Cylchlythyr y GCC - Gorffennaf 2015

www.gcc.llyw.cymru

ffn: 0300 7900 170 

gwasanaethcaffaelcenedlaethol@cymru.gsi.gov.uk 

NPW News Banner

Gorffennaf 2015

CY Logo

Cynnwys 

1. Rhagair y Cyfarwyddwr
2. Newyddion
3. Rhaglen Waith
4. Gweithgarwch ar y gweill

5. Arbedion

6. Taflu golwg

2. Newyddion


Digwyddiadau caffael rhanbarthol: Archebwch eich lle

 

Erbyn hyn mae gennym dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau caffael rhanbarthol. Ar yr agenda fydd y Datganiad Polisi Caffael Cymru diwygiedig, y cyfleoedd a gyflwynir gan Dynodi, a phiblinell a Chynllun Busnes y GCC.

 

Digwyddiad De Cymru - 3 Gorffennaf, 9:30-13:00, Canolfan Waterton, Pen-y-bont

Digwyddiad Gogledd Cymru - 23 Gorffennaf, 9:30-13:00, Gladsdir, Llanrwst

 

I archebu eich lle, anfonwch e-bost at: Rebecca.Rees2@cymru.gsi.gov.uk

 


Cytundeb

Hysbysiad o Ddyfarniad - Fframwaith Darparu Gwasanaethau Glanhau

 

Mae'r Fframwaith Darparu Gwasanaethau Glanhau (NPS-CFM-008-14) wedi'i ddyfarnu ac ar gael at ddefnydd sefydliadau sy'n aelodau o'r GCC.


Mini-Gystadleuaeth Deunydd Ysgrifennu a Phapur

 

Mae'r GCC yn cynnal mini-gystadleuaeth Deunydd Ysgrifennu a Phapur ar hyn o bryd, yn erbyn Fframwaith Cyflenwadau Swyddfa ar gyfer y Sector Cyhoeddus Ehangach, Gwasanaethau Masnachol y Goron RM3703. Mae ceisiadau wedi'u cyflwyno ac yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Bydd y mini-gystadleuaeth yn arwain at benodiad sengl, a fydd yn cael ei ddyfarnu ym mis Gorffennaf.


Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk


Fframweithiau a Chontractau Cyfredol
 
Mae rhestr o bob Fframwaith a Chontract Cyfredol y GCC bellach ar gael ar ein gwefan.


Gwasanaethau Asiantaethau'r Cyfryngau 
 
A ydych yn ymwybodol bod gan y GCC fframwaith ar gyfer Gwasanaethau Asiantaethau’r Cyfryngau? Mae'r Fframwaith wedi'i rannu'n dair lot ac yn cynnwys gwahanol fathau o hysbysebion ar draws yr holl gyfryngau.

 
Mae'n cynnwys cyhoeddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a chyfnodolion, cylchgronau a gwefannau proffesiynol yn y DU a thramor yn unol â gofynion penodol y cwsmer.
 

Gweler mwy ar ein Gwefan.


3. Rhaglen Waith


Ers mis Mehefin, mae’r GCC wedi dyfarnu’r contractau canlynol:

 

Rhaglen Waith Gorffennaf

4. Gweithgarwch ar y gweill yn ôl categori

Os byddwch angen gwybodaeth bellach neu os hoffech fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau isod, cysylltwch â'r tîm perthnasol drwy ebost.


Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau


Cyswllt: NPSConstruction&FM@cymru.gsi.gov.uk

Adeiladu a Rheoli Cyfleusterau

Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

Gwasanaethau Corfforaethol a Chymorth Busnes

  • Cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a Llachar - Gwisgoedd, Dillad gwaith a dillad hamdden - Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw 20 Mehefin.
  • Offer Post, Negeswyr ac Ystafell Bost - Grwpiau Fforwm Categori ar 14 Gorffennaf (Gogledd Cymru) a'r 29 Gorffennaf (De Cymru).


Cyswllt:

NPSCorporateServices@cymru.gsi.gov.uk


Fflyd a Thrafnidiaeth

  • Cymeradwyodd Grŵp Cyflawni'r GCC argymhelliad ddefnyddio Fframwaith Prynu Cerbydau Gwasanaethau Masnachol y Goron RM1070 yn ddiweddar. Aeth y Fframwaith hwn yn fyw ar 2 Rhagfyr 2011 ac mae'n dod i ben Rhagfyr 1 2018.


Cyswllt: NPSFleet@cymru.gsi.gov.uk

Fflyd a Thrafnidiaeth

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

  • Yn dilyn digwyddiad llwyddianus i gyflenwyr ar 1 Gorffennaf, gyda thros 50 o gwmnïau a bron 100 o bobl, bydd yr Hysbysiad Contract ar gyfer Cynhyrchion a Gwasanaethau TG yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.
  • Telathrebu Sefydlog - Trefniant yn ôl y gofyn i ddod ym mis Gorffennaf/Awst (yn ddibynnol ar ddyfarniad Gwasanaethau Masnachol y Goron o'u Fframwaith Gwasanaethau Rhwydwaith RM1045). 

Cyswllt:

NPSICTCategoryTeam@cymru.gsi.gov.uk


Gwasanaethau Pobl

Gwasanaethau Pobl a Chyfleustodau

  • Darparu Atebion Teithio a Llety Busnes: Cyhoeddwyd Hysbysiad Contract ar 15 Mehefin. Ymatebion i'w dychwelyd erbyn 23 Gorffennaf 2015. Mae angen enwebeion ar gyfer y Panel Gwerthuso - e-bostiwch y blwch post isod os oes diddordeb gennych.
  • Hysbysiadau Contract sydd ar y gweill ym mis Gorffennaf: Buddion Staff, Technolegau a Gwasanaethau Cynorthwyol
  • Technolegau a Gwasanaethau Cynorthwyol - Digwyddiadau Gwybodaeth i Gyflenwyr:
    Dydd Llun, 13 Gorffennaf, 13:00 - 15:30pm, Canolfan Dechnoleg Waterton, Pen-y-bont
    Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf, 13:00 - 15:30pm, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno
  • Eitemau Cyfarpar Cymunedol AW3996: Cyfarfod Grŵp Ffocws Cwsmeriaid Cymru Gyfan, Dydd Iau 9 Gorffennaf 10am-15:30pm, Llandrindod
  • Hyfforddiant Staff Adnoddau Dynol: Rydym wrthi'n pennu cwmpas gofynion defnyddwyr ar hyn o bryd. Anfonwch e-bost at y blwch post isod os hoffech gymryd rhan neu dderbyn copi o'r holiadur.
  • Mae ein fframwaith Gwasanaeth a Reolir ar gyfer Darparu Gweithwyr Asiantaeth wedi bod yn weithredol ers 2 fis. Os nad ydych wedi ymgysylltu, neu os hoffech dderbyn y Pecyn Defnyddwyr i Gwsmeriaid eto, cysylltwch â'r tîm ar y blwch post isod. Bydd y fframwaith yn helpu i ateb gofynion eich sefydliad ar gyfer gweithwyr dros dro, a bydd y tîm categori yn hapus i drafod y fframwaith, ateb unrhyw ymholiadau, a chynorthwyo eich sefydliad wrth ymgysylltu a gweithredu'r gwasanaeth ar lefel leol.


Cyswllt: NPSPeopleServices&utilities@cymru.gsi.gov.uk


Gwasanaethau Proffesiynol

Gwasanaethau Proffesiynol

  • Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu Isadeiledd (Cam 2) - Cyhoeddwyd Hysbysiad Contract. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 2 Gorffennaf.
  • Fframwaith Gwasanaethau Casglu Arian - Cyhoeddwyd Hysbysiad Contract. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6 Gorffennaf.
  • Fframwaith Gwasanaethau Cyfreithiol (Cyfreithwyr) i gael ei ddyfarnu ym mis Gorffennaf
  • Gwasanaethau Yswiriant - Fforwm Categori wedi'i drefnu 9 Gorffennaf gyda chynhadledd fideo rhwng swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Medwas a Chyffordd Llandudno.
  • Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu (Eiddo) - Digwyddiadau Cyflenwyr:
    Dydd Llun, 13 Gorffennaf, 13:30 - 15:30pm, Canolfan Dechnoleg Waterton, Pen-y-bont
    Dydd Llun, 20 Gorffennaf, 13:30 - 15:30pm, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno.
    Croesawn gynrychiolwyr o'n 73 sefydliad sy'n aelodau i gwrdd â chyflenwyr y fframwaith.
  • Cyn hir, byddwn yn cyhoeddi Hysbysiad Contract am Ymgynghoriaeth Adeiladu Isadeiledd (Cam 3). Fel rhan o'r cam hwn byddwn yn edrych i benodi ymgynghorwyr Rheoli Cyfleusterau i gynorthwyo sefydliadau wrth gynllunio a monitro gweithgarwch yn y dyfodol trwy Fframwaith Rheoli Cyfleusterau y GCC. 

Cyswllt: NPSProfessionalServices@cymru.gsi.gov.uk


5. Arbedion

Gall y GCC adrodd arbedion ariannol o £7.9miliwn.

 

Mae’r tabl isod yn dangos dadansoddiad o’r arbedion sydd wedi cael eu cyflawni, yn ôl categori, rhwng mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2015.

 

Ar hyn o bryd, mae’r GCC yn rhedeg ar gyfradd redeg o 7.46% ar arbedion yn erbyn gwariant drwy gontractau a fframweithiau wedi’u rheoli. Mae hwn yn cynnwys ystod o gontractau sydd wedi'u trosglwyddo gan nifer o sefydliadau allanol yn ystod y flwyddyn ariannol 2014/15.

Arbedion

6. Taflu Golwg


Logo Ministry of Furniture


Busnes Dodrefn sefydledig yw’r Ministry of Furniture, a ddeilliodd o Remploy Furniture gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Yn 2015, cawsant eu penodi gan Remploy Limited i weithredu fel ymgynghorwyr ar gyfer eitemau etifeddol Remploy Furniture.

Mae'r busnes a gefnogir wedi ei berchen gan, ac yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan bobl sy'n gweithio yn y cwmni, gan gynnwys rheolwyr a staff sydd yn cyn-weithwyr Remploy Furniture.

 

Mae mwy na hanner o'r gweithlu yn bobl ag anableddau, yn gweithio yn y swyddfa busnes ac o fewn y gadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu. Drwy ymarfer ymagwedd gadarnhaol at gyflogi pobl ag anableddau a’r rhai sydd bellaf o'r farchnad swyddi, mae'r busnes yn gweithio'n gyson gyda chyflenwyr a rhanddeiliaid i sicrhau eu bod yn rhannu ffocws tebyg ar eu heffaith gymdeithasol.

 

Mae’r Ministry of Furniture yn ffynhonnellu, gwerthuso a dwyn ynghyd cynhyrchion sy'n addas at ddiben amgylcheddau dysgu a gweithio cyfoes. Mae'r rhain ar gael i sefydliadau sy'n aelodau’r GCC ar Lot 6 o'n Fframwaith Darparu Atebion Dodrefn:

 

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ministryoffurniture.com

 


 

Os hoffech ddad-danysgrifio o Newyddion y GCC,
e-bostiwch: Bethan.Williams13@cymru.gsi.gov.uk