
Y Gweinidog yn llongyfarch menywod ym
maes peirianneg
Mae’r
Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James wedi bod yn cwrdd â modelau rôl
ar gyfer menywod ifanc sy’n ystyried dilyn gyrfa ym maes peirianneg sifil.
I nodi Diwrnod Cenedlaethol Menywod ym maes Peirianneg, trefnodd Sefydliad
Peirianwyr Sifil Cymru ddigwyddiad i annog mwy o fenywod i fentro i faes
peirianneg.
Nod y digwyddiad oedd mynd i'r afael
â’r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y maes hwn. Roedd yn cynnwys cyfres o
dri chyflwyniad byr gan fenywod sy’n beirianwyr sifil gyda chyfle iddynt
ddangos eu gwaith.
Cyn y digwyddiad a gynhaliwyd ym
Mhrifysgol Caerdydd, cafodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth a
Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru gyfle i gwrdd â
Llysgenhadon STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a sgwrsio
â myfyrwyr am eu hopsiynau. Rhagor o wybodaeth.
Mae un
o'r peirianwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael ei enwi ar y rhestr
gyntaf o 50 o’r menywod mwyaf blaenllaw ym maes Peirianneg yn y DU.
Yr Athro
Karen Holford yw Dirprwy Is-ganghellor Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn y
Brifysgol. Cyn hynny, hi oedd Pennaeth yr Ysgol Beirianneg. Rhagor o wybodaeth.
 |
|
Ysgrifennydd
yr Economi yn pennu’r blaenoriaethau cychwynnol
Mae Ken
Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi nodi ei
flaenoriaethau allweddol.
Wrth
siarad yng Nghinio Blynyddol CBI Gogledd Cymru, dywedodd mai un o’i dasgau
cyntaf fydd holi busnesau a phartneriaid allweddol am eu barn am ddatblygu
strategaeth economaidd newydd i Gymru.
Dywedodd y byddai'n galw ar y gymuned fusnes i gydweithio'n agos ag ef.
Dywedodd
y Gweinidog: “Mae’n fraint enfawr i mi gael fy mhenodi yn Ysgrifennydd yr
Economi a’r Seilwaith ac rwyf wrth fy modd ac yn frwdfrydig iawn am yr heriau
a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.
|
 |
|
Dyfais offer ceffylau gan gwmni yng Nghwmbrân
ar garlam mewn marchnadoedd byd-eang
Mae
dyfais offer ceffylau gan gwmni technoleg o Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth
Cymru, yn denu sylw byd-eang oddi wrth berchnogion a hyfforddwyr ceffylau rasio
drwy allu canfod unrhyw straen neu niwed i gyhyrau coesau ceffylau.
Dim ond
ddiwedd 2015 y lansiodd Byerley Technologies o Gwmbrân y Tendon Manager ac
eisoes mae wedi denu ymholiadau o Dubai, Awstralia a'r Almaen. Mae’r dechnoleg
yn sicrhau bod ceffylau ar eu gorau ar gyfer cystadlu ac mae hefyd yn eu helpu
i wella ar ôl anafu.
Bu
cefnogaeth Arloesi Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth arian yr Undeb
Ewropeaidd, o gryn help wrth ddatblygu’r Tendon Manager. Rhagor o wybodaeth.
|
 |
|
Ysgrifennydd
yr Economi yn dathlu ffigurau swyddi rhagorol
Mewn
ymweliad â’r Bathdy Brenhinol, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, fod Llywodraeth Cymru wedi helpu i greu dros 40,000 o swyddi
yn 2015/16.
Dengys y
ffigurau diweddaraf fod Llywodraeth Cymru wedi helpu i greu 5.3% yn fwy o
swyddi yn 2015/16 nag y gwnaeth yn 2014/15, ac yn nhymor diwethaf y Cynulliad
(2011 i 2016), fe helpodd i greu cyfanswm o bron i 150,000 o gyfleoedd newydd. Rhagor o wybodaeth.
|
 |
|
United Aerospace yn ennill gwobr arobryn gyda
chefnogaeth Arloesi Llywodraeth Cymru
Mae
nawdd SMARTCymru wedi helpu United Aerospace (sy’n deillio o Rebel.Aero Ltd) i
ddatblygu sedd arloesol ar gyfer awyrennau teithiau byr ac ennill Gwobr Crystal Cabin, sy’n wobr arobryn ryngwladol, am
ragoriaeth ym maes datblygu tu mewn awyrennau.
Rhagor o wybodaeth am sut gall arian arloesi helpu eich busnes
|
 |
|
Datblygiad cynnyrch diagnosis canser Cellpath
Mae
CellPath yn cynhyrchu cynnyrch sy’n cael eu defnyddio mewn patholeg cellau wrth
wneud diagnosis o ganser. Ar ôl cael arian gan Lywodraeth Cymru, mae wedi
datblygu cynnyrch newydd, cyflogi mwy o staff a chynyddu ei drosiant.
Dywedodd
Dr Neil Haine, Rheolwr Ymchwil a Datblygu yn CellPath “Mae CellPath Ltd yn
eithriadol o ddiolchgar am gefnogaeth arloesi Llywodraeth Cymru. Dyna sydd wedi
galluogi’r cwmni i ddatblygu a masnacheiddio cymaint o gynnyrch newydd a fydd
yn ei gwneud gymaint yn haws rhoi diagnosis o ganser.” Rhagor o wybodaeth.
|
 |
|
Concrete
Canvas yn ennill contract LNG mawr yn Awstralia
Mae Concrete
Canvas wedi
cael cymorth gan Lywodraeth Cymru ac mae'r cwmni wedi ennill contract mawr
gwerth mwy nag US$1M i gyflenwi dros 32,000 metr sgwâr o Concrete Canvas® GCCM
(CC) ar gyfer rheoli erydiad i un o brosiectau adnoddau mwyaf Awstralia:
gweithfa LNG Wheatstone yng ngorllewin Awstralia.
Rhagor o wybodaeth ynghyd â dysgu sut defnyddiodd y cwmni cymorth arloesi
Llywodraeth Cymru ac arian i ddatblygu ei gynnyrch a gwneud y busnes yn fwy
cystadleuol.
|
 |
|
Cyhoeddi enwau enillwyr Gwobr Mentergarwch y
Frenhines
Mae tîm
Arloesi Llywodraeth Cymru wedi cefnogi tri o’r pedwar enillydd o Gymru yng
Ngwobrau Mentergarwch y Frenhines.
Yn y
categori Arloesi, bu Direct Healthcare Ltd a Lumishore Ltd yn llwyddiannus, a
llwyddodd Kent Periscopes Ltd i ennill y categori Masnach Ryngwladol.
Rhoddir
y Gwobrau hyn i fusnesau am lwyddiant eithriadol ym maes Masnach Ryngwladol,
Arloesi a Datblygu Cynaliadwy. Rhagor o
wybodaeth.
|
 |
|
Advances Wales, rhifyn 79 allan nawr
Mae gwyddonwyr, peirianwyr a gweithgynhyrchwyr
yng Nghymru yn ymateb i’n byd sy’n prysur newid gyda thechnolegau newydd
arloesol ac ymchwil sy’n torri tir newydd. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys ystod o
ddatblygiadau digidol ac ymchwil a datblygiad technolegau adnewyddadwy sy’n
ymateb i’r byd gwyddonol a thechnolegol ac yn parhau i'w siglo.
Mae gwyddonwyr Cymru yn gweithio ar arbrofion
gyda'r gorau yn y byd i herio damcaniaethau ffiseg sy’n bodoli’n barod, ac
addysgu robotiaid ar ffurf ddynol i ddysgu ac addasu yn y ffordd y byddai
plentyn dynol yn ei wneud.
Darllenwch y rhifyn
diweddaraf.
|
Goreuon Arloesi Cymru
Mae Cymru yn genedl o bobl eithriadol - a dyma’ch cyfle i’w henwebu ar gyfer Gwobrau
Dewi Sant - y nodau o anrhydeddau uchaf a roddir gan Lywodraeth Cymru i
unigolion a thimau rhagorol sy'n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol. Rydym yn
arbennig o awyddus bod ein llwyddiannau mwyaf yn cael eu hystyried ar gyfer y
Wobr Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn 2017.
Peidiwch
â cholli’r cyfle i godi proffil eich sefydliad a’ch diwydiant. Enwebwch yma tan 21 Hydref 2016.
Rydym eisiau eich barn chi am ateb i dagfeydd
yr M4
Gofynnir
am farn busnesau wrth ddod gam yn nes at ganfod ateb i dagfeydd yr M4.
Mae Ken
Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith wedi cyhoeddi Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus
annibynnol i brosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
Mae
disgwyl i’r ymchwiliad ddechrau yng Nghasnewydd yr hydref hwn.
Fe
hoffem glywed eich barn - ewch i'n gwefan M4 am ragor o wybodaeth.
Venturefest Cymru - 28 Medi, Stadiwm Swalec,
Caerdydd
Mae
Venturefest Cymru yn dod â buddsoddwyr, entrepreneuriaid ac arloeswyr ynghyd i annog
pawb i rannu gwybodaeth, rhwydweithiau a syniadau. Bydd digwyddiad eleni yn
mynd i’r afael â’r rhwystrau sy'n wynebu entrepreneuriaid a busnesau wrth
geisio datblygu busnes. P’un ai a ydych chi’n cael trafferth cael gafael ar
gyllid, ymgyfarwyddo â recriwtio, neu eisiau dysgu sut mae datblygu’r
strategaeth farchnata gywir neu reoli twf heb ei reoli; bydd Venturefest Cymru
yn mynd i’r afael â’ch rhwystrau busnes yn uniongyrchol. Rhagor o
wybodaeth.
Yr Haf Arloesedd – Dathlu syniadau a
phartneriaethau sy’n llywio ein dyfodol
Bydd yr
Haf Arloesedd yn digwydd rhwng mis Mehefin a mis Hydref 2016, gan ddangos y
gorau o waith arloesi Prifysgol Caerdydd. Rhagor o wybodaeth.
CoInnovate 2016 – 11 a 12 Hydref, Mercure
Holland House, Caerdydd
Bydd
Colnnovate yn dod â buddsoddwyr blaenllaw y byd ynghyd yn ysbryd cydweithio.
Gan
adeiladu ar lwyddiant digwyddiad y llynedd, bydd heriau Colnnovate 2016 yn
canolbwyntio ar Awyrofod ac Amddiffyn, Gwyddor Bywyd a Diagnosteg Feddygol, ac
Ynni, Egni a Thrafnidiaeth. Rhagor o
wybodaeth a chofrestru.
Dilynwch ni ar @WG_innovation
Gallwch gael y newyddion
diweddaraf am Arloesi ac ymgysylltu â thîm Arloesi Adran Economi a’r Seilwaith
Llywodraeth Cymru, drwy ein dilyn ar Twitter.
|