
Mae Cymru yn 'Agored i Fusnes’
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a’r Seilwaith, wedi pwysleisio bod Cymru yn agored iawn i fusnes.
Bu’n siarad â chynrychiolwyr cwmnïau Angori yn ddiweddar,
a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi twf busnes a buddsoddi.
Bu’r Ysgrifennydd Cabinet mewn cyfarfodydd o Fforymau’r
Cwmnïau Angori yn y Gogledd ac yn y De i siarad â chynrychiolwyr y cwmnïau er
mwyn gwrando ar unrhyw bryderon sydd ganddynt yn dilyn canlyniad refferendwm yr
Undeb Ewropeaidd ac i drafod cyfleoedd newydd a sut y gall Llywodraeth Cymru eu
helpu.
Cliciwch yma i gael
ragor o wybodaeth a gwyliwch ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi.
 |
|
Uwch-gynhadledd
Arloesi Cymru
Bydd Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
Llywodraeth Cymru yn un o’r prif
siaradwyr yng Nghyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (Uwch-gynhadledd Arloesi
gyntaf y Cyngor).
Bydd y testunau trafod yn cynnwys sefydlu Corff Arloesi
Cenedlaethol ar gyfer Cymru, yr heriau sy’n wynebu’r sector cyhoeddus, a’r
tueddiadau, y symudiadau cymdeithasol a’r darganfyddiadau technolegol a fydd yn
effeithio ar ein bywydau dros y flwyddyn nesaf.
Bydd yr Uwch-gynhadledd yn dwyn ynghyd arweinwyr sy’n
chwarae rôl hanfodol wrth symud strategaeth arloesi Cymru yn ei
blaen a chaiff ei
chynnal fel rhan o
Venturefest Cymru 2016. I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru,
cliciwch yma.
|
 |
|
Brick Fabrication yn elwa ar gymorth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru
i bartneru â Phrifysgol
Mae Brick
Fabrication, sef busnes gweithgynhyrchu deunyddiau adeiladu ym Mhont-y-pŵl wedi dyblu nifer ei
staff a’i drosiant. Mae’r diolch yn rhannol i Bartneriaeth Trosglwyddo
Gwybodaeth Llywodraeth Cymru ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd. Darllenwch
fwy.
I gael gwybod sut y gallai rhaglen y Bartneriaeth
Trosglwyddo Gwybodaeth helpu’ch busnes chi i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal
rhag tyfu, cliciwch
y ddolen hon.
|
 |
|
PPM Technology yn
monitro nwyon gwenwynig
y byd
Cafodd PPM Technology gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac
yn dilyn hynny mae’r cwmni wedi gallu datblygu a phrofi cynhyrchion i fonitro
nwyon gwenwynig y byd.
Gwyliwch John Brynley,
Rheolwr Gyfarwyddwr PPM Technology, sef
cwmni blaengar ym maes datblygu a gweithgynhyrchu offer sy’n gallu dod o hyd i
nwyon gwenwynig, yn siarad gyda Busnes
Cymru.
|
 |
|
Y genhedlaeth newydd o Arloeswyr ̶ Gwobrau Arloesi ar gyfer Myfyrwyr
Disgwylir i
dros 2,000 o fyfyrwyr, athrawon a busnesau fod yn bresennol yng ngwobrau Arloesi
2016. Cynhelir y digwyddiad yng Nghaerdydd a Bangor fis nesaf.
Bwriad y gystadleuaeth hon, sy’n un fawr ei bri, yn rhoi
sylw i’r gwaith prosiect mwyaf arloesol a wnaed gan fyfyrwyr a fu’n astudio
Dylunio a Thechnoleg ar gyfer TGAU a Safon Uwch.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru yn
cydweithio i annog pobl ifanc i fod yn fwy arloesol ac i werthfawrogi
pwysigrwydd dylunio a thechnoleg. Darllenwch fwy.
|
 |
|
Y Gorau ym maes Arloesi yng
Nghymru
Enillydd
y Wobr Arloesedd a Thechnoleg yng Ngwobrau
Dewi Sant 2015 oedd Geraint Davies ac mae e’n galw ar arloeswyr sydd o’r un
anian ag ef i enwebu’r rheini sy’n gwneud gwir wahaniaeth i’r sector.
Dywedodd:
Peidiwch â cholli’r cyfle i godi proffil eich sefydliad a’ch diwydiant drwy
Wobrau Dewi Sant – y clod mwyaf a roddir gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Geraint, Peiriannydd Fideo ar gyfer yr ap
fideo byw, Periscope: “Mae’n braf bod pobl yn cael clywed y straeon gwych hyn
am dechnoleg sy’n digwydd yng Nghymru”.
I enwebu,
dilynwch y ddolen hon. Y dyddiad cau yw 21 Hydref 2016.
|
 |
|
Gweithdai Dylunio a Gweithgynhyrchu Arloesi SMART
Oes diddordeb gennych mewn
sbarduno’ch busnes i lwyddo
Dewch i weithdy hanner diwrnod i greu cysylltiadau. Bydd
yn rhoi’r cyfle ichi ddysgu mwy am sut y gall eich busnes gael tridiau o
wasanaeth ymgynghori am ddim a fydd yn rhoi cyngor dylunio a
gweithgynhyrchu ichi yn rhad ac am ddim.
Bydd y sesiwn hon yn rhoi mwy
o wybodaeth ichi am sut i gael ‘Gwiriad
Iechyd’. Caiff hwn ei gynnig i fusnesau sy’n arloesi.
Dilynwch y dolenni canlynol
i gael rhagor o wybodaeth am y Gwiriad Iechyd ac i gofrestru.
|
Hedfan o
Gaerdydd i Lundain mewn awr
Mae cysylltiadau hanfodol rhwng Caerdydd a Llundain yn cael
eu cryfhau drwy ddarparu gwasanaeth awyr dros dro.
Mae
Flybe, cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf Ewrop, yn cynnig ‘teithiau achub’ ar
gyfer y cyfnod o chwe wythnos pan fydd Twnnel Hafren ar gau.
Bydd modd i deithwyr busnes a thwristiaid hedfan i ganol
Canary Wharf hyd at deirgwaith y dydd o 12 Medi – 21 Hydref 2016. Darllenwch fwy ac archebwch yma.
Heriau’r Fenter
Ymchwil Busnesau Bach
Diogelu Codio at
y Dyfodol mewn System Iechyd Ddigidol
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am
ffyrdd arloesol o godio manylion clinigol cleifion mewn ysbytai ond mae sicrhau
ar yr un pryd bod modd cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru a lleihau’r pwysau y
mae gwneud y gwaith hwnnw â llaw yn ei roi ar staff. Bydd 2 gam i’r broses hon
ac mae’n gystadleuaeth agored. Bydd modd i fusnesau gyflwyno cynnig i ddatblygu
contractau hyd at £10,000 yng ngham 1 (prawf o gysyniad) a hyd at £100,000 yng
ngham 2 (prosiectau arddangos). Darllenwch fwy.
Ateb arloesol ar gyfer gorbryder difrifol mewn cleifion
sy’n dioddef o ddementia
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am
atebion arloesol a allai fod o gymorth i bobl sy’n dioddef o ddementia, ac sy’n
profi lefelau uchel o gorbryder wrth deithio i gael gofal mewn ysbyty ac
yn ystod y cyfnod pan fyddant yno. Dylai hynny hefyd fod o gymorth i’w
teuluoedd a’u gofalwyr. I gael
rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad briffio, dilynwch y
ddolen hon.
Gwerthusiad terfynol annibynnol yn pwysleisio
bod Cronfa JEREMIE Cymru yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynorthwyo BBaChau
Cymru
Mae
adroddiad gwerthuso annibynnol gan Regeneris Consulting ac Oldbell3 wedi tynnu
sylw at lwyddiant Cronfa JEREMIE Cymru, a gafodd gymorth o Ewrop ac a oedd yn cael
ei rheoli gan Cyllid Cymru. Mae’n canmol
ei chyfraniad sylweddol at gefnogi busnesau bach a chanolig (BBaChau) Cymru
rhwng 2009 a 2015.
Daeth y
gwerthusiad terfynol eang ei gwmpas i'r casgliad fod y Gronfa gwerth £157.5
miliwn wedi dod yn rhan hollbwysig o'r dirwedd cyllid busnes yng Nghymru, gan
wella mynediad i gyllid ar gyfer BBaChau Cymru a darparu cymorth cyfalaf
sylweddol pan oedd amodau yn y farchnad cyllid busnes yn arbennig o heriol. Darllenwch
fwy.
Chwyldro ynni carbon isel: Sut i droi ein Hadeiladau’n
Orsafoedd Ynni – 4 a 5 Hydref 2016, The Village Hotel, Abertawe
Os oes gennych ddiddordeb mewn adeiladau newydd,
dylunio ac effeithlonrwydd ynni, yna dewch i gael gwybod sut mae SPECIFIC ̶ yr
unig ganolfan Arloesi a Gwybodaeth yng Nghymru ̶ yn cydweithio
gyda diwydiant i ddatblygu, cynhyrchu, storio a rhyddhau technolegau a sut y
mae eu cyfuno wedi arwain at chwyldro ynni ̶ “Adeiladau
fel gorsafoedd ynni”. Hefyd, cewch glywed am yr Ystafell Ddosbarth Actif sy’n
rhoi sylw i’r technegau dylunio, technoleg ac adeiladu diweddaraf ar gyfer creu
Gorsaf Ynni mewn Adeilad. Rhagor
o wybodaeth.
CoInnovate ̶ 11 a 12 Hydref 2016, Gwesty’r Mercure Holland
House, Caerdydd
Nod digwyddiad CoInnovate,
sy’n cael cymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru, yw dod ag arloeswyr blaengar y
byd ynghyd i gydweithio. Mae’r digwyddiad hwn yn cyfuno cynhadledd agored ar
arloesi gyda gweithdai sy’n dod â phobl ynghyd. Yn y gweithdai hynny gall
buddsoddwyr, academyddion, BBaCHau a’r gymuned ddiwydiannol ddod ynghyd â
rhannu arferion da, hyrwyddo technolegau ac edrych ar gyfleoedd sy’n cael eu
harwain gan y farchnad ac sy’n cael eu cyflwyno gan sefydliadau sydd ar flaen y
gad.
I gael rhagor o wybodaeth am CoInnovate 2016, dilynwch y
ddolen hon.
Energy Innovation Cardiff – 19 Hydref 2016, Stadiwm Swalec, Caerdydd
Dewch i rwydweithio gydag entrepreneuriaid, dyfeiswyr ac
ymarferwyr mwyaf blaenllaw'r DU. Byddant yn rhannu gwybodaeth am y modd y
gwnaethant ddatblygu prosiectau arloesol sy’n torri tir newydd ym maes ynni. I
gofrestru, dilynwch y ddolen hon.
Dilynwch ni ar @WG_innovation
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Arloesi a
chysylltu â thîm Arloesi Adran Economi a’r Seilwaith Llywodraeth Cymru, drwy
ein dilyn ar Twitter.
|