Cylchlythyr y Diwydiannau Creadigol - rhifyn 9

Newyddion y sector Diwydiannau Creadigol

=============
Diwydiannau Creadigol

Rhifyn 9, Chwefror 2015

=============
pilot

Dewis Cymru ar gyfer Rhaglen Beilot fawr arall i Deledu’r Unol Daleithiau

Mae enw da rhagorol Cymru fel canolfan gynhyrchu lwyddiannus ar gyfer y diwydiannau creadigol wedi cael hwb arall gyda’r tîm sydd tu ôl i ddrama deledu proffil uchel yn yr Unol Daleithiau wedi dewis ffilmio’u cynhyrchiad newydd yng Nghymru.

Wedi ystyried lleoliadau ledled y DU ac Ewrop, bydd gwneuthurwyr y ddrama beilot, The Bastard Executioner, sef Fox 21 Television Studios, Imagine Television ac FX Productions, yn ffilmio’r prosiect yn Ne Cymru ym mis Mawrth 2015.

Mae disgwyl i’r cynhyrchiad ddod â manteision economaidd sylweddol i Gymru.  Yn 2014, bu i gynyrchiadau drama a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru wario dros £45m yng Nghymru.

Darllenwch fwy.

=============
frozen

Cwmni Cymreig yn gwneud rhaglen ddogfen ar lwyddiant animeiddiad Disney - Frozen

Mae’r gronfa Alpha, sy’n gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a Sianel 4, ac sy’n hwyluso syniadau a doniau newydd, wedi cyfrannu at raglen ddogfen a ddangosir mewn slot brig ar Ddydd Nadolig.

Cafodd Yeti - menter busnes newydd gan y cwmni cynhyrchu teledu annibynnol Rondo Media – gomisiwn gan Sianel 4 a derbyniodd gefnogaeth gan gronfa Alpha i wneud rhaglen ddogfen ar lwyddiant ffilm animeiddiedig Disney, Frozen.

Dywedodd Ian MacKenzie, Rheolwr Datblygu Amrywiaeth Creadigol Sianel 4, “Mae partneriaeth Sianel 4 â Llywodraeth Cymru wrth gefnogi Yeti wedi bod yn un o lwyddiannau mawr Cronfa Alpha”.

Dywedodd Tom Ware, Uwch Gynhyrchydd i Rondo Media, y bu cefnogaeth Cronfa Alpha yn allweddol o ran sicrhau comisiynau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Canfod mwy am Rondo Media.

=============
pride

Gwobr BAFTA i Pride

Mae’r awdur Stephen Beresford a’r cynhyrchydd David Livingstone wedi derbyn BAFTA am ‘Début Eithriadol gan Awdur, Cyfarwyddwr neu Gynhyrchydd’ am Pride. Cafodd y ddrama gomedi hanesyddol, a gynhyrchwyd gan Calamity Films gyda’r sêr Bill Nighy ac Imelda Staunton, ei hysbrydoli gan ddigwyddiadau yn ystod cyfnod Margaret Thatcher, ac mae’n dilyn grŵp o bobl weithgar hoyw a lesbiaidd a roddodd gymorth i lowyr ar streic. Cafodd y ffilm ei henwebu hefyd am ddau BAFTA arall.

Rhoddodd Sgrîn Cymru gefnogaeth i’r cynhyrchiad ganfod criw a lleoliadau lleol, gan gynnwys  pentrefi Onllwyn a Banwen yng Nghastell-nedd Port Talbot a Chastell Carreg Cennen yn Sir Gaerfyrddin, ar gyfer ffilmio ym mis Hydref 2013.

Gweld y rhestr gyflawn o’r enillwyr a’r rhai a enwebwyd yma.

=============
set fire

Set fire to the stars – Ffilmiwyd yn Abertawe

Mae Abertawe, dinas enedigol Dylan Thomas wedi rhannu’r lle blaenaf gyda seren Hollywood Elijah Wood, drwy serennu yn Set Fire To The Stars, hanes cyfnod yr awdur yn Efrog Newydd yn yr 1950au. Cafodd y cynhyrchiad ei ffilmio yn gyfan gwbl yn y ddinas gyda chefnogaeth Cyllid Cynhyrchu Llywodraeth Cymru.

Rhyddhawyd y ffilm mewn sinemâu yn ystod Hydref 2014, a derbyniodd ganmoliaeth am ei hymddangosiad gwahanol yn defnyddio sinematograffi  monocromatig, ac am berfformiadau Elijah Wood a’i gyd-seren Celyn Jones. Wrth hyrwyddo’r ffilm ar The One Show a Sioe Graham Norton ar y BBC, canmolodd Elijah Wood y ddinas fel lleoliad.

Gweld mwy yma.

=============
MIPTV

MIPTV 2015 – 13-16 Ebrill

Bydd Llywodraeth Cymru'n noddi derbyniad i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn nigwyddiad blynyddol MIPTV yn Cannes.

MIPTV yw un o farchnadoedd teledu a chynnwys digidol mwyaf sefydledig y byd, lle bydd y nifer mwyaf o weithwyr proffesiynol y diwydiant adloniant yn ymgasglu.

Bydd y digwyddiad eleni yn cynnwys 11,000 o gyfranogwyr rhyngwladol, 3,800 o brynwyr, 1,600 o gwmnïau’n arddangos a 1,700 o gwmnïau cynhyrchu.

Cynhelir y derbyniad Cymreig ar Stondin PACT/UKTI Indies a bydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynnwys Cymreig ar y llwyfan rhyngwladol yn ogystal â rhoi cyfle i'r rhai yn y sector annibynnol sy'n dymuno cynyddu cyd-gynyrchiadau i rwydweithio â chwmnïau rhyngwladol.

Gallwch ddarganfod mwy am MIPTV yma.  Anfonwch e-bost atom i wneud cais am grant teithio i fynychu’r digwyddiad a chael gwybodaeth am y Derbyniad Cymreig.

=============

Chwilio am gyfleoedd mewn marchnadoedd newydd – digwyddiad rhwydweithio ar gyfer cynrychiolwyr o Gymru a Mecsico – 3 Mawrth 2015, Caerdydd

Bydd digwyddiad rhwydweithio ar gyfer busnesau Mecsicanaidd a Chymreig, gyda ffocws arbennig ar y diwydiannau creadigol yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar Fawrth 3ydd. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i arddangos ein diwydiannau creadigol i fusnesau ac unigolion sy’n ymweld o’r sectorau animeiddio, Teledu a Ffilm, Gemau ac Apiau a’r Cyfryngau Digidol ac yn helpu cwmnïau creadigol Cymreig i ddeall y cyfleoedd a ddaw yn sgil cydweithredu â chwmnïau yn y farchnad sy'n datblygu'n gyflym ym Mecsico. Darllenwch fwy ac i archebu lle anfonwch e-bost atom.

Mae’r digwyddiad yn dilyn taith trosglwyddo gwybodaeth ddiweddar i Fecsico gan chwech o “lysgenhadon” busnesau creadigol o Gymru. Darllenwch fwy ac edrych yma i ganfod mwy am eu hymweliad.

=============

South by southwest (SXSW) – 17-22 Mawrth 2015

Bydd cerddorion o Gymru yn cael y cyfle i arddangos eu doniau yng ngŵyl SXSW yn Austin, Texas fel rhan o’r ‘British Music Embassy’, cydweithrediad ar draws y DU ym mar Latitude 30 yng nghanol Austin gydol y digwyddiad.

Bydd Cymru’n cynnal digwyddiad rhwydweithio ar 17 Mawrth, gyda pherfformiadau gan fandiau Cymreig a bydd parti agoriadol Prydain yn cael ei gyflwyno gan Huw Stephens a Cerdd Cymru: Music Wales.  Yn ystod yr wythnos bydd perfformiadau yn cwmpasu gwahanol genres, a disgwylir perfformiadau gan fandiau Cymreig yn cynnwys: Paper Aeroplanes; Catfish & The Bottlemen; Golden Fable; The People The Poet; ac Until The Ribbon Breaks. Bydd digwyddiadau eraill yn cynnwys rhwydweithio B2B a thrafodaethau rhyngwladol o gwmpas y bwrdd.

Darganfod mwy am y digwyddiad ac anfonwch e-bost atom i wneud cais am grant teithio er mwyn bod yn bresennol.

=============

Stop motion, comedi animeiddiedig – The Trampires, i ffilmio yng Nghymru

Bydd yr animeiddiwr o Gymru Michael Mort yn dechrau gweithio ar ei greadigaeth newydd The Trampires, comedi animeiddiedig ‘stop motion’ hyd llawn yn cynnwys y cymeriad animeiddiedig Chuck Steel.

Ymddangosodd Chuck Steel gyntaf yn yr animeiddiad byr Raging Balls of Steel Justice, a gafodd dderbyniad brwd mewn sawl gŵyl ffilm o gwmpas y byd, gan gynnwys  Malaga, Brasil a’r Hollywood Shorts Festival ac a ddangoswyd ar Film4.

Gyda chymorth Sgrîn Cymru Llywodraeth Cymru, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ffilmio ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle y mae tîm cynhyrchu hynod brofiadol y cwmni’n bwriadu datblygu eu stiwdio animeiddio. Cafodd y cynhyrchiad hefyd gefnogaeth Cyllid Cynhyrchu Llywodraeth Cymru, a disgwylir iddo gynhyrchu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol a chyfrannu at ddatblygu sgiliau perthnasol a gwerthadwy yng ngweithlu diwydiannau creadigol Cymru.

=============

Rhaglen Ewrop Greadigol – dyddiadau cau ar gyfer cyllid

MEDIA – Datblygu – Prosiect Unigol – dyddiad cau 16 Ebrill 2015
MEDIA – Rhaglenni Teledu – 28 Mai 2015
MEDIA – Cynllun Dethol Dosbarthu – 2 Gorffennaf 2015

I ddarganfod a ydych yn gymwys a sut i ymgeisio, anfonwch e-bost at Judy Wasdell, Rheolwr  MEDIA (the Creative Europe Desk UK Wales). Darllenwch fwy am Ewrop Greadigol.

=============

Gwasanaeth Busnes Cymru yn helpu i greu bron i 9000 o swyddi a 6580 o fusnesau newydd

Mae gwasanaeth siop-un-stop Busnes Cymru ar gyfer busnesau bach a chanolig wedi helpu i greu bron i 9000 o swyddi a 6580 o fusnesau newydd ers ei lansio ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart heddiw.

Darllenwch fwy.

=============

Dilynwch ni ar @WG_economy

Gallwch gael y diweddaraf am Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â hi drwy ein dilyn ni ar Twitter.

 

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.