
Llywodraeth
Cymru yn helpu Fox 21 Television Studios i adfywio Dragon Studios
Mae
Llywodraeth Cymru wedi sicrhau llwyddiant mawr arall ar gyfer y diwydiant
teledu a ffilm yng Nghymru drwy helpu Fox 21 Television Studios i ennill
prydles Dragon Studios ym Mhencoed, sydd wedi bod yn wag am beth amser.
Croesawodd
Edwina Hart y penderfyniad gan Fox 21 Television Studios i ddefnyddio'r stiwdio
i gynhyrchu The Bastard Executioner, eu cyfres hanesyddol fawr ddiweddaraf gan
Kurt Sutter, crëwr Sons of Anarchy. Darllen mwy.
Y llun - Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, yn Dragon
Studios, Pencoed, lle mae The Bastard Executioner yn cael ei wneud, gyda Giles
Masters, Dylunydd Cynhyrchu a Paris Barclay, Cynhyrchydd Gweithredol.
 |
|
Dirprwy Weinidog yn hedfan baner Cymru yn ystod Wythnos Ffilm a Theledu’r DU
Yn ddiweddar, roedd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn hedfan baner Cymru yn ystod Wythnos Ffilm a Theledu’r DU yn Los Angeles. Ei nod oedd hybu ein sector diwydiannau creadigol, sy’n ffynnu ar hyn o bryd, a denu rhagor o gynyrchiadau rhyngwladol o’r radd flaenaf i Gymru.
Cymru yw canolbwynt y sector diwydiannau creadigol y tu allan i Lundain erbyn hyn yn sgil llwyddiannau rhyngwladol diweddar sy’n cynnwys Da Vinci’s Demons a The Bastard Executioner.
Darllenwch ragor.
|
 |
|
Their Finest hour and a Half yn sicrhau budd economaidd sylweddol ar ôl ffilmio am saith wythnos yng Nghymru
Mae Their Finest Hour and a Half – y ffilm ddiweddaraf i gael ei chefnogi gan Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau gwerth £30 miliwn Llywodraeth Cymru – newydd orffen ffilmio yng Nghymru, gan sicrhau budd economaidd sylweddol.
Cafodd pum deg y cant o'r ffilmio ei wneud mewn lleoliadau yn Abertawe a de orllewin Cymru dros y saith wythnos ddiwethaf, gan gynnwys Theatr y Grand Abertawe a Neuadd y Ddinas, a gafodd eu newid i'r Weinyddiaeth Gwybodaeth a Whitehall, ynghyd â nifer o lefydd yn Sir Benfro, gan gynnwys Trecŵn, Freshwater West, Harbwr Porthgain, Sinema'r Palace yn Hwlffordd a'r Cresselly Arms yng Nghei Cresswell.
Darllen mwy.
Y llun: Cyngor Sir Penfro
|
 |
|
Trampires ac Animortal Studios yn adfywio ac
yn creu 90 o swyddi newydd
Mae Prif
Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ymweld â stiwdio animeiddio uwch dechnoleg
modern newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r gwaith ffilmio wedi dechrau ar
ffilm animeiddiedig ‘stop motion’ hyd llawn newydd o'r enw 'Chuck Steel: Night
of the Trampires', a fydd yn creu 90 o swyddi newydd.
Darllen mwy.
|
 |
|
Llywodraeth Cymru a Microsoft yn lansio peilot
Greenshoots yng Nghymru
Bydd
prosiect peilot sydd â'r nod o gefnogi datblygwyr gemau newydd yng Nghymru yn
rhoi grant o £25,000 i bedwar cwmni llwyddiannus er mwyn iddynt lunio gemau
newydd – a chael arweiniad arbenigol gan Microsoft.
Mae hyn
yn dilyn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Microsoft i lansio fersiwn
Gymraeg o brosiect datblygu gemau Greenshoots Microsoft i ddatblygwyr newydd.
Darllen mwy.
|
 |
|
Cynlluniau West Coast Group ar gyfer ehangu yn
dod â swyddi newydd
Amlinellodd
West Coast Group, sy'n arbenigo mewn datblygu gemau a meddalwedd, eu cynlluniau
ar gyfer ehangu wrth i'w stiwdos newydd yn Aberystwyth gael eu hagor yn
swyddogol gan y Gweinidog Economi, Edwina Hart.
Mae'r
Grŵp, sy'n cynnwys West Coast Games a West Coast Software, yn darparu
portffolio amrywiol o brosiectau, o ddatblygu gemau rhyngweithiol newydd i greu
meddalwedd ar gyfer rhaglenni diwydiannol.
Darllen mwy.
|
 |
|
Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ennill Gŵyl Orau Prydain
yng Ngwobrau Cerddoriaeth Fyw 2015
Enillodd
Gŵyl y Dyn Gwyrdd wobr o fri yn Noson Wobrwyo Busnes Cerddoriaeth Fyw neithiwr,
sef y Wobr am yr Ŵyl Orau. Cafodd y wobr ei dyfarnu gan banel o arbenigwyr
amlwg, gan gynnwys artistiaid uchel eu proffil, asiantiaid a rheolwyr
artistiaid.
Gan longyfarch trefnwyr yr ŵyl, dywedodd Edwina Hart,
Gweinidog yr Economi: "Mae hyn yn dipyn o gamp, ac mae'n llawn
haeddiannol. Gwŷl y Dyn Gwyrdd yw'r ŵyl celfyddydau a cherddoriaeth gyfoes
fwyaf yng Nghymru, ac rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth
gan ei fod yn helpu i hyrwyddo diwylliant Cymreig a'n diwydiannau creadigol
deinamig i gynulleidfa ryngwladol gan hybu twristiaeth ar yr un pryd."
Darllen mwy.
|
 |
|
Dathlu diwydiannau creadigol ffyniannus Cymru
yn BAFTA Cymru
Cafodd
diwydiannau creadigol ffyniannus Cymru eu dathlu yng Nghaerdydd yn ddiweddar
yng ngwobrau mawreddog BAFTA Cymru.
Wedi eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cafodd
rhagoriaeth mewn ffilm a theledu Cymru ei hanrhydeddu gan BAFTA Cymru.
Mae'r Diwydiannau Creadigol
yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac erbyn hyn mae'n un o'r sectorau sy'n tyfu
gyflymaf yng Nghymru. Mae ystadegau diweddar yn dangos bod nifer y bobl sy'n
gweithio yn y diwydiant hwn wedi codi 52% rhwng 2005 a 2014, gyda bron i 50,000
o bobl yn gweithio yn y sector erbyn hyn.
Darllen
mwy.
|
 |
|
Y Prif Weinidog yn cyhoeddi cyllid o £115
miliwn i hybu arloesedd
Mae
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi pecyn gwerth £115 miliwn i
hybu arloesedd a fydd yn arwain at gannoedd o gynnyrch a swyddi uchel eu safon
newydd ledled Cymru.
Gyda chefnogaeth gan Gronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop a buddsoddiad o'r sector preifat, mae Llywodraeth
Cymru yn lansio dau brosiect arloesi newydd: SMART Cymru a SMART Arbenigedd.
Darllen mwy.
|
 |
|
Lady Chatterley’s Lover: Drama
hyd llawn sydd wedi’i ffilmio yng Nghymru yn cael ei dangos am y tro cyntaf
Wedi ei
ffilmio yn erbyn cefndir atyniadol cefn gwlad Cymru, ac yn cynnwys cast a chriw
o safon uchel iawn, roedd Lady
Chatterley’s Lover yn llwyddiant ysgubol pan gafodd ei dangos ar BBC1 am y
tro cyntaf.
Yn
seiliedig ar nofel enwog DH Lawrence am berthynas sy’n croesi ffiniau dosbarth,
mae Lady Chatterley’s Lover yn un
enghraifft o lwyddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn ôl Gweinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.
Darllen mwy.
Llun
- drwy garedigrwydd Hartswood Films a
Joss Barratt
|
 |
|
Taith Fasnach Gymreig i San Francisco
Arfordir
Gorllewinol Unol Daleithiau America oedd canolbwynt taith fasnach ddiweddaraf
Llywodraeth Cymru, a fu'n arwain dirprwyaeth o 10 cwmni Cymreig o'r sbectrwm
diwydiannau creadigol a thechnoleg gwybodaeth i San Francisco.
Trefnwyd
y daith pum diwrnod rhwng 27 Medi a Hydref 2 yn benodol i gyd-fynd â'r Global
Mobile Internet Conference, cynhadledd symudol fwyaf Silicon Valley, sy'n denu
miloedd o ymwelwyr o dros 60 o wledydd.
Darllen mwy.
|
Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol – Dysgu Creadigol
drwy'r Celfyddydau
Bydd y cynllun hwn a ddarperir ar
y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn sicrhau gwelliant
gwirioneddol yn y ffordd y mae'r sectorau celfyddydau, creadigol ac addysg yn
cydweithio i ddarparu manteision pwysig i ddysgwyr a'u hysgolion. Mae'r cynllun, sy'n rhan o'r cynllun pum
mlynedd ar gyfer Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, yn gobeithio rhoi dysgu
creadigol a'r celfyddydau wrth galon dysgu mewn ysgolion i wella cyrhaeddiad
drwy greadigrwydd; cynyddu a gwella profiadau a chyfleoedd sy'n ymwneud â'r
celfyddydau mewn ysgolion; cyflawni'r tair blaenoriaeth addysg: gwella
llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith anfantais; cefnogi athrawon ac
ymarferwyr y celfyddydau i ddatblygu eu sgiliau.
Mae 131 o ysgolion o bob cwr o
Gymru wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn y rownd gyntaf, ac yn ystod y cynllun
pum mlynedd bydd y cynllun ar gael i tua un ym mhob tri o ysgolion Cymru. Darllenwch fwy am y cynllun yma.
Prif swyddfa Cymru Milk VFX yn
agor yn Gloworks
Bu agoriad swyddogol prif swyddfa Cymru
Milk VFX yn Gloworks ar 22 Medi. Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, ynghyd ag
argaeledd lleoliad addas yn Gloworks, mae'r cwmni effeithiau gweledol uchel ei
broffil hwn o Lundain wedi agor swyddfa yng Nghaerdydd. Maent wedi gweithio ar
gynyrchiadau llwyddiannus megis Poltergeist, Hercules, 24: Live Another Day,
Sherlock, Dr. Who a Jonathan Strange & Mr Norrell, drama BBC TV. Nawr bod y
cwmni hwn wedi eu lleoli yn Gloworks, mae'r adeilad yn llawn. Darllenwch fwy am Milk VFX.
Busnesau sy’n chwilio am gyngor i
gysylltu â BOSS
Mae
gwasanaeth cymorth busnes newydd ar-lein wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod pob entrepreneur a busnes yn gallu cael mynediad i gymorth Busnes
Cymru unrhyw amser ac unrhyw bryd.
Nod
y Gwasanaeth Cymorth
Busnes Ar-lein (BOSS) yw gweddnewid cefnogaeth ar-lein ac ategu
dysgu wyneb wrth wyneb.
Darllen mwy.
Penodi panel arbennig i yrru rhaglen
entrepreneuriaeth wedi'i seilio ar arloesedd byd-eang yn ei blaen
Mae
Edwina Hart, y Gweinidog Economi, wedi penodi tîm amlddisgyblaethol sy'n
cynnwys unigolion dylanwadol a llwyddiannus i yrru Rhaglen Datblygu
Entrepreneuriaeth Rhanbarthol (REAP) Sefydliad Technoleg Massachusetts i Gymru
yn ei blaen.
Cafodd
Cymru ei dewis y llynedd i gymryd rhan yn y rhaglen, sy'n fenter byd-eang wedi
ei dylunio i helpu rhanbarthau gyflymu twf economaidd a chreu swyddi drwy
entrepreneuriaeth wedi ei seilio ar arloesedd. Darllen mwy.
Llywodraeth Cymru yn ymateb i Ystadegau’r
Farchnad Lafur
Mae’r
Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi gwneud sylwadau am Ystadegau diweddaraf y
Farchnad Lafur: “Fel llywodraeth sy’n gefnogol i fusnesau, mae ein polisïau’n
golygu bod Cymru yn parhau i berfformio’n well na gweddill y DU i gynyddu
cyflogaeth a lleihau lefelau anweithgarwch economaidd.
Dros y 12 mis diwethaf mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd
gyflymach na bron ym mhob man arall yn y DU ac mae bellach yn sefyll ar lefel
sy’n uwch nag erioed o’r blaen. Mae anweithgarwch economaidd yng Nghymru hefyd
yn agos i lefel is nag erioed - i lawr 40,000 dros y flwyddyn, o’i gymharu â
gostyngiad o 13,000 yn unig ar draws y DU gyfan dros yr un amser. Mae
diweithdra yng Nghymru hefyd wedi gostwng dros y chwarter a’r flwyddyn.”
Cynllun
Rhyddhad Adwerthu Cymru yn cael ei ymestyn a’i wella i helpu masnachwyr
Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart,
wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn a gwella cynllun Rhyddhad
Adwerthu Cymru ar gyfer 2015-16 gan helpu busnesau manwerthu i gwtogi hyd at
£1500 ar eu bil ardrethi.
Y
llynedd, fe wnaeth dros 10,500 o adwerthwyr yng Nghymru elwa o’r cynllun gan
iddo dynnu hyd at £1,000 oddi ar filiau ardrethi blynyddol. Darllen
mwy.
Cynnydd Llywodraeth Cymru o 60% mewn
busnes allforio newydd
Mae
cwmnïau sydd wedi derbyn nawdd Llywodraeth Cymru wedi gweld gwerth £52 miliwn o
fusnes allforio newydd. Mae hwn yn gynnydd o bron 60% ers y llynedd a hwn yw’r
cynnydd mwyaf a welwyd yn y pum mlynedd diwethaf. Darllen mwy.
Mae Ewrop yn bwysig i Gymru - Beth all yr Undeb
Ewropeaidd wneud ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru? – Caernarfon, 12 Tachwedd 2015
Wedi ei drefnu gan Creative Europe, mae'r
digwyddiad am ddim hwn yn rhoi'r cyfle i chi gael gwybodaeth am sut gall
amrywiaeth o raglenni'r Undeb Ewropeaidd a gwasanaethau cefnogi fod o fudd i'ch
sefydliad.
Ymhlith y rhai a fydd yn bresennol bydd cynrychiolwyr o
Erasmus+, Horizon 2020, Interreg, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Rhwydwaith
Menter Ewrop, Europe Direct, Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru a
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
Rhagor o wybodaeth.
ExploreExport – Caerdydd, 12 Tachwedd 2015
Mae
ExploreExport yn dychwelyd i Stadiwm SWALEC Caerdydd i adeiladu ar lwyddiant y
llynedd - gan gynnig mwy o farchnadoedd, seminarau newydd a mwy o arddangoswyr.
Mae mwy o wybodaeth am y
marchnadoedd, rhaglen y seminarau a chyfle i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar
gael yma.
Gŵyl Lyfrau Rhyngwladol Guadalajara (FiL),
Mecsico, 28 Tachwedd – 5 Rhagfyr 2015
Mae FiL, un o'r digwyddiadau
diwylliannol rhyngwladol mwyaf, ac un o'r mwyaf yn y diwydiannau creadigol, yn
cael ei gynnal yn Jalisco, Mecsico bob blwyddyn. Mae disgwyl i fwy nag un filiwn o westeion i
fod yn bresennol yn FiL eleni, gan gynnwys dros 300 o gyfarwyddwyr hawliau,
3,000 o newyddiadurwyr a sefydliadau cyfryngau, a 30,000 o gyhoeddwyr. Dyma'r lle perffaith i feithrin cysylltiadau
â chyd-gynhyrchwyr posib, trwyddedwyr, cynhyrchwyr hawliau, comisiynwyr,
dosbarthwyr cynnwys ac arbenigwyr Eiddo Deallusol a fyddai'n gallu eich helpu i
allgludo eich gwaith, ynghyd â sicrhau lleoliadau a chyfleoedd cydweithio
rhagorol.
Eleni, y DU yw'r wlad anrhydeddus yn
FiL, ac mae gan Gymru gyfle i fod yng nghanol popeth wedi i Dalaith Jalisco a
Chymru lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a phartneriaeth strategol.
Bydd dirprwyon yn cymryd rhan fel rhan o dderbyniad, gweithdai
ac arddangosfeydd diwydiannau creadigol yn ystod FiL, er mwyn rhoi llygad y byd
ar Gymru.
Mae
Llywodraeth Cymru yn cynnig nifer cyfyngedig o lefydd i gwmnïau ac unigolion o
Gymru i fod yn bresennol yn y digwyddiad rhyngwladol hwn. Mae'r llefydd yn gyfyngedig
iawn, felly darllenwch fwy yma
a chofrestru yma cyn gynted â phosib.
Cynhadledd Datblygwyr Gemau – San
Francisco, Unol Daleithiau America, 13 – 19 Mawrth 2016
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd busnesau Cymru i gymryd rhan
mewn taith fasnach i'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn San Francisco.
Y gost i ganiatáu i gwmnïau Cymreig gymryd rhan yw tua £1,080.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth i dalu am y costau ychwanegol ar
gyfer un dirprwy fesul cwmni, a bydd y gefnogaeth hefyd yn cynnwys cyngor ar
brosiect cyn y daith, digwyddiad briffio cyn y daith, taith yno ac yn ôl mewn
awyren, trosglwyddiadau o fewn y farchnad, llety am chwe noson, y cyfle i fod yn
bresennol mewn sesiwn briffio / derbyniad o fewn y farchnad, trwydded expo
sylfaenol i'r Gynhadledd.
Bydd gennych chi'r cyfle i arddangos eich gwaith a sicrhau
busnesau newydd yn y cynulliad blynyddol mwyaf o ddatblygwyr gemau fideo
proffesiynol, gan ganolbwyntio ar ddysgu, meithrin ysbrydoliaeth a
rhwydweithio. Bydd eich busnes yn cael ei gyflwyno i amrywiaeth o gyfleoedd,
gan gynnwys cyfalafwyr menter a phrif arbenigwyr y farchnad.
Mae mwy o wybodaeth a chyfle i chi fynegi
eich diddordeb yma.
Cenedl Hyblyg 2 - Chwarae Teg
Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect Cenedl Hyblyg cyntaf, pan
gymerodd 2,900 o ferched ran ynddo, mae Chwarae Teg nawr yn chwilio am fwy o
ferched sydd am gael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen datblygu gyrfa sy'n
uchel ei pharch ac wedi hen ennill ei phlwyf.
Rhagor o wybodaeth.
Dilynwch ni ar @WG_economy
Gallwch gael y diweddaraf am
Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â
ni drwy ein dilyn ar Twitter.
|