
Warws newydd gwerth £4.5m gan Norgine yn rhoi
hwb i sector gwyddorau bywyd Cymru
Mae
warws newydd, gwerth £4.5m, Norgine wedi agor yn swyddogol, sy’n darparu hwb
pwysig arall i’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Bydd
Norgine, un o gwmnïau angori Llywodraeth Cymru, yn awr yn ehangu ei waith
cynhyrchu ac yn cryfhau dyfodol hirdymor y safle. Dyma’r cyflogwr fferyllol mwyaf yng Nghymru
sy’n cyflogi 328 o staff amser llawn, ac mae’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth
Cymru i helpu i ysgogi twf economaidd a chreu swyddi yn y sector gwyddorau
bywyd yng Nghymru. Darllen mwy.
 |
|
Magstim yn creu 50 o swyddi wrth iddo dargedu
marchnadoedd pwysig yn yr Unol Daleithiau
Mae
cwmni yn Sir Gaerfyrddin yn cynyddu ei weithlu i 150 gyda chymorth gan
Lywodraeth Cymru.
Mae
Cwmni Magstim, a gefnogir gan becyn cyffredinol o £2.7 miliwn gan Lywodraeth
Cymru, yn bwriadu creu bron i 50 o swyddi newydd yn ei ganolfan yn Hendy-gwyn
ar Daf dros dair blynedd.
Bydd y
busnes, sydd ag enw da yn rhyngwladol am gynhyrchu cyfarpar meddygol
soffistigedig ar gyfer archwilio a therapi’r ymennydd, yn adeiladu estyniad
13,912 o droedfeddi sgwâr i’w gyfleuster presennol yn Hendy-gwyn ar Daf, ac yn
creu 50 o swyddi newydd - gan gynyddu nifer y gweithlu presennol o 100 i 150. Darllen mwy.
|
 |
|
Ail fuddsoddiad gan Essentra yn creu 70 o
swyddi
Mae’r
cwmni pecynnu arbenigol sy’n gweithredu ar draws y byd, Essentra plc, unwaith
eto yn ehangu yng Nghasnewydd ac yn creu saith deg o swyddi newydd.
Mae'r
buddsoddiad diweddaraf hwn, gyda chymorth cyllid busnes o £143,000 gan
Lywodraeth Cymru, yn golygu y bydd y cwmni’n dyblu maint ei staff wrth iddo
gymryd safle cyfagos 225,000 troedfedd sgwâr dan ei adain ym Mharc Imperial,
Casnewydd. Darllen mwy.
|
 |
|
50 o swyddi’n cael eu creu wrth i Prism Medical
UK ehangu
Mae
pecyn cymorth ariannol o £363,000 gan Lywodraeth Cymru wedi sicrhau dyfodol
hirdymor Prism Medical UK.
Mae'r
cwmni yn awr yn bwriadu ehangu yn y Rhyl a Phen-y-Bont ar Ogwr, gan greu 50 o
swyddi newydd a diogelu 135 o swyddi eraill. Darllen mwy.
|
 |
|
TrakCel Ltd i greu 20 o swyddi newydd yng
Nghaerdydd
Bydd y
datblygiad gan TrakCel Ltd, cwmni sy’n arloesi ym maes biodechnoleg, yn creu 20
o swyddi newydd ac yn cyflwyno ar lefel fasnachol system olrhain soffistigedig
sy’n cael ei defnyddio mewn treialon yn ymwneud â therapïau celloedd a
meddygaeth adfywiol.
Mae’r
cyllid gan Lywodraeth Cymru yn dilyn gwerthusiad llwyddiannus gan
GlaxoSmithKline (GSK) o blatfform meddalwedd TrakCel ac o ganlyniad, mae GSK,
ynghyd â chwmnïau blaengar eraill yn y diwydiant therapïau celloedd, wedi
mabwysiadu’r feddalwedd.
Mae’r
ehangu hwn wedi cael ei gefnogi gan £125,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth
Cymru i helpu’r cwmni i uwchraddio o Ymchwil a Datblygu i fasnacheiddio. Darllen mwy.
|
 |
|
Caerdydd yn cael ei henwi’n ‘Ganolfan
Rhagoriaeth’
Mae
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu’r newyddion bod Caerdydd wedi
cael ei henwi’n ‘Ganolfan Rhagoriaeth’ mewn rhwydwaith o ganolfannau i
ddatblygu meddygaeth fanwl ledled y DU.
Dyma un o
chwe chanolfan a enwyd yn y prosiect Precision Medicine Catapult sy’n werth
£50m ac a ariennir gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU.
Mewn
consortiwm dan arweiniad Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Phrifysgol Caerdydd,
bydd y Ganolfan yn gweithio ar raglenni lleol a chenedlaethol, gan greu timau o
arbenigwyr ar draws y rhanbarth Darllen mwy.
|
 |
|
Arbenigedd o Gymru yn cael ei weld yn Medica
Aeth un
o deithiau masnach Llywodraeth Cymru ag 80 o gynrychiolwyr i Dusseldorf i
fynychu ffair fasnach feddygol fwyaf blaenllaw y byd.
Mae
Medica yn rhoi llwyfan i amrywiaeth o wasanaethau a chynnyrch arloesol a
llwyddiannus, ac mae’n un o brif ddigwyddiadau’r byd ar gyfer y sector
gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Mynychwyd
y digwyddiad gan bedwar deg a dau o gwmnïau - y nifer mwyaf erioed - gydag un
deg naw yn arddangos a dau ddeg tri yn ymweld. Darllen mwy.
|
 |
|
Cyffuriau canser newydd i fod ar gael yng
Nghymru drwy gytundeb newydd
Bydd
cytundeb newydd gyda’r cwmni fferyllol Novartis yn galluogi cleifion yng
Nghymru i gael gafael ar gyffuriau canser newydd nad ydynt ar gael fel mater o
drefn ar hyn o bryd yng Nghymru. Darllen mwy.
|
 |
|
Archwiliad
iechyd ar gyfer busnesau arloesol
Mae
SMARTInnovation yn cynnig gwasanaeth ymgynghori tri diwrnod yn rhad ac am ddim
i fusnesau ar gyfer cael cyngor dylunio a gweithgynhyrchu. Mae'r cymorth hwn yn
rhan o becyn newydd o gymorth SMART a gefnogir gan arian Ewropeaidd.
Cael gwybod sut y gall eich busnes gael cymorth.
|
 |
|
Arbenigwr byd-eang ar ganser a'r Arglwydd
Winston i siarad yn BioCymru 2016
Mae’r
arbenigwr byd-eang ar ganser, yr Athro
Gordon McVie, Uwch Ymgynghorydd yn y Sefydliad Oncoleg
Ewropeaidd yn Milan, wedi cael ei ychwanegu at raglen cynhadledd BioCymru 2016.
Mae’r
digwyddiad pwysig hwn ar gyfer y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru yn
dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ar 1-2 Mawrth 2016 dan y thema Cysylltu a Chydweithredu.
Cael gwybod mwy.
|
Contractau gwerth £50m ar gyfer ehangu
gwasanaeth Busnes Cymru
Mae gwasanaeth pwysig Llywodraeth
Cymru, Busnes Cymru, ar fin ehangu. Y nod yw creu 10,000 o fusnesau newydd,
28,300 o swyddi newydd a darparu cymorth i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth
nesaf o entrepreneuriaid ifanc dros y pum mlynedd nesaf. Mae hefyd yn gobeithio
cynyddu nifer y nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu hallforio o Gymru, a fydd yn
ychwanegu £215 miliwn yn rhagor at Economi Cymru. Darllen mwy.
Cronfa
newydd gwerth £39m i roi hwb i gapasiti ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang yng
Nghymru
Bydd
dros chwe deg o gymrodoriaethau ymchwil gwyddonol yn elwa o gronfa newydd
gwerth £39m i ehangu capasiti ymchwil gwyddonol Cymru sydd o safon fyd-eang.
Cyhoeddwyd hyn gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, tra oedd yn lansio ail
gam Sêr Cymru II ym Mhrifysgol Abertawe.
Cafodd
y cam cyntaf ei lansio ym mis Medi 2015 pan ddarparwyd £17m o gyllid gan
Lywodraeth Cymru ac Ewrop i ddenu 90 o gymrodyr ymchwil newydd o bob rhan o
Ewrop i weithio gydag ymchwilwyr rhagorol yng Nghymru. Darllen mwy.
Apitope i symud i Gymru gyda chymorth Cronfa
Gwyddorau Bywyd Cymru
Bydd cwmni cyffuriau sy’n arbenigo mewn datblygu triniaethau ar
gyfer clefydau awto-imiwn, ac sydd â’i phencadlys ym Mryste ar hyn o bryd, yn
symud i Gymru ar ôl derbyn buddsoddiad o sawl miliwn gan Gronfa Gwyddorau Bywyd
Cymru. Darllen mwy.
Partneriaethau
Trosglwyddo Gwybodaeth yn sbarduno arloesedd ac yn cefnogi busnesau i dyfu yng
Nghymru
Mae
gan y Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, sy’n galluogi cwmnïau i gael
gafael ar arbenigedd a sgiliau academaidd i fynd i'r afael â heriau busnes
strategol, ran hollbwysig yn ysgogi arloesedd yng Nghymru.
Dyna
neges Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, pan roddodd anerchiad yn WelshKTP@40 -
digwyddiad a oedd yn dathlu pen-blwydd y rhaglen yn 40 mlynedd yng Nghymru. Darllen mwy.
£2m o hwb i BBaCh Cymru i ddatblygu atebion
pwrpasol ar gyfer heriau’r sector cyhoeddus
Mae
arian yn cael ei gynnig i arloeswyr o Gymru trwy gystadleuaeth newydd nid
annhebyg i’r Dragons Den fydd yn eu hannog i ddyfeisio atebion strategol i rai
o’r problemau mwyaf dyrys sy’n wynebu’r sector cyhoeddus yng Nghymru heddiw.
Bydd
Rhaglen Sbarduno Arloesedd newydd y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) – sy’n
cael dros £2m o nawdd gan Lywodraeth Cymru – yn lansio cyfres o gystadlaethau
flwyddyn nesaf mewn cydweithrediad ag InnovateUK. Bydd BBaCh yn cael bidio am gyllid i gynnal
gwaith ymchwil a datblygu i ddatblygu atebion technolegol ar gyfer heriau
penodol sy’n wynebu’r sector cyhoeddus. Darllen mwy.
Canolfan Arloesi Menter Cymru yn sicrhau
buddsoddiad o £250,000
Mae
Canolfan Arloesi Menter Cymru yng Nghaerffili wedi sicrhau buddsoddiad gwerth
£250,000 i helpu i gefnogi busnesau yng Nghymru sy’n cychwyn.
Bwriad yr arian, a ddarperir gan
Ymddiriedolaeth Fairwood, Llywodraeth Cymru, Banc Lloyds a Grŵp WCR, yw rhoi i
fusnesau sy’n cychwyn lwybrau strwythuredig at gynaliadwyedd, eu galluogi i
greu swyddi a rhoi hwb i economi Cymru. Darllen mwy.
Cwmnïau
yn arddangos technolegau llwyddiannus
Cafodd cwmnïau sydd wedi cael eu dewis ar
gyfer y rhestr fel rhan o UK Medical Technologies
Launchpad Innovate, y cyfle i arddangos eu technolegau
i ddarpar fuddsoddwyr, mentoriaid, cymheiriaid a chwsmeriaid yn y Venturefest
Cymru diweddar. Roedd hyn yn nodi diwedd
rhaglen 6 mis o gymorth cofleidiol i fusnesau a ddarparwyd gan Lywodraeth
Cymru, a oedd yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu’u busnesau a chael gafael ar
fuddsoddiad dilynol.
Cael
gwybod sut y maent wedi cael budd o arweiniad a chyngor
busnes a sut y maent yn helpu i ddatblygu'r clwstwr Technolegau Meddygol yn Ne
Cymru.
Cenedl Hyblyg 2 – cefnogi menywod yn y sector
Gwyddorau Bywyd
Rhaglen
newydd, a gyhoeddwyd gan Chwarae Teg, yw Cenedl
Hyblyg 2 i helpu
menywod i ddatblygu’u gyrfaoedd. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at fenywod sydd am fod yn rheolwyr ac
sydd â’r ymroddiad a’r brwdfrydedd i ddatblygu’u gyrfa a menywod sydd efallai
eisoes wedi cymryd y cam cyntaf tuag at reoli tîm. Mae’r rhaglen ar gael i fenywod sy’n gweithio
yn y sector Gwyddorau Bywyd a gellir ei theilwra ar gyfer y mathau o heriau y
mae rheolwyr am y tro cyntaf yn gallu’u hwynebu ac sy’n unigryw i’r sector
hwn. Cael gwybod mwy.
MRC i arwain yr Uned Ymchwil Dementia gyntaf ac
yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines
Mae’r
Prif Weinidog, David Cameron, wedi cyhoeddi y bydd y Sefydliad Ymchwil Dementia (DRI) cenedlaethol
cyntaf yn cael ei arwain gan Gyngor Ymchwil Feddygol Prifysgol Caerdydd. Bydd y
Sefydliad Ymchwil Dementia, a fydd yn dod ag arbenigedd gyda’r gorau yn y byd
mewn gwyddoniaeth darganfod at ei gilydd, yn derbyn hyd at £150m a bydd yn gwbl
weithredol erbyn 2020.
Hefyd,
mae Canolfan Genomeg a Geneteg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines 2015 am ragoriaeth ym maes ymchwil. Caiff ei dyfarnu bob dwy flynedd gan y
Frenhines i gydnabod sefydliad academaidd neu alwedigaethol, ac mae’n dod o dan
system anrhydeddau cenedlaethol y DU.
Time for Medicine yn ennill lle yn sioe arloesi
fwyaf y DU
A’r cwmni wedi’i leoli ym Medicentre Caerdydd, cafodd Time for Medicine y gorau ar gystadleuwyr cryf
eraill o bob rhan o'r wlad ac ennill lle i arddangos ei gynnyrch yn nigwyddiad
arloesi mwyaf y DU ar gyfer sawl sector a gynhaliwyd ym mis Tachwedd. Roedd y cwmni ymhlith cant a ddewiswyd i
arddangos eu harloesedd i dros 3,000 o fynychwyr yn Innovate 2015, yn
Llundain. Darllen mwy.
Nifer
y busnesau yng Nghymru yn cynyddu 11%, ers 2011
Mae
Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, yn annog darpar entrepreneuriaid i gysylltu
â Busnes Cymru i'w helpu i droi eu huchelgais fusnes yn realiti - wrth i
ffigurau diweddaraf ddangos bod nifer y mentrau busnes sy'n gweithredu yng
Nghymru wedi tyfu dros 10% o dan y Llywodraeth bresennol yng Nghaerdydd.
Ar
ddechrau’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang yn ddiweddar, croesawodd y
Gweinidog y ffigurau diweddaraf a ddangosai 11% o gynnydd yn nifer y mentrau yn
cyflawni busnes yng Nghymru. Darllen mwy.
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn
lansio’r gystadleuaeth Boost Cymru
Mae’r Hwb yn lansio cystadleuaeth fusnes flynyddol newydd a
bydd y peilot yn cael ei lansio ym mis Rhagfyr.
Bydd Boost Cymru yn ysgogi, yn arddangos ac yn cefnogi syniadau twf
uchel a thwf cyflym yn y Gwyddorau Bywyd yng Nghymru, gan wneud y cysylltiad rhwng
syniadau a masnacheiddio’n realiti.
Mae’r gystadleuaeth yn cychwyn drwy Fynegi Diddordeb ar-lein.
Rhaid i fusnesau fod wedi’u lleoli yng Nghymru ac â syniad perthnasol yn y
Gwyddorau Bywyd y bydd yn rhaid ei gyflwyno’n glir mewn neges fideo tri munud.
Bydd gan y rowndiau dilynol feini prawf gwahanol ar bob cam dyfarnu, gan
gynnwys eiddo deallusol, llwybrau at y farchnad a phroffilio ariannol ymysg
pethau eraill. Bydd yr enillydd yn cael
arian a chymorth proffesiynol ymarferol ac, ar hyd y ffordd, bydd pawb a
ymgeisiodd yn llwyddiannus yn gallu cael gafael ar weithdai datblygu wedi’u
hwyluso, yn ogystal â chymorth gan hyfforddwyr a mentoriaid busnes
profiadol. Cael gwybod mwy.
Cystadleuaeth gofal iechyd Innovate UK:
Cystadleuaeth ymchwil a datblygu diwydiannol
cydweithredol rhwng yr India a'r DU: TGCh a gofal iechyd fforddiadwy a
thechnoleg glân - Nod y
gystadleuaeth yw dod â chwmnïau at ei gilydd (cwmnïau bach a chanolig a/neu
gwmnïau mwy), sefydliadau ymchwil, academyddion a chymheiriaid eraill o'r India
a’r DU ar gyfer ymchwil a datblygu ar y cyd er mwyn dod o hyd i atebion newydd
i heriau economaidd-gymdeithasol mawr, ar ffurf gwasanaethau, prosesau neu
gynnyrch arloesol.
Cystadleuaeth pontydd ymchwil ac arloesi rhwng Tsieina
a’r DU - mae Innovate UK, Cynghorau Ymchwil y DU (RCUK) a'r Weinyddiaeth
Gwyddoniaeth a Thechnoleg (MoST) ar gyfer
Gweriniaeth Pobl Tsieina yn mynd i fuddsoddi hyd at £16 miliwn mewn prosiectau
ymchwil a datblygu ar y cyd sy’n cynnig atebion masnachol newydd i heriau
pwysig sy’n effeithio ar dwf economaidd-gymdeithasol a datblygiad Tsieina yng
nghyswllt ynni, gofal iechyd, trefoli a bwyd-amaeth. Cael gwybod mwy.
Her Fawr Cancer Research UK - gwobrau cynnydd
£20M
Gwobrau'r
Her Fawr yw’r grantiau ymchwil mwyaf uchelgeisiol yng nghyswllt canser yn y
byd, gyda hyd at £20M ar gael mewn cymorth.
Gofynnir am geisiadau gan dimau rhyng-ddisgyblaethol sydd â ffyrdd
newydd a chyffrous o ddatrys un o saith Her Fawr, sydd gyda’i gilydd yn cwmpasu
rhai o'r cwestiynau pwysicaf ym maes ymchwil canser nad oes ateb iddynt.
Cael gwybod mwy.
Rhyddhad Ardrethi ar Fusnesau Bach
wedi’i ymestyn am flwyddyn gyda £98 miliwn
Bydd Cynllun
Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth
Cymru yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall, meddai Edwina Hart,
Gweinidog yr Economi.
Mae’r cynllun
£98 miliwn, fydd yn helpu dros dri chwarter o fusnesau yng Nghymru, yn golygu
na fydd oddeutu hanner pob busnes cymwys yn talu ardrethi busnes eto yn y
flwyddyn ariannol nesaf. Darllen
mwy.
Digwyddiadau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Hwb
Gwyddorau Bywyd Cymru ym Mae Caerdydd yw’r canolbwynt ar gyfer y sector yng
Nghymru - gan sbarduno rhyngweithio, arloesedd, rhwydweithio a chydweithio.
Cael gwybod mwy am nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y sector gan Hwb
Gwyddorau Bywyd Cymru.
Dilynwch ni ar @WG_economy
Gallwch gael y diweddaraf am
Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru a chysylltu â ni
drwy ein dilyn ar Twitter.
|