Newyddion y sector Gwyddorau Bywyd - rhifyn 5

Newyddion sector y Gwyddorau Bywyd

=============
Gwyddorau Bywyd

Rhifyn 5, Rhagfyr 2014

=============
biowales welsh

Cofrestrwch nawr ar gyfer BioCymru 2015

Dyma’r 13eg gynhadledd flynyddol, a bydd y rhaglen ryngwladol ddynamig ar gyfer 2015 yn canolbwyntio ar gadwyn gyflenwi gwyddorau bywyd, gan ddarparu cyfleoedd masnachol ymarferol ar gyfer twf drwy gyfrwng llwybrau newydd i farchnata yn y sector preifat a’r GIG.

Mae’r broses gofrestru ar y gyfradd Cofrestru Cynnar ar agor tan Ddydd Llun, 22 Rhagfyr 2014. Bydd y sesiynau cynnig syniadau ar ffurf Dragon’s Den yn dychwelyd yn 2015, gan roi cyfle i chi gyflwyno eich cwmni neu eich syniad i gyfres o fuddsoddwyr a chyfalafwyr menter.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion llawn am y cyfleoedd noddi ac arddangos ar gael ar y wefan.

=============
money

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru yn cyhoeddi’r 6ed buddsoddiad ers ei lansio

Mae Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, sy’n cael ei rheoli gan Arthurian Life Sciences, wedi cychwyn ar bartneriaeth gydag un o brif gwmnïau technoleg meddygaeth UDA, sef Interrad Medical Inc. Mae’r cwmni wedi’i leoli yn Minneapolis ac yn gyfrifol am ddatblygu a chynhyrchu SecurAcath®, dyfais unigryw i gadw cathetrau yn eu lle ar gyfer cleifion ysbyty.

Dyma’r 6ed buddsoddiad ers ei lansio, ac mae’r Gronfa wedi buddsoddi £3 miliwn yn Interrad Medical Inc. Bydd y cwmni yn sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy o fanylion am y gronfa.

=============
essentra

Canolfan newydd Essentra

Mae’r cwmni deunydd pacio byd-eang Essentra wedi lansio yn swyddogol ei gyfleuster newydd arloesol yng Nghasnewydd.

Mae'r adeilad newydd pwrpasol 52,000 milltir sgwâr yn Imperial Park, Casnewydd wedi derbyn £290,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru, ac wedi creu bron ugain o swyddi newydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae'r cwmni yn un o o chwe chwmni newydd sy'n buddsoddi'n fewnol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ddoe gan y Prif Weinidog, sydd rhyngddynt yn creu dros 1100 o swyddi newydd.

Darllenwch fwy.

=============
medica

Medica yn denu’r gynrychiolaeth fwyaf erioed o Gymru

Llwyddodd y digwyddiad Medica pedwar diwrnod o hyd i ddenu dros 4,600 o arddangoswyr a 132,000 o ymwelwyr masnach gyda 53% ohonynt yn dod o wledydd y tu hwnt i Ewrop. Eleni yn Dusseldorf, cymerodd 87 o gynrychiolwyr o Gymru ran – y gynrychiolaeth fwyaf hyd yma – gan ddefnyddio’r achlysur i lansio cynnyrch newydd i gynulleidfa ryngwladol, cwrdd â chleientiaid presennol, gwneud cysylltiadau newydd, penodi dosbarthwyr, sicrhau busnes newydd a hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau yn fyd-eang.

Unwaith eto bu i Lywodraeth Cymru noddi pafiliwn Cymreig yn y Neuadd Ryngwladol, a stondin yn y Neuadd Diagnosteg.

Darllenwch fwy.

=============
mackworth

Mackworth Healthcare yn sicrhau archebion allforio newydd swmpus

Yn ystod Wythnos Allforio Tachwedd, bu cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n arbenigo mewn cynllunio a chynhyrchu slingiau a dyfeisiau codi ar gyfer symud a thrafod cleifion yn dathlu ennill ei archebion allforio cyntaf o Awstralia a Sbaen.

Darllenwch fwy.

=============

BBI Healthcare yn symud er mwyn ehangu

Mae’r Gweinidog dros yr Economi, Edwina Hart, wedi croesawu’r ffaith fod BBI Healthcare wedi symud i gartref mwy. Dywedodd y byddai’n sicrhau twf y busnes yn y tymor hir ym Mharc Technoleg Pen-coed.

Darllenwch fwy.

=============

PCI yn ychwanegu at gaffael Penn Pharma gyda Biotec

Mae Packaging Coordinators Inc. (PCI), y darparwr deunyddiau pacio i’r diwydiant gofal iechyd, wedi caffael Biotec Services International (Biotec) o Ben-y-bont ar Ogwr, un o’r prif ddarparwyr gwasanaethau treialon clinigol a gwasanaethau fferyllol â’r tymheredd wedi’i reoli. Mae PCI yn ddiweddar hefyd wedi caffael Penn Pharma o Dredegar, gan ychwanegu gwasanaethau datblygu fferyllol a gwasanaethau cynhyrchu cynwysedig at ei bortffolio o Wasanaethau Treialon Clinigol, Deunydd Pacio Masnachol a Gwasanaethau Labordy.

Mae caffael y ddau fusnes yn ehangu rhagor ar bresenoldeb cynyddol PCI ym maes atebion partneriaeth o’r tu allan i ddatblygu a masnacheiddio cyffuriau ac yn cynyddu cyfanswm presenoldeb PCI yng Nghymru.

Darllenwch fwy.

=============

Lansio cronfa wobrau gwerth £10 miliwn

Yn dilyn cystadleuaeth genedlaethol, dewiswyd problem ymwrthedd gwrthfiotig byd-eang fel her fuddugol Gwobr Longitude ar gyfer 2014. Mae’r gronfa wobrau gwerth £10 miliwn i helpu i ddatrys un o broblemau mwyaf ein hoes bellach ar agor i gynigion, a dyma eich cyfle i gymryd rhan.

Darllenwch fwy.

=============

Cwmnïau Gwyddorau Bywyd yn ennill yng Ngwobrau Insider

Yng Ngwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg The Insider a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar 5 Tachwedd, enillodd dau gwmni Gwyddorau Bywyd wobrau.

Enillodd Medaphor mewn dau gategori: Gwobr Masnacheiddio – am eu dynwaredwyr ScanTrainer a ddefnyddir mewn ysgolion meddygol ym mhedwar ban byd, a lansiad diweddar y dynwaredwr uwchsain traws-abdomen.  Gwobr Buddsoddi – Cododd Medaphor £4.7 miliwn drwy gyhoeddi cyfrannau ar AIM, marchnad iau Llundain. Cafodd ei lwyddiant ei sbarduno gan waith gyda Phrifysgol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru.

Enillodd Asalus Wobr Cynnyrch Newydd am eu harf llawfeddygol Ultravision, dyfais llawfeddygaeth twll clo sy’n cael gwared ar y mwg a gaiff ei greu mewn rhai llawdriniaethau.

Darllenwch fwy.

=============

Buddsoddiad tymor hir Norgine yn safle Hengoed

Mae’r gwaith adeiladu ar warws fferyllol newydd Norgine wedi dechrau a disgwylir iddi fod yn gwbl weithredol erbyn Medi 2015. Mae’r gwaith adeiladu gwerth sawl miliwn yn dangos hyder Norgine yn nyfodol safle Hengoed, sydd wedi’i gynllunio i gwrdd â’r holl reoliadau fferyllol ar gyfer storio cydrannau er mwyn cynhyrchu nwyddau meddyginiaethol.

Darllenwch fwy.

=============

Chromogenex yn cael nawdd gan fuddsoddwr o UDA

Mae Chromogenex Holdings o Lanelli wedi codi arian gan fuddsoddwr technoleg feddygol o UDA ar gyfer cam nesaf ei gynllun twf.

Mae’r cwmni, sy’n datblygu a chynhyrchu systemau golau pyls dwys a laser, wedi codi’r arian gan Squadron Capital, cwmni buddsoddi Americanaidd o Connecticut a ariennir gan ymddiriedolaeth sydd â’i phencadlys yn Chicago.

=============

Arbenigwyr iechyd digidol rhyngwladol i fod yn bresennol mewn Cynhadledd Arloesedd yn y DU

Mae disgwyl i arbenigwyr iechyd digidol sydd yn adnabyddus yn rhyngwladol fynychu cynhadledd arloesedd agored dridiau o hyd yn y DU. Cynhelir Digital Health Assembly: Open Innovation rhwng 10 a 12 Chwefror yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd, a disgwylir iddi groesawu cynrychiolwyr o’r gymuned iechyd digidol fyd-eang.

Darllenwch fwy.

=============

Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru

Bu i Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru groesawu ei 1000fed ymwelydd ym mis Hydref wedi 3 mis prysur ers lansio ym mis Gorffennaf. Yn dod yn fuan – calendr digwyddiadau ar gyfer 2015, cynllun newydd ar gyfer digwyddiadau, gwefan newydd a system archebu desg.

Am ragor o wybodaeth am Ganolfan Gwyddorau Bywyd Cymru ewch i’w gwefan ac anfonwch ebost at y Ganolfan er mwyn ymuno â’r rhestr bostio.  

=============

Dilynwch ni ar @WG_economy

Gallwch bellach gael y wybodaeth ddiweddaraf a chysylltu ag adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru drwy ein dilyn ar ein tudalen Twitter newydd.

 

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.