Cylchlythyr Sector y Diwydiannau Creadigol - Rhifyn 8

Newyddion y sector Diwydiannau Creadigol

=============
Diwydiannau Creadigol

Rhifyn 8, Tachwedd 2014

mexico

Taith fasnachol i Fecsico i greu cyfleoedd busnes y gall pawb fanteisio arnynt

Hedfanodd cynrychiolwyr o ddiwydiannau creadigol Cymru i Fecsico yn ddiweddar i gryfhau perthynas sy’n datblygu rhwng y ddwy wlad a gosod sylfaen ar gyfer Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth swyddogol a fydd yn creu cyfleoedd busnes y gall y ddwy wlad fanteisio arnynt.

Mae taith trosglwyddo gwybodaeth Llywodraeth Cymru (11-19 Hydref), a gyd-drefnwyd gan asiantaeth marchnata cynnwys Culture Group Ltd, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd ac ym Mecsico, yn dilyn ymweliadau â Chymru yn ddiweddar gan Weinidogion o dalaith Jalisco ym Mecsico a Llysgennad Mecsico i’r Deyrnas Unedig.

Darllen rhagor.

=============
nesta

Caerdydd yn datblygu’n ganolbwynt i’r sector gemau.

Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, wedi croesawu adroddiad gan Nesta sy’n datgelu bod Caerdydd yn un o ddeuddeg canolfan sy’n datblygu o ran cynhyrchu gemau fideo yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd: “Mae hon yn farchnad sy’n prysur dyfu ac yn cynnig cyfleoedd economaidd go iawn, sef pam bod Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol o ran cefnogi a hybu ei thwf yng Nghymru drwy fentrau fel y Gronfa Datblygu Digidol a Datblygu Gemau Cymru”.

Darllen rhagor.

Mwy o wybodaeth am y map o ddiwydiant gemau’r Deyrnas Unedig.


=============
film week 1

Denu mwy o gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm o’r Unol Daleithiau i Gymru

Cafodd yr ymdrech i ddenu mwy o gynyrchiadau ffilm a dramâu teledu rhyngwladol blaengar i Gymru hwb mewn digwyddiad hyrwyddo mawr yn Los Angeles yn ystod Wythnos Ffilm a Theledu’r Deyrnas Unedig y BFC.

Darllen rhagor.

Llun drwy garedigrwydd Getty Images for British Film Co

 

=============
petroleum spirit

Cwblhau cynhyrchiad Petroleum Spirit

Mae Mirror Productions wedi cyhoeddi bod y gwaith o gynhyrchu Petroleum Spirit wedi’i gwblhau. Cafodd y ffilm ei saethu yn Ne Cymru â chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y ffilm nodwedd Petroleum Spirit ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr hysbysebion mawr ei glod Rob Sanders, a’i chynhyrchu gan Evangelo Kioussis. Y Cynhyrchwyr Gweithredol oedd Simon Baxter a John Glen, cyfarwyddwr pum ffilm James Bond.

Darllen rhagor am y ffilm, y diweddaraf am y cynhyrchiad a phrosiectau ychwanegol, gan gynnwys cynhyrchiad nesaf Mirror (ffilm arswyd ddychanol ENDEMIC).

Llun  - © Hawlfraint y Goron (2014) Sgrin Cymru

 

=============
bafta

Gwobrau BAFTA Cymru 2014

Prif enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru 2014 a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 26 Hydref oedd Y Gwyll / Hinterland a Sherlock, a enillodd dair gwobr yr un.

Mae llawer o’r enillwyr a’r rhai oedd yn agos i’r brig wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Y Gwyll / Hinterland, Sherlock, Da Vinci’s Demons, Rondo, Boom Pictures, Y Syrcas a Real SFX. Rydym yn falch o weld cymaint o lwyddiant ac o weld y talentau’n cael eu cydnabod.

Darllen rhagor.

Llun drwy garedigrwydd BAFTA Cymru / Huw John

 

=============

Gwobr Emmy i Bang Post Production

Bu cwmni Bang Post Production o Gaerdydd yn dathlu ar ôl ennill gwobr Emmy yn America am eu gwaith ar gyfres Sherlock y BBC.

Darllen rhagor

=============

Cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Busnes Newydd

Mae 63 busnes yn y saith Ardal Fenter wedi cael dros £3 miliwn o gefnogaeth diolch i gynllun Ardrethi Busnes Llywodraeth Cymru, yn ôl Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.

Darllen rhagor.

Hefyd, os yw eich busnes yn adfeddiannu eiddo sydd wedi bod yn wag ers 12 mis neu ragor, gallech gael rhyddhad o 50% ar eich ardrethi busnes am hyd at 12 mis drwy’r cynllun Agored i Fusnes. A thrwy’r cynllun Datblygiadau Newydd gall busnesau sy’n symud i eiddo masnachol gwag sydd newydd gael ei adeiladu gael eu heithrio rhag talu ardrethi busnes am y 18 mis cyntaf ar ôl i’r eiddo gael ei gwblhau.

Darllen rhagor.

=============

MIPCOM 2014

MIPCOM yn Cannes yw un o’r marchnadoedd mwyaf yn y byd ar gyfer prynu a gwerthu cynnwys adloniant ar draws pob llwyfan.

Cynhaliwyd digwyddiad 2014 ar 13-16 Hydref ac aeth nifer o gwmnïau cynhyrchu Cymreig i’r farchnad i werthu eu cynnwys i ddarlledwyr rhwydwaith.

Aeth cynrychiolwyr o Sector Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru i’r digwyddiad ynghyd â chwmnïau Cymreig fel Cwmni Da, Rondo, Cloth Cat Animation, Avanti, Tifini, Green Bay a Capital Law.

Cynhaliwyd derbyniad Cymreig gan Lywodraeth Cymru ar y dydd Llun ac arddangoswyd caws a chwrw o Gymru. Daeth nifer dda i’r digwyddiad a chafwyd cyflwyniadau gan Mark Hackett, Pinewood Studios Group a Julie Gardner, BBC Worldwide.

Darllen rhagor am MIPCOM.

=============

Fforwm y Cynhyrchwyr

Cefnogwyd Fforwm y Cynhyrchwyr eleni gan Ddesg Ewrop Greadigol y Deyrnas Unedig - Cymru, rhan o Sector Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y fforwm yng Ngwesty’r Park Inn ar 10 Hydref. 

Cymerodd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ran mewn sesiwn panel dan y teitl ‘Cefnogi Goreuon Prydain’ ochr yn ochr â BFI Net.Work Wales, Ffilm Cymru Wales ac S4C yn ogystal â chynnal sesiynau cynghori un-i-un.

Daeth nifer o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru i’r digwyddiad. Roedd yn ddigwyddiad diwrnod cyfan ac yn cynnwys sesiynau ar gyllido torfol, sut i gael eich gwaith wedi’i ddosbarthu mewn sinemâu, VFX mewn ffilmiau â chyllideb fechan a chyfleusterau newydd Pinewood Studio Wales.

Mae Fforwm y Cynhyrchwyr yn rhan o Ŵyl Gwobr Iris sy’n chwarae rhan allweddol drwy alluogi a chefnogi awduron a chynhyrchwyr newydd i gychwyn eu prosiectau.

Rhagor o wybodaeth.

=============

Te Prynhawn gyda’r Comisiynwyr Gemau,  Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

Bydd Desg Ewrop Greadigol y Deyrnas Unedig - Cymru unwaith eto’n ymuno â BAFTA Cymru ar 3 Rhagfyr i’ch gwahodd i gyfarfod rhai o gomisiynwyr a chyhoeddwyr mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig yn y sector gemau.

Yn dilyn digwyddiadau llwyddiannus “Breakfast with the Documentary Commissioners” a “Breakfast with the Drama Commissioners”, maent yn cynnal sesiwn prynhawn gyda chomisiynwyr a chyhoeddwyr o’r sector gemau a fydd yn siarad am y cyfleoedd diweddaraf sydd ar gael i’r diwydiant gemau.

Cofrestru ar gyfer y digwyddiad di-dâl.

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.