Cylchlythyr y sector Ynni a'r Amgylchedd mis Ionawr – rhifyn 8

Newyddion y sector Ynni a'r Amgylchedd

=============
Ynni a'r Amgylchedd

Rhifyn 8, Ionawr 2015

=============
murco

£3.5m i ddiogelu a chreu swyddi yn Sir Benfro

Bellach mae dwy gronfa, gwerth £3.5m, i hybu cyfleoedd cyflogaeth wedi'u hagor yn Sir Benfro yn sgil cwymp y ddêl i werthu Purfa Olew Murco.

Mae Edwina Hart, y Gweinidog Economi, wedi dweud wrth aelodau o Dasglu Murco yr agorodd y cam mynegi diddordeb o Gronfa Twf Economaidd Cymru ar 15 Rhagfyr. Mae hyn yn dilyn y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Dasglu Murco, a sefydlwyd i gefnogi gweithwyr Murco, contractwyr a busnesau yn y gadwyn gyflenwi.

Darllen rhagor

=============
freud

Safle newydd Freudenberg Oil & Gas Technologies

Mae Freudenberg Group, â chefnogaeth o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru, wedi buddsoddi dros £11 miliwn wrth symud i safle newydd ar gyfer Freudenberg Oil & Gas Technologies, gan alluogi'r cwmni i gynyddu'r gweithlu.

Yn agoriad y safle newydd, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, "Mae cyfleuster Freudenberg ym Mhort Talbot yn drawiadol iawn ac mae'n brawf o ymrwymiad y cwmni i'r ardal ac i sgiliau ac ymroddiad y gweithlu, a'i fuddsoddiad ynddynt. Rwy'n falch iawn bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi galluogi'r cwmni i ddatblygu'r cyfleuster a chynyddu'r gweithlu i bron 300 o weithwyr. Mae'n arwydd o ymrwymiad hirdymor y cwmni i Bort Talbot a'i ffydd yng Nghymru fel lle gwych i ymgymryd â busnes." 

Darllen rhagor

=============
tel

Cwmni llanw yn taro bargen ac yn ennill gwobr

Mae Tidal Energy Ltd (TEL), datblygwr generadur ynni'r llanw cyflawn cyntaf Cymru, DeltaStream, wedi cyhoeddi dêl bwysig ag EDF Eneregy, gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn natblygiad masnachol ynni'r llanw yn y DU. Darllen rhagor

Yn ddiweddar hefyd cafodd y cwmni arloesol technoleg ffrwd lanw anrhydedd mawr yng Ngwobrau Ynni Gwyrdd Cymru Renewables UK yn y categori 'Datblygu'r Gadwyn Gyflenwi'. Darllen rhagor

=============
apprentice

Prentis y Flwyddyn Renewables UK

Cydnabuwyd talentau unigolyn ifanc o Bowys gan y diwydiant ffynonellau ynni adnewyddadwy mewn cinio mawreddog ym Manceinion.

Coronwyd Ross Keynon yn 'Brentis y Flwyddyn' yn y seremoni Wobrwyo fawreddog, a drefnwyd gan Renewables UK – corff y diwydiant ffynonellau ynni adnewyddadwy sy'n cydnabod y bobl fwyaf disglair a rhagorol o bob rhan o'r diwydiant. Roedd Ross ar y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol ynghyd â dau brentis arall o ddau o gwmnïau arloesol y sector, Mabbey Bridge a Siemens.

Darllen rhagor

=============
gd

"Hyrwyddwr Gwyrdd" a llond gwlad o wobrau

Mewn seremoni wobrwyo fawreddog a gynhaliwyd yn Nau Dŷ'r Senedd ar 10 Tachwedd, enillodd GD Environmental y brif wobr 'Hyrwyddwr Gwyrdd' yn y categori gwobr Arfer Gorau Amgylcheddol Cymru.

Roedd yr anrhydeddau eraill yn cynnwys cael ei enwi'n Fusnes Bach Cyfrifol y Flwyddyn Cymru, y cwmni rheoli gwastraff sy'n tyfu gyflymaf yn Ne Cymru ac enillodd Prif Weithredwr y cwmni'r wobr 'Cyfarwyddwr Ifanc y Flwyddyn' 2014 yng Ngwobrau Blynyddol Cyfarwyddwr y Flwyddyn Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru. Cyrhaeddodd y busnes hefyd y rownd derfynol yng nghategori'r fenter orau i Droi Gwastraff yn Ynni trwy ddangos buddion amgylcheddol adfer gwastraff a fyddai fel arall yn mynd i safle tirlenwi a'i drawsnewid yn danwydd y gellir ei ddefnyddio eto trwy brosesu a chynhyrchu RDF (Tanwydd yn Deillio o Sbwriel).

Darllen rhagor

=============

Enillwyr Gwobrau Gwnaed yng Nghymru Insider Media 2014

Ymysg enillwyr Gwobrau Gwnaed yng Nghymru Insider, a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd, roedd SPTS Technologies a enillodd y Wobr Adwerthwr Gwyrdd, a Green Light Products enillydd y wobr Allforiwr y Flwyddyn.

Darllen rhagor

=============

Enillwyr Gwobrau Ynni Gwyrdd Cymru 2014

Ymgasglodd dros 180 o bobl ym Mae Caerdydd yn ddiweddar i ddathlu cyfraniad cwmnïau, prosiectau ac unigolion yng Ngwobrau Ynni Gwyrdd Cymru 2014, a drefnwyd gan RenewableUK Cymru. Cafwyd enillydd i'r wyth categori, sef yr enghreifftiau gorau o ynni gwyrdd yng Nghymru.

Darllen rhagor

=============

Swansea DryDocks i ailgylchu ffrigadau'r Llynges

Mae Swansea DryDocks wedi ennill cystadleuaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn i ailgylchu'r hen HMS Cornwall, ffrigad Math 22 o'r Llynges Frenhinol.

Darllen rhagor

=============

Cyllid o £14m ar gael ar gyfer yr Energy Catalyst

Sefydlwyd yr Energy Catalyst gan Innovate UK, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol a'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd i gyflymu arloesedd yn y sector ynni. Mae hyd at £14m ar gael ar gyfer ail rownd y Catalyst i fusnesau ac ymchwilwyr arloesol o unrhyw sector sy'n gallu mynd i'r afael â'r tair prif her sy'n wynebu'r sector ynni. Mae dau ddiwrnod broceru a gwybodaeth yn cael eu cynnal ar gyfer arloeswyr a chanddynt ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Darganfod ragor

=============

Ledwood Protective Coatings yn cyrraedd rhestr Manufacturing 100

Mae rhestr ddiweddaraf Manufacturing 100, sy'n graddio busnesau yn ôl trosiant wedi enwi Ledwood Protective Coatings fel y busnes sy'n tyfu gyflymaf ar y rhestr ar ôl gweld hwb o 157 y cant i £44.4m i refeniw'r busnes yn ystod y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2012. Dyma hefyd y tro cyntaf i’r cwmni gyrraedd y 100 uchaf, gan gyrraedd rhif 49.

=============

Cynnal cynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol yng Nghymru

Yn dilyn Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru ym mis Medi, cynhaliwyd cynhadledd trwy wahoddiad yn unig â'r teitl 'Embracing new technology for competitive advantage' ar 20-21 Tachwedd yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd.

Roedd y Prif Weinidog, David Cameron; Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones; Gweinidog yr Economi, Edwina Hart ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb yn bresennol yn y gynhadledd a dynnodd ynghyd 250 o fuddsoddwyr, arweinwyr busnes a gweinidogion. Dangoswyd amrywiaeth eang o dechnoleg dra arloesol Cymru, gan ddangos y gallu i ymchwilio a datblygu yng Nghymru a chodi'i phroffil fel lleoliad ar gyfer mewnfuddsoddi. Roedd y cynnyrch uwch-dechnoleg yn cynnwys cwch cyflym perfformiad uchel y byddai James Bond yn falch ohono sy'n trawsnewid i fod yn llong ymsuddol tanddwr llyfn, a ddatblygwyd gan gwmni o Ynys Môn, a ffrâm feic fetel gyntaf y DU i gael ei hargraffu'n 3D o Gaerdydd.

=============

Dilynwch ni ar @WG_economy

Bellach gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru a chysylltu â ni trwy ein dilyn ar Twitter.

 

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.