
Mae Gogledd Cymru yn lle pwysig iawn o ran ynni
Ar drothwy agoriad swyddogol Gwynt y Môr – y fferm wynt
ar y môr fwyaf ond un yn y byd – dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod y
Gogledd yn lle pwysig iawn o ran ynni.
Mae 160 o dyrbinau yn cynhyrchu 576MW o drydan carbon
isel yng Ngwynt y Môr. Gall ddarparu pŵer ar gyfer 400,000 o gartrefi, sy’n
gyfwerth â thraean yr aelwydydd yng Nghymru.
Darllen
rhagor
 |
|
Ymestyn Ffiniau Parth Menter Ynys Môn
Bydd ffiniau Parth Menter Ynys Môn
yn cael eu hymestyn i fanteisio i'r eithaf er mwyn sicrhau’r buddiannau
economaidd mwyaf posibl ar gyfer y rhanbarth, a bydd yn cynnwys parth ynni
adnewyddadwy morol newydd ar safle Parc Gwyddoniaeth Menai.
Mae'r safleoedd newydd yn cynnwys
Parth Arddangos Gorllewin Ynys Môn, darn 37 cilomedr sgwâr o wely'r môr oddi ar
arfordir gorllewinol Ynys Môn, a Chefn Du, y safle 21 hectar yng Ngaerwen a
glustnodwyd ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai.
Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan Edwina
Hart, Gweinidog yr Economi, a gynhaliodd gyfarfod o gadeiryddion y Bwrdd Menter
yng ngogledd Cymru.
Darllen rhagor
Llun: trwy garedigrwydd Gerallt Llewelyn
|
 |
|
Caniatáu gorsaf bŵer nwy newydd
Mae Hirwaun Power Ltd wedi cael caniatâd gan yr Adran
Ynni a Newid Hinsawdd ar gyfer ei brosiect i adeiladu gorsaf bŵer nwy gwerth
£200 miliwn ger Aberdâr, de Cymru.
Bydd yr orsaf yn gweithredu fel "safle cyflenwi ar
adegau prysur" yn darparu cyflenwad wrth gefn ar gyfer dulliau cynhyrchu
ynni adnewyddadwy ysbeidiol ac yn creu 150 o swyddi adeiladu, a hyd at 15 o
swyddi parhaol a medrus.
Darganfod rhagor
|
 |
|
Cymeradwyo Cyfleuster Adennill Ynni Parc Adfer
Mae Wheelabrator Technologies Inc wedi cael caniatâd i
barhau â Chyfleuster Adennill Ynni Parc Adfer ar Barc Diwydiannol Glannau
Dyfrdwy gan Bwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu Cyngor Sir y Fflint.
Darllen rhagor
Mae busnesau sydd â diddordeb
yn y cyfleoedd i fod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi sy'n cael eu datgloi gan Parc
Adfer, y cyfleuster adennill ynni newydd ar gyfer gogledd Cymru, yn cael eu
gwahodd i fynd i ddigwyddiad Cwrdd â'r Prynwr sy'n cael ei drefnu gan
Wheelabrator Technologies yng Ngholeg Cambria ar 20 Hydref. Mae rhagor o
wybodaeth ar gael yma ac i
fynegi eich diddordeb i fynd i'r digwyddiad, anfonwch e-bost yma.
Delwedd – Argraff artist o Gyfleuster Adennill Ynni Parc
Adfer
|
 |
|
Ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft effeithlonrwydd ynni
Hoffem gael eich barn ar sut y gallem wella effeithlonrwydd ynni yng
Nghymru.
Mae rhaglen effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru wedi
cael effaith sylweddol hyd yn hyn, a thrwy nodi ein cyfeiriad hirdymor yn y
Strategaeth Effeithiolrwydd Ynni gyntaf i Gymru, mae gennym y cyfle i
ymgysylltu'n ehangach.
Galwyd am dystiolaeth ym maes effeithlonrwydd ynni er
mwyn ceisio barn rhanddeiliaid, ac mae dogfen sy'n nodi’r ymatebion ac yn
rhannu canlyniadau'r alwad am dystiolaeth bellach wedi'i chyhoeddi. Bellach, hoffem
roi'r cyfle i chi lywio'r strategaeth derfynol.
Darllen rhagor
|
 |
|
Cyfleoedd ym
maes ynni morol, rheoli gwastraff ac ailgylchu a gwasanaethau proffesiynol
Mae'r sector Ynni a'r Amgylchedd yng Nghymru yn ddynamig
ac yn symud yn gyflym. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd yng Nghymru ym
maes ynni morol, rheoli gwastraff a gwasanaethau proffesiynol, gweler ein
pamffledi newydd.
Gallwch
eu gweld yma.
|
 |
|
Y Gorau ym maes Ynni a'r Amgylchedd yng Nghymru
Ydych chi'n adnabod y bobl eithriadol yn y sector Ynni
a'r Amgylchedd? Y bobl sy'n cyflawni pethau rhyfeddol ac yn gwneud gwahaniaeth
go iawn? Os ydych, dyma'ch cyfle i'w henwebu ar gyfer Gwobrau Dewi Sant – y
clod mwyaf a roddir gan Lywodraeth Cymru i unigolion a thimau rhagorol sy'n
haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol. Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod y
llwyddiannau a'r ysgogwyr a chynhyrfwyr mwyaf yn y sector Ynni a'r Amgylchedd
yn cael eu hystyried ar gyfer Gwobrau Dewi Sant am Fenter ac Arloesedd a
Thechnoleg. Mae 7 Categori Gwobr arall sef Dewrder, Diwylliant, Dinasyddiaeth,
Rhyngwladol, Chwaraeon, Person Ifanc yn ogystal â Gwobr Arbennig y Prif
Weinidog.
Dyma'r amser i fynd
amdani – gallwch enwebu ar-lein tan 27 Hydref 2014 yma.
|
RenewableUK 2015,
Lerpwl – 6-8 Hydref 2015
Bydd Uned Ynni
Cymru Llywodraeth Cymru yn arddangos yng Nghynhadledd Flynyddol RenewableUK,
sef digwyddiad blaenllaw'r sefydliad sy'n cwmpasu ynni gwynt ar y tir ac ar y
môr a systemau gwynt bach a chanolig. Fel rhan o'n presenoldeb, rydym yn
awyddus i recriwtio cwmnïau a sefydliadau o Gymru i arddangos ar y cyd â ni.
Hon fydd 37ain
cynhadledd ac arddangosfa flynyddol RenewableUK lle bydd dros 3,500 o
gynrychiolwyr, 200 o arddangoswyr a 150 o siaradwyr arbenigol yn dod ynghyd.
Darganfyddwch ragor ac
i fynegi eich diddordeb, llenwch y datganiad o ddiddordeb yma a'i ddychwelyd
erbyn canol dydd, ddydd Mawrth 1 Medi at Peter Freeth
Digwyddiad Gwres a
Phŵer Cyfunedig a Gwresogi ac Oeri Ardal i randdeiliaid, Caerdydd – 21 Medi
2015, 11am
Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd i lunio
Asesiad Cynhwysfawr Cenedlaethol o’r potensial ar gyfer gwres a phŵer cyfunedig
a gwresogi ac oeri ardal yn y DU. Bydd hyn yn cymharu amrywiaeth o opsiynau
effeithlon o ran cyflenwi gwres ac oeri er mwyn nodi'r atebion mwyaf effeithlon
o ran adnoddau a chost i ddiwallu anghenion gwresogi ac oeri.
Bydd y digwyddiad yn cyflwyno'r fethodoleg a'r tybiaethau
a ddefnyddir i lunio'r asesiad a'r canlyniadau rhagarweiniol ac yn ceisio barn
rhanddeiliaid, a bydd yn cynnwys cyflwyniad ar brofiad Denmarc o wresogi ardal,
sef un o'r cenhedloedd mwyaf llwyddiannus o ran lledaenu rhwydweithiau gwres
carbon-isel. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth
Denmarc i weld a oes modd defnyddio'u profiad o wresogi ardal i ddatblygu
rhwydweithiau gwres yng Nghymru.
Darganfod rhagor. Mynegwch eich diddordeb
i fod yn bresennol trwy anfon e-bost at Robert Wilson.
Ynni Clyfar Cymru, Stadiwm SWALEC, Caerdydd – 16
Medi 2015
Cynhelir sesiwn wybodaeth amser brecwast ar 16 Medi i
nodi'r cyngor a'r cymorth sydd ar gael i arloesi gan Innovate UK ac Ynni Clyfar
Cymru.
Mae Uned Ynni Cymru a thîm Arloesi Llywodraeth Cymru yn
gweithio gyda RenewableUK i ddarparu rhaglen undydd sy'n canolbwyntio ar nodi
cyfleoedd ym maes ynni clyfar, storio clyfar, gridiau clyfar ac yn y pen draw,
byw'n glyfar.
Bydd y siaradwyr yn cynrychioli busnesau datblygu
arloesol megis Riversimple Engineering i gwmnïau o'r radd flaenaf megis IBM ac
ARUP, yn ogystal â'r Energy Storage Network, yr Energy Technologies Institute,
Dŵr Cymru a Nwy Prydain. Prif siaradwr y digwyddiad fydd Carl Sargent AC, y
Gweinidog Cyfoeth Naturiol.
Darganfod rhagor.
Resources Efficiency &
Waste Management Solutions, NEC, Birmingham – 15-17 Medi 2015
RWM yw prif ddigwyddiad Ewrop
ar gyfer atebion ym maes effeithlonrwydd adnoddau a rheoli gwastraff. Dyma'r
unig ddigwyddiad o'i fath, sy'n cynnwys pob agwedd ar yr hierarchaeth wastraff.
Mewn partneriaeth â'r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff, mae'n cwmpasu pob
elfen o'r diwydiant a chaiff ei lywio ar sail gofynion y sector hwn sy'n tyfu'n
gyflym.
Bydd Uned Ynni Cymru
Llywodraeth Cymru yn croesawu 6 busnes o Gymru ar ein stondin yn y digwyddiad
gan gynnwys Wheelabrator Technologies Inc, GD Environmental Ltd, Glastech Ltd,
Refgas, Salvtech Ltd a Technlan Ltd a byddai'n bleser gennym gyfarfod â chi i
drafod eich busnes.
Ymwelwch â ni ar Stondin
4K10, a gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.
Energy Catalyst – Rownd 4, Hwb Gwyddorau Bywyd, Caerdydd
– 3 Tachwedd 2015
Sefydlwyd Energy Catalyst gan
Innovate UK, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol a'r Adran Ynni
a Newid Hinsawdd. Mae'n darparu buddsoddiad a chymorth gyda hyd at £10 miliwn
ar gael ar gyfer y drydedd rownd, a rhagor o gyllid yn y bedwaredd rownd.
Mae Energy Catalyst yn agored i fusnesau ac ymchwilwyr
arloesol sy'n gallu mynd i'r afael â'r tair prif her sy'n wynebu'r sector ynni
– lleihau allyriadau, gwella diogelwch cyflenwadau a lleihau costau.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer cyfyngedig o slotiau
ar gyfer cyflwyniadau 2 funud at ddibenion datblygu consortiwm. Gallwch
gofrestru ar-lein a chewch dempled 2 dudalen dros e-bost i'w ddefnyddio.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad
Energy Catalyst a chofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ar dudalen gystadleuaeth Innovate
UK neu dudalen grŵp Energy Catalyst KTN.
Cyfradd cyflogaeth uwch nag erioed yng Nghymru
Wrth wneud sylw ar Ystadegau'r Farchnad Lafur sydd newydd
eu cyhoeddi, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
"Mae ffigurau heddiw'n dangos cyfradd cyflogaeth
uwch nag erioed yng Nghymru gan ein bod wedi perfformio'n well na phob rhan
arall o'r DU. Dros y chwarter diwethaf, rydym wedi gweld 42,000 yn fwy o bobl
mewn gwaith yng Nghymru, o gymharu â'r DU lle lleihaodd y gyfradd cyflogaeth
dros yr un cyfnod.
"Mae diweithdra yng Nghymru hefyd wedi lleihau
9,000, yn wahanol i'r sefyllfa ar hyd a lled y DU lle mae diweithdra'n cynyddu.
Mae anweithgarwch economaidd wedi parhau i leihau ar gyfradd gyflymach yng
Nghymru na gweddill y DU, lle mae'n sefydlog."
Cyhoeddi Economi Cymru: mewn rhifau
Mae Economi Cymru yn perfformio'n eithaf da dros y tymor
canolig o gymharu â llawer o rannau eraill o'r DU ac mae'n gwella lles
dinasyddion yng Nghymru yn sylweddol, yn ôl gwefan newydd sy'n cael ei lansio
heddiw.
Mae 'Economi Cymru: mewn rhifau' yn rhoi darlun eang,
manwl a hygyrch o economi Cymru a chanlyniadau economaidd yng Nghymru. Mae'n
rhoi darlun cyflawn am y tro cyntaf o berfformiad economaidd ar gyfer wyth
dangosydd allweddol – gan eu cymharu â rhannau eraill o'r DU a hynny dros
gyfnod o amser.
Darllen rhagor
Dilynwch ni ar @WG_economy
Bellach gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am adran yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru a chysylltu â ni trwy
ein dilyn ar Twitter.
|