Cylchlythyr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu – rhifyn 8

Newyddion y sector TGCh

=============
TGCh

Rhifyn 8, Ionawr 2015

=============
first minister cgi

Prif Weinidog Québec Philippe Couillard a Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn ymweld â swyddfa’r cwmni o Ganada CGI ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Hydref o 620 o swyddi newydd ar safle CGI o Montreal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, aeth Prif Weinidog Québec Philippe Couillard a Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones ar ymweliad â’r cwmni i glywed am yr ehangiad.

Ym mis Hydref, cyhoeddodd CGI, y pumed cwmni gwasanaethau proses technoleg gwybodaeth a busnes annibynnol mwyaf yn y byd, y byddai’n ehangu ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda chyllid busnes o £3.2m gan Lywodraeth Cymru.

Darllenwch fwy.

=============
alert

Caerdydd yw lleoliad Canolfan Gweithrediadau Diogelwch newydd Alert Logic

Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi wedi datgelu'n swyddogol Ganolfan Gweithrediadau Diogelwch a Phrif Swyddfa Ewropeaidd newydd Alert Logic sydd o'r radd flaenaf, yng Nghaerdydd.   Dywedodd y byddai buddsoddiad y cwmni yn atgyfnerthu enw da'r ardal fel prif leoliad y sector Ymddiriedaeth a Diogelwch.

Darllenwch fwy.

=============
award

Cwmni lleol yn fuddugol yng Ngwobrau Fforwm Busnes Caerffili 2014

Enillodd Blackwood Embedded Solutions Ltd Wobr Arloesedd eleni – sy'n cydnabod menter TG newydd sydd wedi dwyn buddiannau mesuradwy – am ei waith sy'n torri tir newydd gyda'r diwydiant meddygol.

Mae'r Wobr Arloesedd yn cydnabod cynnyrch, ateb neu wasanaeth newydd arloesol, sydd wedi dwyn buddiannau mesuradwy i ddefnyddwyr busnes neu gwsmeriaid mewn meysydd fel datblygu ceisiadau, e-fasnach, gwe-letya neu wasanaethau ar y we.

Rhagor o wybodaeth.

=============
next generation data

Next Generation Data ar flaen y gad o ran effeithlonrwydd ynni

Mae Next Generation Data (NGD) wedi cyhoeddi ei ganolfan mega data Ewropeaidd fel y gweithredwr canolfan data cyntaf yn y byd i gynnig amgylcheddau neuadd data aml-rac i'w gwsmeriaid sydd â chymarebau effeithiolrwydd defnydd pŵer (PUE) cytundebol o 1.0. Dyma'r radd fwyaf effeithlon o ran ynni ar y raddfa a gydnabyddir yn fyd-eang a ragnodwyd gan y Grid Gwyrdd.

Bydd y cymarebau PUE ar gael i gwsmeriaid yn ei ganolfan mega data Ewropeaidd NGD yn Ne Cymru o chwarter cyntaf 2015 ac fe'u cyflawnir drwy ddefnyddio'r pŵer solar diweddaraf a'r technolegau oeri am ddim a'u cyfuno â'r brif gyflenwad a ddaw yn gyfan gwbl o ffynonellau adnewyddadwy.

Darllenwch fwy.

=============
leadin

Asiantaeth o'r Ffindir yn dewis Abertawe fel lleoliad ei chanolfan datblygu meddalwedd a'i phrif swyddfa yn y DU

Mae asiantaeth dylunio gwasanaethau a phrofiad defnyddwyr blaenllaw o'r Ffindir wedi dewis Abertawe fel ei chanolfan datblygu meddalwedd a'i phrif swyddfa newydd yn y DU lle bydd yn creu 30 o swyddi medrus iawn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Roedd Leadin, sydd â'i phrif swyddfa yn Tampere, wedi ystyried nifer o leoliadau ar gyfer ei chanolfan meddalwedd newydd i gefnogi ei chynlluniau twf Ewropeaidd cyn dewis Abertawe lle mae ganddi gysylltiadau â Phrifysgol Abertawe.  Caiff y buddsoddiad ei gefnogi gan £570,000 o gyllid busnes Llywodraeth Cymru i gefnogi 30 o swyddi, ac mae'r broses recriwtio bellach yn mynd rhagddi.

Darllenwch fwy.

=============
dig tue

Digital Tuesday

Mae Digital Tuesday yn gymuned rwydweithio sy'n cyfarfod ar ddydd Mawrth cyntaf o bob mis fel arfer yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd – i gyfnewid gwybodaeth, trafod a chynnal busnes yn seiliedig ar y thema ddigidol.

Dros y misoedd nesaf, bydd y gymuned yn edrych ar gwmnïau TGCh a Digidol Cymru sy'n masnachu'n rhyngwladol – a'r materion sy'n gysylltiedig ag ymuno â marchnadoedd newydd; pwysigrwydd diogelu Eiddo Deallusol ac amlygu'r llwybrau at ariannu ar gyfer TGCh a busnesau digidol yng Nghymru.

Mynegwch eich diddordeb yma

=============
aw74

Advances Wales, rhifyn 74 allan nawr.

Mae'r rhifyn newydd o'r cylchgrawn gwyddoniaeth a thechnoleg, Advances Wales, allan nawr.

Darllenwch am yr amrywiaeth eang o waith ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru; o fiodanwydd fflamadwy solet at bob tywydd ar gyfer poptai dognau'r fyddin y gellir ei ddefnyddio i lanhau'r dwylo heb ddŵr, i ddatblygu meddalwedd byd tanddwr rhithwir ar gyfer lansio dyfais symudol newydd Samsung Gear VR.

Cymerwch gip ar ein rhifyn ar-lein a thanysgrifiwch am ddim ar Expertise Wales.

=============

Adnodd prisio Inngot yn datgelu Eiddo Deallusol euraid

Mae'r cwmni Inngot o Abertawe yn helpu cwmnïau i ddatgelu gwerth £200 miliwn o asedau 'cudd' gan ddefnyddio ei adnodd prisio Eiddo Deallusol, Sollomon®.

Byddai sawl cwmni'n cael trafferth nodi a mesur gwerth ei asedau 'anniriaethol' fel patentau a nodau masnach, prosesau TG ac atebion.  Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf yn unig, mae Inngot wedi helpu cwmnïau i ddadlennu gwerth eu Heiddo Deallusol mewn sectorau sy'n cynnwys meddalwedd, y cyfryngau digidol, addysg a'r diwydiant cerddoriaeth.

Mae hwn yn adnodd amhrisiadwy i fusnesau a allai fod wedi diystyru eu gwir werth a gall helpu gyda'r broses o farchnata cwmni penodol neu wrth gynnal trafodaethau trwyddedu. 
Sollomon® yw'r adnodd prisio Eiddo Deallusol ar-lein cyntaf yn y byd, a grëwyd gyda mewnbwn arbenigwyr o Grant Thornton UK LLP.

Darllenwch fwy.

=============

Cyngres y Byd Symudol, 28 Chwefror – 6 Mawrth 2015

Caiff cwmnïau eu gwahodd i arddangos neu gymryd rhan yn y genhadaeth fasnach i Gyngres y Byd Symudol 2015 yn Barcelona, Sbaen. Mae'r genhadaeth hon a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i fusnesau Cymru o bob maint gysylltu â busnesau rhyngwladol yn y sector TGCh Byd-eang ac ystyried allforio i'r sector deinamig hwn, neu gynyddu ei allforion yn y sector hwn.

Darllenwch fwy.

=============

Dilynwch ni ar @WG_economy

Nawr gallwch gael y diweddaraf am Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â hi drwy ein dilyn ni ar Twitter.

 

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.