Newyddlen Cymru Ddigidol - Rhifyn 10 – Ionawr 2016

Newyddion Cymru Digidol

=============
Cymru Digidol

Rhifyn 10, Ionawr 2016

=============
game

Hwb o £55,000 i ddatblygwyr gemau a fydd yn creu gemau newydd i Microsoft

Mae tri datblygwr gemau yng Nghymru wedi derbyn gwerth £55,000 o grantiau i greu gemau newydd i Microsoft dan fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Dojo Arcade a Wales Interactive Ltd, sydd wedi’u lleoli ym Mharc Technoleg Pencoed, a Sky Fish Studios Ltd o Gaerdydd, yw’r cwmnïau cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan yn rhaglen Greenshoots Microsoft.

Mae Greenshoots yn rhaglen ddeori sydd wedi bod yn rhedeg mewn partneriaeth â Creative England dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd nawr yn cael ei threialu yng Nghymru â chymorth Llywodraeth Cymru.  Darllenwch fwy.

=============
meal

Gwasanaeth archebu Tecawê a Phrydau Bwyd yn creu 280 o swyddi yng Nghwmbrân

Bydd 280 o swyddi’n dod i Gwmbrân wrth i wasanaeth ar-lein newydd agor ar gyfer archebu prydau bwyd neu gadw bwrdd mewn bwyty. Bydd y fenter arloesol yn gwasanaethu Prydain gyfan.

Bydd Kukd.com yn rhoi presenoldeb ar y we i’w aelodau ac yn galluogi cwsmeriaid i archebu ar-lein drwy system e-fasnach, gan ddefnyddio’r we neu apiau ar ddyfeisiau symudol.

Mae pecyn cyllid busnes gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau’r buddsoddiad newydd hwn yng Nghymru.  Darllenwch fwy.

=============
hands

Buddsoddiad o £6 miliwn yn helpu Smartpipe Solutions i greu 43 o swyddi

Mae Smartpipe Solutions wedi agor canolfan ymchwil a datblygu meddalwedd newydd yng Nghwmbrân – menter yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a fydd yn creu dros 40 o swyddi â sgiliau penodol yn y sector TG.

Derbyniodd y cwmni sydd wedi’i leoli yn Nhŷ Coch bron i £1 miliwn o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru, £700,000 gan Notion Capital, £500,000 gan Cyllid Cymru a £4 miliwn gan fuddsoddwyr preifat.

Mae’r cwmni eisoes wedi recriwtio 13 gweithiwr newydd ar gyfer y ganolfan yng Nghymru a bydd mwy na 30 o arbenigwyr peirianneg TG yn cael eu cyflogi yn 2016.  Darllenwch fwy.

=============
vizolution

Ehangu Vizolution yn creu swyddi newydd

Mae Vizolution, cwmni TG sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn ehangu ei dîm technoleg drwy greu 22 o swyddi newydd ym Mhort Talbot.

Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys ym Mharc Ynni Baglan, wedi cael pecyn cyllid o £275,000 gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys grantiau a benthyciadau.

Bydd yn galluogi Vizolution i ehangu i farchnadoedd newydd yn y DU ac mewn gwledydd eraill ac mae’r gwaith o recriwtio datblygwyr TG o’r radd flaenaf yn mynd rhagddo’n barod. Darllenwch fwy.

Llun – Bill Safron, Prif Weithredwr

=============
amplify

Llywodraeth Cymru yn helpu Amplyfi i adleoli

Mae AMPLYFI Ltd, cwmni newydd sy’n arbenigo mewn meddalwedd deallusrwydd artiffisial, wedi symud i Gymru â chymorth cronfa bwysig Datblygu Digidol Llywodraeth Cymru.

Roedd gan AMPLYFI, sydd â’i feddalwedd yn cael ei threialu ledled y byd ar hyn o bryd, swyddfeydd yn San Francisco ac yn Lloegr. Erbyn hyn mae’r cwmni wedi symud ei weithrediadau i Gaerdydd gan ehangu a chreu swyddi.

Maen nhw hefyd yn bwriadu cyflwyno fersiwn fasnachol o’r feddalwedd gyntaf iddyn nhw ei dyfeisio, sef DataVoyantTM, yng ngwanwyn 2016.  Darllenwch fwy.

Llun - Chris Ganje (chwith) a Mark Woods

=============
planti

Cwmni o Fachynlleth yn elwa o gymorth i ddod o hyd i safle

Mae Plant-i, busnes telemateg llwyddiannus, wedi agor ei swyddfeydd newydd yn swyddogol. Mae’r cwmni clodwiw yn un o dros 100 o fusnesau a dderbyniodd gymorth i symud i safle sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru y llynedd.

Yn yr agoriad swyddogol, dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, bod dod o hyd i safle i gwmnïau yn un o’r nifer o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru’n cynorthwyo busnesau i dyfu a chreu swyddi. Darllenwch fwy. 

Llun – Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, ar ymweliad yn ddiweddar â Plant-i, gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Sam Browne.

=============
cable

Ehangu cynlluniau Band Eang Cyflym Iawn

Mae dau o gynlluniau Llywodraeth Cymru yn cael eu hehangu fel bod mwy fyth o bobl yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn yng Nghymru. 

Mae Cymru ar flaen y gad yn barod o ran darparu band eang cyflym iawn yn y gwledydd datganoledig.* Erbyn hyn mae dros 530,000 o safleoedd yng Nghymru yn gallu defnyddio band eang ffeibr cyflym o ganlyniad i’r prosiect.

Bydd newidiadau i Allwedd Band Eang Cymru a’r cynllun Taleb Gwibgyswllt yn ehangu’r band eang cyflym iawn sydd ar gael a bydd yn sicrhau bod cyflymderau rhyngrwyd cyflymach ar gael i bob cartref a busnes ledled Cymru.  Darllenwch fwy. 

*Yn ôl Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu 2015

=============
ab

AB Connectors yn dathlu 80 mlynedd mewn busnes

Dathlodd AB Connectors Ltd 80 mlynedd mewn busnes ag ymweliad gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart.

Mae’r cwmni, sydd wedi bod yn gweithredu o’i safle yn Abercynon ers diwedd y 1940au, yn arbenigo mewn cynhyrchu cydrannau electronig milwrol ar gyfer cymwysiadau  Awyrofod ac Amddiffyn, Diwydiannau a Rheilffyrdd.

Mae’r cwmni’n cyflogi 140 o bobl ac mae’n cael ei gydnabod fel un o’r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y farchnad dylunio, profi a gweithgynhyrchu systemau cydgysylltu mewn amgylchedd garw, cydosodiadau harnais a chyfarpar cysylltu arbenigol.  Darllenwch fwy.

=============
digital tech

Technoleg ddigidol yn rhoi rheolaeth yn nwylo cleifion

Bydd trigolion Cymru yn gallu gael ymgynghoriad clinigol gyda’u meddyg teulu yn rhan o strategaeth newydd i roi lle canolog i dechnoleg yn rhan o system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.

 Mae’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i gleifion ddefnyddio ffôn clyfar i fonitro eu hiechyd dros gyfnod byr a chyfnod hir, gweld eu cofnodion iechyd eu hunain, gwneud apwyntiadau ac archebu presgripsiynau ar-lein.

Mae’r ddogfen “Iechyd a Gofal Gwybodus – Strategaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ddigidol ar gyfer Cymru” yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf yng nghyswllt defnyddio technoleg ddigidol yn y GIG yng Nghymru  a hefyd yn rhan o wasanaethau cymdeithasol Cymru. Darllenwch fwy

=============
broad

Band eang cyflym iawn ar gael ym Mlaenau Gwent

Mae Cyflymu Cymru wedi galluogi i dros 95 y cant o fusnesau a chartrefi ym Mlaenau Gwent gael band eang ffibr cyflym iawn. Mae hyn yn golygu bod yr ardal yn un o’r ardaloedd sydd â’r cysylltiadau digidol gorau yn y Deyrnas Unedig.

Bellach, mae’r dechnoleg ar gael i dros 30,000 o safleoedd ar draws yr awdurdod lleol.  Mae cyflymder cysylltiad y rhyngrwyd yn llawer gynt nag yr oedd yn y gorffennol ac ymysg y cyflymaf yn y byd.  Darllenwch fwy.

=============

Taith 'Exporting is GREAT' yn dod i Gymru

Gwahoddir cwmnïau yng Nghymru i gyfres o ddigwyddiadau am ddim gyda'r nod o ddatblygu eu busnes allforio.

Bydd y daith 'Exporting is GREAT', menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac Adran Masnachu a Buddsoddi'r DU, yn dod i Gymru rhwng 15 a 26 Chwefror.

Bydd y digwyddiadau'n cael eu cynnal mewn deg lleoliad ar draws y wlad. Bydd yn gyfle i'ch busnes drafod cyfleoedd rhyngwladol a cheisio cyngor ar eich marchnadoedd targed drwy gyfres o gyfarfodydd un i un a seminarau - beth bynnag yw'ch maint neu'ch sector.

Dysgwch fwy a threfnwch eich llei sicrhau bod eich busnes yn gallu cysylltu â'n rhestr hirfaith o gysylltiadau byd-eang.

=============

Cynlluniau i sefydlu pencadlys a chanolfan e-fasnachu newydd i Charlies Stores yn y Trallwng

Mae Charlies Stores, un o’r cwmnïau manwerthu annibynnol mwyaf yng Nghymru, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sefydlu ei bencadlys a chanolfan e-fasnachu yn y Trallwng.

Mae’r cwmni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn gwerthiant ar-lein, wrth i werthiant drwy’r wefan gynyddu 80% o’r naill flwyddyn i’r llall. Mae’n anelu at ddyblu ei drosiant ar-lein yn 2016 gan obeithio y bydd gwerthiant drwy’r rhyngrwyd yn helpu’r cwmni i dyfu yn y dyfodol.

Bydd ehangu’r cwmni’n diogelu 67 o swyddi ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf a chreu swyddi yn y dyfodol. Darllenwch fwy. 

=============

Cwmni technegol newydd Blurrt yn ennill un o brif wobrau technoleg y DU

Roedd nifer fawr o gwmnïau o Gymru wedi’u henwebu am Wobrau TechCities ac roedd y cwmni o Gwmbrân ar y rhestr fer mewn seremoni a gynhaliwyd yn Llundain yn ddiweddar.

Mae Blurrt, sydd wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, yn darparu llwyfan dadansoddeg sy’n caniatáu i’w ddefnyddwyr gasglu, gwrando, arddangos, dadansoddi ac ymgysylltu â’u cynulleidfaoedd cymdeithasol mewn amser real.  Darllenwch fwy.

=============

£2m o hwb i BBaCh Cymru i ddatblygu atebion pwrpasol ar gyfer heriau’r sector cyhoeddus

Mae arian yn cael ei gynnig i arloeswyr o Gymru drwy gystadleuaeth newydd nid annhebyg i’r Dragons’ Den er mwyn annog atebion strategol i rai o’r heriau mwyaf dyrys sy’n wynebu’r sector cyhoeddus yng Nghymru heddiw.

Bydd rhaglen Sbarduno Arloesedd newydd y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) – sy’n cael dros £2m o nawdd gan Lywodraeth Cymru – yn lansio cyfres o gystadlaethau y flwyddyn nesaf mewn cydweithrediad ag InnovateUK. Bydd BBaCh yn cael gwneud cais am gyllid ymchwil a datblygu er mwyn datblygu atebion technolegol ar gyfer heriau penodol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus. Darllenwch fwy.

=============

Cyllid o £12m gan Lywodraeth Cymru yn helpu i greu’r clwstwr cyntaf yn Ewrop o led-ddargludyddion yng Nghymru

Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, wedi rhoi pecyn cyllid o £12m yn swyddogol i helpu i adeiladu, gosod ffitiadau a phrynu offer cyfalaf ar gyfer Athrofa Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd.

Mae’r Athrofa’n rhan o’r £300m y mae Prifysgol Caerdydd yn ei fuddsoddi mewn canolfannau ymchwil ac arloesedd newydd. Mae’n elfen allweddol o’r strategaeth ehangach i greu’r pumed clwstwr o led-ddargludyddion yn Ewrop – a’r unig un sy’n rhoi ei holl sylw i led-ddargludyddion cyfansawdd.  Darllenwch fwy.

=============

Rhyddhad Ardrethi ar Fusnesau Bach wedi’i ymestyn am flwyddyn â £98 miliwn

Bydd Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth Cymru yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall, meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi.

Mae’r cynllun £98 miliwn, y mae mwy na thri chwarter y safleoedd busnes  yng Nghymru wedi elwa ohono, yn golygu na fydd tua hanner yr holl fusnesau cymwys yn gorfod talu ardrethi busnes yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf ychwaith.  Darllenwch fwy.

=============

Contractau gwerth £50m ar gyfer ehangu gwasanaeth Busnes Cymru

Mae gwasanaeth pwysig Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru, ar fin ehangu. Y nod yw creu 10,000 o fusnesau newydd, a 28,300 o swyddi newydd a darparu cymorth i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc dros y pum mlynedd nesaf. Mae hefyd yn gobeithio cynyddu nifer y nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu hallforio o Gymru, a fydd yn ychwanegu £215 miliwn yn rhagor at Economi Cymru.  Darllenwch fwy.

=============

Cronfa newydd gwerth £39m i roi hwb i gapasiti ymchwil gwyddonol o’r radd flaenaf yng Nghymru

Bydd dros chwe deg o gymrodoriaethau ymchwil gwyddonol yn elwa o gronfa newydd gwerth £39m i ehangu capasiti ymchwil gwyddonol Cymru sydd o’r radd flaenaf. Cyhoeddwyd hyn gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, tra oedd yn lansio ail gam Sêr Cymru II ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd y cam cyntaf ei lansio ym Medi 2015 pan ddarparwyd £17m o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop i ddenu 90 o gymrodyr ymchwil newydd o bob rhan o Ewrop i weithio gydag ymchwilwyr rhagorol yng Nghymru.  Darllenwch fwy.

=============

Nifer y busnesau yng Nghymru yn cynyddu 11% ers 2011

Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, yn annog darpar entrepreneuriaid i gysylltu â Busnes Cymru i’w helpu i droi eu huchelgais fusnes yn realiti – wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos bod nifer y mentrau busnes sy’n gweithredu yng Nghymru wedi tyfu dros 10% o dan y Llywodraeth bresennol yng Nghaerdydd.  

Ar ddechrau’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang yn ddiweddar, croesawodd y Gweinidog y ffigurau diweddaraf a ddangosai 11% o gynnydd yn nifer y mentrau yn cyflawni busnes yng Nghymru.  Darllenwch fwy.

=============

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn sbarduno arloesedd ac yn cefnogi busnesau i dyfu yng Nghymru

Mae gan y Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth sy’n galluogi cwmnïau i gael gafael ar arbenigedd a sgiliau academaidd i fynd i’r afael â heriau busnes strategol ran hollbwysig i’w chwarae wrth ysgogi arloesedd yng Nghymru

Dyma neges Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, pan roddodd anerchiad yn Welsh KTO@40 – digwyddiad a oedd yn dathlu pen-blwydd y rhaglen yn 40 yng Nghymru.  Darllenwch fwy.

=============

Archwiliad iechyd ar gyfer busnesau arloesol

Mae SMART Arloesi yn cynnig gwasanaeth ymgynghori tri diwrnod yn rhad ac am ddim i fusnesau ar gyfer cael cyngor dylunio a gweithgynhyrchu. Mae’r cymorth hwn yn rhan o becyn newydd o gymorth SMART a gefnogir gan arian Ewropeaidd.

Pa fath o gymorth sydd ar gael i’ch busnes chi.

=============

Ystadegau Diweddaraf y Farchnad Lafur yn dangos bod Cymru’n perfformio’n well na’r DU

Mae Ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur wedi dangos bod Cymru wedi perfformio’n well na bron bob rhan arall o’r DU, yn gydradd uchaf o ran y gostyngiad a gofnodwyd yn y gyfradd ddiweithdra, ac â’r cynnydd mwyaf ond un yn y gyfradd cyflogaeth.

Y naill flwyddyn ar ôl y llall, mae’r cyfrif hawlwyr ac anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol. Gwelwyd gostyngiad o 17,000 yn nifer y bobl ddi-waith ledled Cymru, a gwelwyd mwy o ostyngiad yng nghyfradd y bobl ifanc 18-24 oed sy’n ddi-waith na’r cyfartaledd ar gyfer y DU.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru; “Mae ein polisïau yn gweithio. Yn gynharach y mis hwn roeddem yn lansio cam diweddaraf gwasanaeth pwysig Busnes Cymru, sy’n werth £50 miliwn, â’r nod o greu 10,000 o fusnesau newydd, a 28,300 o swyddi newydd, a darparu cymorth i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc dros y pum mlynedd nesaf.”

=============

Dydd Mawrth Digidol

Mae Dydd Mawrth Digidol yn gymuned rwydweithio sy’n cyfarfod ar ddydd Mawrth cyntaf bob mis, fel rheol yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd – i gyfnewid gwybodaeth, trafod a chynnal busnes yn seiliedig ar y thema ddigidol.

Mae mwy o wybodaeth a chyfle i chi gofrestru eich diddordeb yma.

=============

Dilynwch ni ar @WG_economy

Nawr gallwch gael y diweddaraf am Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â ni drwy ein dilyn ar Twitter.

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.