neu os hoffech fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau isod, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy e-bost.



Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau


Diweddariadau

 

  • Fframwaith Deunyddiau Glanhau a Phorthorol i gael ei ddyfarnu ym mis Medi. Bydd y fframwaith yn cynnwys tri pharth daearyddol yn cynnwys gogledd Cymru, canolbarth a gorllewin Cymru, a de Cymru ar gyfer deunyddiau ac offer cyffredinol yn ogystal â lot Cymru gyfan ar gyfer cemegau glanhau ar baledi.
  • Fframwaith Cyflenwi Deunyddiau Trydanol, Gwresogi, Plymio a Deunyddiau Cysylltiedig – mae’r gwerthusiad yn mynd yn ei flaen a’r Fframwaith i fynd yn weithredol yn hwyr ym mis Medi.
  • Fframwaith cyflenwi Halencraig – mae’r tendrau wedi eu dychwelyd ac meant ar hyn o bryd yn cael eu gwerthuso
  • Cyfleusterau Rheoli Gwasanaeth Cyfnod 1 – Rheoli Gwasanaeth.  Bydd  Hysbysiad Contract yn cael ei gyhoeddi yn ystod Mis Medi.  Mae’r cyfnod cyntaf  wedi ei rannu yn dri, lot Gwasanaethau Caled, lot Gwasanaethau Meddal a lot Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Cyflawn.  Bydd pob lot yn cynnwys un rhanbarth Cymru gyfan. Bydd Diwrnodau Cynigydd yn cael eu trefnu ym Mis Medi, bydd y manylion  am y digwyddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar GwerthwchiGymru yn y man


Cyswllt: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk

     

    Construction and Facilities Management

    Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes


    Diweddariadau

    • Darparwr Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Gwasanaethau Argraffu – mae’r trefniant pontio wedi cael ei ymestyn am 2 fis tan 31 Hydref 2015. Mae’r tendrau ar gyfer Fframwaith Gwasanaethau Argraffu Cymru Gyfan yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd ac mae'r Fframwaith i gael ei ddyfarnu ym mis Hydref.
    • Rydym wrthi'n cwmpasu gofynion ar gyfer Gwasanaethau Post a Negeswyr. Mae'r templed wedi cael ei ddosbarthu i holl gynrychiolwyr y Grŵp Fforwm Categori.

     

    Grwpiau Fforwm Categori

    • Cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a Llachar, Gwisgoedd, Dillad Gwaith a Dillad Hamdden - Gogledd Cymru 15 Medi 2015 a De Cymru 22 Medi.

     

    Cyswllt: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk



    Fleet and Transport

    Fflyd a Thrafnidiaeth


    Hysbysiadau Contract

    • Teiars – Hysbysiad Contract i gael ei gyhoeddi yn fuan.

     

    Hysbysiadau Dyfarnu Contract

    • Cardiau Tanwydd – mini gystadleuaeth i gael ei dyfarnu ym mis Medi.

    Diweddariadau

    • Prydlesu Cerbydau - rydym wrthi’n casglu gofynion i sefydlu fframwaith Cymru gyfan. Os oes gan eich sefydliad ofyniad ar gyfer prydlesu cerbydau yn y 12 mis nesaf, cysylltwch â'r blwch post isod i gael holiadur byr.
    • Prynu Cerbydau - rydym wrthi’n casglu gofynion i gydgrynhoi gwariant a galw a rhedeg cystadleuaeth trwy ocsiynau gyda Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS). Os oes gan eich sefydliad yn ofyniad o ran prynu cerbydau yn ystod y 12 mis nesaf, cysylltwch â'r blwch post isod am ragor o wybodaeth.

      Dyddiadau allweddol i gwsmeriaid eu nodi:
      Ymrwymiad cyfaint cwsmeriaid - 18 Medi 2015
      Digwyddiad e-Ocsiwn Byw - 22 Hydref 2015
      Cerbydau a archebwyd o fewn tri mis o’r e-Ocsiwn, amser arwain o 12 wythnos cyn darparu.
      Ymrwymiad cyfaint cwsmeriaid - 20 Ionawr 2016
      Digwyddiad e-Ocsiwn Byw - 25 Chwefror 2016
      Cerbydau a archebwyd o fewn tri mis o’r e-Ocsiwn, amser arweiniol o 12 wythnos ar gyfer cyflwyno.

      Rydym yn gweithio'n agos gyda CCS ac efallai y bydd rhywfaint o hyblygrwydd i drefnu digwyddiad ychwanegol, yn dibynnu ar y gofynion ac argaeledd CCS.
    • Gwirio Trwyddedau Gyrru – mae’r penderfyniad i’w wneud yng nghyfarfod y Grŵp Cyflawni ym mis Medi i gynnwys hwn ar Biblinell Fflyd a Thrafnidiaeth. Mae yna ofyniad deddfwriaethol i wneud hyn ar gyfer Consortiwm Prynu Cymru oherwydd y newid yn y gyfraith ar drwyddedau ym mis Ebrill 2015. Os oes gan sefydliadau aelod ofyniad, cysylltwch â'r blwch post isod er mwyn rhoi’r nifer o drwyddedau sydd i gael eu gwirio bob blwyddyn, gan gynnwys Fflyd Lwyd.
    • Darnau Sbâr Cerbydau – mae’r penderfyniad i'w wneud yng nghyfarfod y Grŵp Cyflawni ym mis Medi i gynnwys hwn ar Biblinell Fflyd a Thrafnidiaeth. Mae'r trefniadau presennol yn dod i ben ym mis Mai 2016 ac mae angen trefniant newydd yn ei le. Mae gofynion yn cael eu casglu oddi wrth awdurdodau lleol ac os oes gan unrhyw sefydliadau aelod eraill ofyniad, cysylltwch â'r blwch post isod.

     

    Cyswllt: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk



    Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

     

    Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw


    Hysbysiadau Dyfarnu Contract

     

    Diweddariadau

    • Telathrebu Sefydlog - dyddiad cau ar gyfer dychwelyd Templed Casglu Data Sefydliadau a Memorandwm Dealltwriaeth wedi’i lofnodi yw 4 Medi 2015.

     

    Cyswllt: NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk



    People Services

    Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau

    Hysbysiadau Contract

     

    Diweddariadau

    • Atebion Teithio a Llety Busnes – mae’r tendrau wedi’u dychwelyd ac yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd.
    • Technolegau a Gwasanaethau Cynorthwyol - tenders have been returned and evaluated, with the framework due to go live early October.
    • Iechyd Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig - mae nifer o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru wedi bod mewn cyswllt â’r GCC i gynnal mini-gystadleuaeth cydweithredol ar eu rhan ar gyfer darparu Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol. Ar hyn o bryd mae gennym sefydliadau sydd â diddordeb ar sail Cymru. Os hoffai’ch sefydliad gael ei gynnwys (nid oes rhaid i chi fod yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru) cysylltwch â'r blwch post isod.

     

    Grwpiau Ffocws Cwsmeriaid

    • Grŵp Ffocws Cwsmeriaid Iechyd a Galwedigaethol a Gwasanaethau Cysylltiedig - Gogledd Cymru, 21 Hydref 2015. Byddwn yn rhoi diweddariad mewn perthynas â mini-gystadlaethau ac astudiaethau achos cyfredol, ac yn canolbwyntio ar ddiwedd contract presennol EAP Cymru gyfan.
    • Grŵp Ffocws Cwsmeriaid Technolegau a Gwasanaethau Cynorthwyol – Canolbarth Cymru, 17 Medi 2015. Byddwn yn darparu canllawiau i’r fframwaith ac opsiynau am drefniant yn ôl y gofyn uniongyrchol a mini-gystadlaethau.


    Cyswllt: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk

     


    Gwasanaethau Proffesiynol

     

    Hysbysiadau Dyfarnu Contract

    • Mae Fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol gan Gyfreithwyr, y GCC wedi’i ddyfarnu ac yn weithredol o 1 Medi 2015. Mae’r canllawiau ar gael ar GwerthwchiGymru a bydd digwyddiadau lansio i gwsmeriaid yn cael eu trefnu er mwyn i randdeiliaid gwrdd â’r cyflenwyr. Manylion i ddilyn yn fuan.
    • Gwasanaethau Casglu Arian – i gael ei ddyfarnu yn gynnar ym Mis Medi.
    • Ymgynghoriaeth Adeiladu Cyfnod 2 – i gael ei ddyfarnu ym mis Medi ac yn weithredol o fis Hydref.

     

    Digwyddiadau i Gyflenwyr

    • Fframwaith Effeithlonrwydd Adnoddau i Gymru – mae’r Fframwaith wedi bod yn weithredol am 13 mis.  Byddwn yn trefnu cwrdd â’r cyflenwyr i gasglu adborth i’n helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a’r hyn y gallem ei wella. Manylion y digwyddiadau:
      De Cymru – Canolfan Waterton, Pen-y-bont 10:00 - 12:30
      Gogledd Cymru - Venue Cymru, Llandudno 13:00 - 15:30

     

    Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk


    5. Arbedion

     

    Mae’r tabl isod yn dangos dadansoddiad o’r arbedion sydd wedi cael eu cyflawni a’r gwariant yn ôl categori, rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mehefin 2015.

     

    Ar hyn o bryd, mae’r GCC yn rhedeg ar gyfradd redeg o 3.04% ar arbedion yn erbyn gwariant drwy Gontractau a Chytundebau Fframwaith wedi’u rheoli. Mae hwn yn cynnwys ystod o Gytundebau sydd wedi'u trosglwyddo i’r GCC.


    Arbedion mis Medi


    Os byddwch angen eglurhad pellach o'r arbedion hyn, cysylltwch â'ch Cynrychiolydd Sector y GCC neu'ch Pennaeth Caffael.


    6. Taflu Golwg


    Logo canolfan cyd-weithredol cymru


    Cymorth newydd â'r nod o helpu busnesau yn cydweithio i dyfu.

     

    Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn brosiect newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a reolir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Mae'n darparu cymorth dwys un i un i fusnesau cymdeithasol sydd â'r uchelgais a'r potensial i dyfu.

     

    Busnesau cynaliadwy yw fusnesau cymdeithasol, sydd â nodau cymdeithasol sy'n diffinio'r ffordd y maent yn gweithredu. Gall busnesau cymdeithasol gynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol a busnesau wedi’u perchen gan gyflogwyr.

     

    Mae'r sector busnes cymdeithasol eisoes yn gwneud cyfraniad mawr i economi Cymru, o thua £1.7biliwn y flwyddyn, ond mae ganddo'r botensial i gyflawni mwy. Mae'r prosiect newydd yn cefnogi busnesau cymdeithasol sy’n bodoli eisoes , i ehangu ac amrywio, a chydweithio i gael mynediad at gaffael sector cyhoeddus a hyrwyddo’u cynnyrch a'u gwasanaethau.

     

    Mae'r prosiect hefyd yn cynnig cymorth i fusnesau bach a chanolig sy’n edrych i gydweithio a ffurfio consortia i wneud cais ar y cyd am gyfleoedd caffael..

     

    Mae ein tîm o ymgynghorwyr yn arbenigwyr mewn gweledigaeth a chynllunio twf, llywodraethu effeithiol, strwythurau cyfreithiol a chorffori, marchnata, cynllunio ariannol, datblygu'r gweithlu, cynllunio busnes, gwneud ceisiadau ar y cyd a datblygu consortia.

     

    Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o Fusnes Cymru, sy'n cynnig cymorth a chyngor i fusnesau yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am 'Busnes Cymdeithasol Cymru'. 


    Logos SBW

    7. Staffio a recriwtio


    Mae Pennaeth Categori TGCh wedi gadael y GCC i ddilyn cyfleoedd eraill. Os oes gennych unrhyw ymholiadau gweithredol cysylltwch â Rob Newman neu Carole Hixson.

     

    Mae dyddiad cau cyflwyno ceisiadau ar gyfer y tair swydd Pennaeth Categori ar gyfer Fflyd, Bwyd a Gwasanaethau Pobl wedi cau erbyn hyn, ac mae'r broses sifftio wedi’i chynnal. Derbyniwyd nifer fawr o geisiadau o safon uchel ac mae’r cyfweliadau wedi’u hamserlennu drwy gydol mis Medi.


    Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,

    e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk