Blwyddyn Newydd Dda gan Cadw!

Cael trafferth gweld y neges hon yn iawn? Cliciwch yma i weld y neges ar-lein

Castell Coch © MLA Photography

31 Rhagfyr 2015

Gobeithio’ch bod wedi mwynhau eich blwyddyn yn ymweld â safleoedd Cadw ac wedi cael blas ar y digwyddiadau bywiog, ymgyrchoedd gwych a phrosiectau difyr a drefnwyd yn 2015. O gestyll tywod i gestyll neidio a hyd yn oed cestyll Lego – heb anghofio fideos CGI, map rhyngweithiol ‘fel map tiwb’ a chomics Pete Fowler - mae eleni wedi bod yn flwyddyn o weithgareddau llawn hwyl diddiwedd i blant a phobl o bob oed!

2016 yw ‘Blwyddyn Antur’, felly byddwch yn barod i gael llawn cymaint o hwyl y flwyddyn nesaf!


Ddigwyddiadau

© CBHC

Prydain oddi Fry

Yn 2016, bydd arddangosfa Aerofilms Ltd yn teithio i safleoedd ledled Cymru ac yn dangos delweddau anhygoel o’u casgliad. Ewch i’n Calendr Digwyddiadau i weld a ydyn nhw’n cael eu cynnal mewn safle yn eich ardal chi!