Cylchlythyr Arloesi - rhifyn 18 - Ionawr 2017

Ionawr 2017

English

 
 
 
 
 
 
Semicon

£13m o arian yr UE i Brifysgol Caerdydd

Bydd yr arian yn helpu i roi Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad ym maes technolegau’r 21ain ganrif drwy helpu i adeiladu a chynnal ystafell lân, a darparu'r cyfarpar diweddaraf ar ei chyfer, yn yr Athrofa Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd.

Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: “Bydd buddsoddi mewn cyfleusterau sydd ar flaen y gad fel bod y byd academaidd a diwydiant yn gallu cydweithio a symud gwaith ymchwil yn ei flaen yn y sector hwn yn hwb pwysig i economi Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Invent

Cydnabod arloeswyr y dyfodol

Myfyriwr o Ysgol Uwchradd Llanisien, Cellan Cox, ddaeth yn fuddugol yn y Gwobrau Arloesedd i Fyfyrwyr am ddyfeisio gard olwyn feic llawn dychymyg.

 

Cystadleuaeth flynyddol yw’r gwobrau a gynhelir gan CBAC gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

I gael gwybod rhagor, cliciwch yma.

SPECIFIC

Adeiladau’n orsafoedd pŵer

Mae'r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC), a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru yn troi adeiladau yn orsafoedd pŵer drwy eu galluogi i gynhyrchu, storio a rhyddhau eu hynni eu hunain. 

 

Gwyliwch SPECIFIC yn siarad â Busnes Cymru a chael clywed am yr Ystafell Ddosbarth Actif, eu prosiect arddangos adeiladau maint llawn diweddaraf.

Gwyliwch yma

Advances

Advances Wales - rhifyn 80 allan nawr

Trwy wyddoniaeth, ymchwil a pheirianneg arloesol, mae Cymru yn datblygu technolegau sy'n arwain y byd a fydd yn helpu i greu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy.

 

Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys datblygiadau newydd amgylcheddol ac yn dangos sut mae'r diwydiant dur yn rhan allweddol o dirwedd arloesi Cymru.

 

Darllenwch y rhifyn diweddaraf yma.

Beth am hedfan!

Mae teithio ar gyfer busnes newydd ddod yn haws ar gyfer y rheini sy’n teithio’n rheolaidd rhwng Caerdydd a Llundain.

Mae teithiau Flybe rhwng y ddwy ddinas i ddychwelyd.

Cyhoeddodd cwmni hedfan rhanbarthol mwyaf Ewrop y newyddion fel rhan o’i amserlen helaeth ar gyfer Haf 2017 sy’n cychwyn ar 26 Mawrth 2017.

Mae'r amseroedd a'r tocynnau ar gael i’w harchebu nawr yn flybe.com

DIGWYDDIADAU

BioCymru 2017 - 7 ac 8 Mawrth, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd

Bio Cymru yw un o gynadleddau Gwyddorau Bywyd mwyaf Cymru - gyda nifer o weithdai a siaradwyr byd enwog yn ymddangos ynddi.

Mae digwyddiad eleni yn adeiladu ar gryfder cydweithio Cymru, gan ddod ag arbenigwyr diwydiant, buddsoddwyr yn y gwyddorau bywyd a rhwydweithiau rhyngwladol at ei gilydd, a chanolbwyntio ar y gydberthynas rhwng busnes, academia a gofal iechyd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

Cyllid Partneriaeth SMART - Dyddiad cau 15 Chwefror 2017

Os ydych chi’n fusnes yng Nghymru sy’n arloesi, beth am wneud cais am Arian Partneriaeth SMART drwy bartner academaidd. Mae ail gylch y prosiect peilot hwn yn awr ar agor i brosiectau wneud cais am arian.

Mae’r prosiect peilot hwn yn cefnogi prosiectau cydweithredu rhwng busnesau Cymru a Sefydliadau Ymchwil.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Allwch chi ddatrys heriau sy’n cael eu harwain gan ddiwydiant?

Mae porth newydd gan Lywodraeth Cymru wedi gweld diwydiant yn gosod nifer o heriau ar gyfer rhoi'r gallu i fusnesau ac academia ganfod cyfleoedd i gydweithio.

Ewch i

Achlysur Briffio - Technolegau sy’n Galluogi neu sy’n Dod i'r Amlwg: 2 Chwefror 2017, Wrecsam

Mae Innovate UK yn bwriadu buddsoddi mwy na £15m mewn prosiectau arloesol ym maes Technoleg sy'n Galluogi neu sy'n Dod i'r Amlwg. 

Os ydych chi’n teimlo y gall eich prosiect chi helpu i oresgyn heriau technegol a masnachol, beth am ddod i’n digwyddiad briffio.

Cofrestrwch yma

Achlysur Briffio Systemau Isadeiledd - Cyfnod 2: 7 Chwefror 2017, Caerdydd

Mae Innovate UK yn bwriadu buddsoddi hyd at £15m mewn prosiectau arloesol dan arweiniad busnes mewn Systemau Isadeiledd.

Rhagor o wybodaeth a Chofrestru yma

Rhestr Anrhydeddau’r Goron Flwyddyn Newydd 2018 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae Adran Sectorau a Busnes Llywodraeth Cymru yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Goron Blwyddyn Newydd 2018.  Os ydych yn adnabod unrhyw berson yn gweithio yn eich sector sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad ar eu cyfer erbyn 1 Mawrth  2017 a Jennifer Clark

Rhestr Anrhydeddau’r Goron Flwyddyn Newydd 2018 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae Adran Sectorau a Busnes Llywodraeth Cymru yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Goron Blwyddyn Newydd 2018.  Os ydych yn adnabod unrhyw berson yn gweithio yn eich sector sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad ar eu cyfer erbyn 1 Mawrth  2017 a Jennifer Clark

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: