ExploreExport 2014 – 14 Tachwedd, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Mae ExploreExport 2014 yn gynhadledd ac arddangosfa un diwrnod a gynhelir yn ystod yr Wythnos Allforio. Yno gall busnesau gael cyngor ynghylch allforio a golwg ar gyfleoedd busnes o bob cwr o’r byd.
Cynhaliwyd Diwrnod Masnach Rhyngwladol llwyddiannus iawn y llynedd, gyda chwmnïau’n cymryd rhan mewn seminarau ar destunau’n ymwneud ag allforio - fel Rheoli Asiantau a Dosbarthwyr, a Gwasanaethau Allforio - ac mewn trafodaethau o amgylch y bwrdd yn edrych ar nifer o farchnadoedd pwysig.
Bydd ExploreExport 2014 yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiad llynedd gyda mwy o seminarau ar bynciau newydd, gan gynnwys Rheolau Incoterms® 2010, dulliau talu a TAW.
Prif nodwedd ExploreExport 2014 yw cyfarfodydd unigol gydag arbenigwyr o dros 60 o farchnadoedd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Tsieina a’r Almaen yn ogystal â Mongolia ac Algeria, gan alluogi cwmnïau i edrych ar gyfleoedd i allforio mewn amrywiol farchnadoedd.
Rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.
|
|
Cynhadledd fuddsoddi ryngwladol yng Nghymru
Bydd cwmnïau dyfeisgar o Gymru yn arddangos eu technoleg i’r byd yng Nghynhadledd Fuddsoddi Cymru 2014 yn ddiweddarach yn y mis.
Yn dilyn llwyddiant Uwchgynhadledd NATO ym mis Medi, bydd Cymru’n cynnal cynhadledd ryngwladol ar fuddsoddi a fydd yn creu swyddi a thwf. Cynhelir y gynhadledd ‘Mabwysiadu technoleg newydd i sicrhau mantais gystadleuol’, sydd drwy wahoddiad yn unig, ar 20-21 Tachwedd yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Mae lefelau mewnfuddsoddi yng Nghymru bellach yn uwch nag erioed. Bydd y gynhadledd yn gyfle ardderchog i adeiladu ar ein llwyddiant a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan amlwg ar gyfer buddsoddiadau tramor. Gan ddod â dros 250 o fuddsoddwyr, arweinwyr busnes a gweinidogion y byd ynghyd, bydd yn adeiladu ar y sylw a gafodd Cymru yn ystod uwchgynhadledd NATO ac yn llwyfan byd-eang i arddangos dyfeisgarwch a sgiliau Cymru.”
Rhagor o wybodaeth
|
|
|
Ble nesaf i’ch busnes?
Fel rhan o daith fasnach Llywodraeth Cymru, bu dirprwyaeth o fusnesau ar ymweliad yn ddiweddar â Dinas Ho Chi Minh, marchnad twf uchel a chalon economaidd Fietnam.
Mae Teddington Engineered Solutions, un o’r cwmnïau a fu’n rhan o’r daith fasnach hon, yn allforio cynnyrch ar draws y byd. Dywedodd Jason Thomas, y Rheolwr Masnachol: "Dyma’n hymweliad cyntaf â Fietnam ac rydyn ni’n gweld y farchnad hon fel un bwysig i gynyddu’n hallforion. Drwy raglen teithiau masnach Llywodraeth Cymru, cawsom gymorth i ymweld â’r farchnad ac i drefnu cyfarfodydd gyda chwsmeriaid posibl. Roedd ansawdd a nifer y cyfarfodydd hyn wedi creu argraff arna i. Mae cyfleoedd busnes amlwg yma i ni, ac fe fyddwn yn siŵr o ddychwelyd i Fietnam.”
Rhagor o wybodaeth am deithiau masnach.
|
|
|
Y cod cywir!
Ydych chi’n defnyddio’r cod nwyddau cywir? Mae’r system cod nwyddau yn dosbarthu nwyddau sy’n cael eu mewnforio a’u hallforio er mwyn i chi dalu’r trethi a’r tollau cywir a dilyn y rheoliadau. Rhaid i chi gael cod nwyddau ar gyfer pob nwydd sy’n cael ei fewnforio neu allforio i neu o’r DU. Rhagor o wybodaeth a defnyddio teclyn Trade Tariff ar-lein i chwilio am eich cod nwyddau.
Cofiwch: Eich cyfrifoldeb chi yw dod o hyd i’r cod nwyddau a’r drwydded gywir, hyd yn oed os ydych yn defnyddio asiant.
|
|
|
Gweminarau Byw
Am gael gwybodaeth ynghylch gwahanol farchnadoedd a sectorau o bob cwr o’r byd heb adael y swyddfa? Rhowch gynnig ar wasanaeth Gweminarau UKTI. Maent yn cynnig cannoedd o ddigwyddiadau awr o hyd yn edrych ar bynciau, sectorau a gwledydd ar draws y byd, gan eich helpu i lunio’ch cynllun allforio.
Mae’r digwyddiadau hyn yn eich galluogi i ryngweithio gydag arbenigwyr mewn sectorau a gwledydd penodol, ac yn gyfle i chi ofyn cwestiynau i ehangu’ch gwybodaeth.
I weld Gweminarau UKTI sy’n cael eu trefnu ar hyn o bryd, ewch i wefan UKTI a chwiliwch am y gweminarau.
|
|