
Ymestyn rhaglen
Cyflymu Cymru i gyrraedd mwy o eiddo
Bydd mwy na 42,000 o eiddo
ychwanegol yn gallu elwa ar ddarpariaeth rhaglen Cyflymu Cymru wrth iddi gael
ei hymestyn.
Mae Cyflymu Cymru eisoes wedi gwneud
cynnydd mawr ac mae tua 480,000 o eiddo bellach yn gallu manteisio ar
gysylltiad band eang cyflymach. Mae’r cam diweddaraf hwn o’r rhaglen wedi cael
cymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a
Llywodraeth y DU.
Darllen
rhagor
 |
|
Cyfleusterau
gwych yn rhoi ‘Dragon’ ar flaen y gad
Mae buddsoddiad i greu
cyfleuster ôl-gynhyrchu, adfer a digido ffilmiau yn mynd rhagddo gyda chymorth
gwerth £200,500 gan Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru. Bydd yn creu
swyddi o safon ar gyfer graddedigion Cymru.
Bydd y prosiect, sy’n werth cyfanswm o £445,000, gan
gwmni Dragon yn creu cyfanswm o 13 o swyddi ac yn diogelu 7 arall gan greu
cyfleuster unigryw ar gyfer ffilm a theledu.
Darllen
rhagor
|
 |
|
Cysylltu castell
â thechnoleg fodern
Mae Cyflymu Cymru yn cysylltu
Castell Aberteifi â’r byd, a thrwy hynny’n gwella profiad ymwelwyr, yn ôl Prif
Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Roedd y Prif Weinidog yn ailagor y castell eiconig yn
swyddogol, yn sgil gwaith ailwampio mawr, a chlywodd sut mae cael mynediad i fand
eang cyflym drwy gynllun Cyflymu Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Darllen
rhagor
|
 |
|
Arbenigwyr diogelwch cyfrifiadurol o Gaerdydd yn agor swyddfa
yn Awstralia
Mae cwmni o Gaerdydd sy’n ehangu, diolch i £135,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth
Cymru, yn creu 13 o swyddi newydd arbenigol.
Mae NetConsulting, cwmni TG
ymgynghorol sy’n arbenigo mewn darparu atebion diogelwch cyfrifiadurol a thechnoleg
gwybodaeth i fusnesau a llywodraethau, wedi agor swyddfa yn Awstralia – ac
mae’n ehangu ei weithgareddau yng Nghaerdydd i ateb y galw rhyngwladol am ei
wasanaethau.
Darllen
rhagor
Llun - Paul Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr NetConsulting, ynghyd
â Jonathan Ryan, Pennaeth Marchnata a Rachel Bonney, Gwerthu a Marchnata yn eu
swyddfa yng Nghaerdydd.
|
 |
|
Cyswllt
band eang cyflym iawn i RAF Y Fali
Gyda
chymorth rhaglen Cyflymu Cymru, RAF Y Fali ar Ynys Môn yw’r lle diweddaraf yng
Nghymru i elwa ar fand eang cyflym iawn.
Mae
staff Y Fali eisoes yn gyfarwydd â theithio’n gyflym iawn yn yr awyr a bydd
modd iddynt bellach fanteisio ar gyswllt band eang cyflym iawn. Gall dros
425,000 o safleoedd eraill yng Nghymru bellach dderbyn gwell cyflymderau
rhyngrwyd o ganlyniad i Cyflymu Cymru, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth
Cymru a BT.
Darllen
rhagor
|
 |
|
36 o swyddi
newydd mewn canolfan datblygu meddalwedd newydd i Gwmbrân
Mae canolfan
newydd sy’n arbenigo mewn awtomeiddio prosesau robotaidd yn cael ei sefydlu yng
Nghwmbrân gan greu 36 o swyddi newydd, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Darllen
rhagor
|
 |
|
Llywodraeth Cymru a Microsoft yn
lansio peilot Greenshoots yng Nghymru
Bydd prosiect peilot
i gefnogi datblygwyr gemau newydd yng Nghymru yn rhoi grant o hyd at £25,000 i
bedwar cwmni i greu teitlau newydd – a chael cyngor arbenigol gan Microsoft.
Daw hyn yn sgil sefydlu partneriaeth rhwng
Llywodraeth Cymru a Microsoft i lansio fersiwn Gymreig o Greenshoots, sef
prosiect datblygu gemau ar gyfer cwmnïau newydd.
Darllen
rhagor
|
 |
|
Cymru’n cryfhau ei safle o fewn y
diwydiant gemau ym Mhrydain, sy’n werth £1 biliwn
Mae cwmnïau sy'n
cynhyrchu gemau, chwaraewyr gemau ac arweinwyr o fewn y diwydiant yng
Nghaerdydd heddiw ar gyfer Sioe Datblygu Gemau Cymru, wrth i Gymru gryfhau ei
safle yn y diwydiant cyffrous hwn.
Mae Caerdydd eisoes yn datblygu’n ganolfan
newydd lwyddiannus ar gyfer cynhyrchu gemau fideo, ac mae Llywodraeth Cymru’n awyddus
i gefnogi’r diwydiant hwn sydd â’r potensial i greu swyddi da.
Darllen
rhagor
|
 |
|
Llawer o Drafod
yn ‘Digidol 2015’
Daeth ‘Digidol 2015’ i ben ar ôl deuddydd o drafod, ysbrydoli,
cydweithio a rhannu sgiliau.
Daeth dros 2,000 o sefydliadau ac academyddion o bob cwr
o’r byd, ynghyd â chwmnïau cynhenid newydd arloesol at ei gilydd yn y Celtic
Manor i glywed y diweddaraf am y byd digidol a sut y mae tueddiadau fel
dadansoddi data a chymhwyso, y Rhyngwyd Pethau, diogelwch cyfrifiadurol a’r
Cwmwl yn dylanwadu ar y byd o’n cwmpas.
Darllen
rhagor
Llun - ‘Tad’ Tomb Raider, Ian Livingstone CBE, yn annerch
|
 |
|
Goreuon Digidol
Cymru
Ydych chi'n nabod pobl eithriadol yn y byd Digidol?
Pobl sy’n cyflawni pethau rhyfeddol ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn? Os ydych,
dyma'ch cyfle i'w cofrestru ar gyfer Gwobrau Dewi Sant – gwobrau anrhydeddus a
roddir gan Lywodraeth Cymru i unigolion a thimau rhagorol sy'n haeddu
cydnabyddiaeth genedlaethol. Rydym yn awyddus bod pobl llwyddiannus y sector
Digidol yn cael eu hystyried ar gyfer y Gwobrau Menter ac Arloesedd a
Thechnoleg eleni. Hefyd, mae 7 gwobr arall: Dewrder, Diwylliant, Dinasyddiaeth,
Gwobr Ryngwladol, Chwaraeon a Gwobr i Berson Ifanc yn ogystal â Gwobr Arbennig
y Prif Weinidog.
Dyma’r amser i fynd
amdani - gallwch enwebu hyd at 27ain
Hydref 2015 ar-lein yma.
|
Canolfan Economi
Ddigidol Newydd Abertawe yn mynd ag ymchwil i'r cam nesaf
Bydd Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe'n dod yn
gartref i ganolfan ymchwil economi ddigidol newydd sy'n werth dros £7M. Nod y
ganolfan fydd arloesi mewn ffordd a a fydd yn cael effaith wirioneddol ar y
byd.
Mae’r Ganolfan CHERISH-DE newydd (hynny yw, Canolfan Herio
Amgylcheddau Dynol ac Effaith Ymchwil ar gyfer Economi Ddigidol Gynaliadwy ac
Iach) wedi derbyn cyllid gwerth £3.8M gan y Llywodraeth, ar gost economaidd
lawn, trwy'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), gyda
buddsoddiad gwerth £3.8M mewn cyfraniadau diwydiannol a chyfraniadau defnyddwyr
ymchwil gan bartneriaid.
Darllen rhagor
HS2 yn trafod
busnes a chwmnïau Cymru
Mae High Speed Two Ltd a chynrychiolwyr o
Lywodraeth Cymru wedi cwrdd â thros 100 o fusnesau o Gymru i drafod sut y
dylent ymgeisio am gontractau gwerth tua £10 biliwn i adeiladu prosiect
seilwaith mwyaf Prydain – sef High Speed
Two (HS2).
Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal gan
Lywodraeth Cymru, yn gyfle gwych i gwmnïau ddysgu mwy am broses gaffael HS2.
Bydd hyn yn sicrhau bod gan y cwmnïau’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw
i gynnig am y cyfleoedd a fydd yn codi o fewn y gadwyn gyflenwi.
Darllen
rhagor
Gwasanaeth newydd i ddarparu
“technoleg siarad” i bobl â phroblemau lleferydd
Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd
Vaughan Gething wedi cyhoeddi y caiff gwasanaeth newydd Cymru gyfan ei sefydlu
i ddarparu offer cyfathrebu technoleg uwch i bobl â phroblemau lleferydd a
chyfathrebu difrifol.
Yr amcangyfrif yw bod 15,500 o bobl yng
Nghymru yn dioddef problemau lleferydd a chyfathrebu difrifol a allai elwa ar
ryw fath o offer cyfathrebu. Mae angen offer cyfathrebu technoleg uwch ar o
leiaf 1,540 o’r rhain, a gall offer o’r fath fod yn ddrud iawn.
Darllen
rhagor
Cwmni uwch dechnoleg o Gas-gwent yn sicrhau cytundebau â
chleientiaid o bob cwr o’r byd
Mae SOMNIUM®
Technologies o Gas-gwent – cwmni uwch dechnoleg sy’n anelu’n uchel – wedi cael
ei ddewis i gynorthwyo rhai o brif werthwyr lled-ddargludyddion y byd gyda’u
cenhedlaeth newydd o offer datblygu meddalwedd wedi’i fewnblannu.
Darllen rhagor
Buddsoddiad o £6.7m
mewn system TG newydd i integreiddio’r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng
Nghymru
Bydd miliynau o
bunnoedd yn cael eu buddsoddi mewn system TG newydd i integreiddio iechyd a
gofal cymdeithasol yng Nghymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Mark Drakeford.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £6.7m i
ddatblygu System Gwybodaeth Gofal Cymunedol (CCIS) newydd, a fydd yn caniatáu
rhannu gwybodaeth rhwng gwahanol wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
ar unwaith, gan helpu i gynnig gofal a chymorth gwell i bobl ledled Cymru.
Darllen
rhagor
Hwb ariannol i gwmnïau Technolegau
Meddygol sy'n datblygu cynnyrch y genhedlaeth nesaf
Mae chwech o gwmnïau
Technolegau Meddygol bach neu newydd yng Nghymru wedi cael eu dewis ar gyfer
cyllid Ymchwil a Datblygu gwerth £600,000 gan Innovate UK. Bydd y cyllid yn eu
helpu i ddatblygu a masnachu'r genhedlaeth nesaf o ddyfeisiadau a chynnyrch yn
y maes technolegau meddygol.
Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd ag ymweliad Dr Ruth
McKernan, Prif Weithredwr newydd Innovate UK, â Chaerdydd i ddod i wybod mwy am
y maes arloesi yng Nghymru. Yn ystod ei hymweliad bu’n cyfarfod ag
unigolion allweddol, gan gynnwys Edwina Hart, Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, yr Ysgrifennydd Parhaol, a Phrif Gynghorydd
Gwyddonol Cymru.
Darllen
rhagor
Hybu arloesi ym maes cymhwysedd
digidol
Cafodd athrawon o bob rhan o Gymru glywed gan rai o unigolion mwyaf blaengar a
blaenllaw y byd digidol mewn cynhadledd yng Nghaerdydd
Roedd trydedd gynhadledd genedlaethol
Llywodraeth Cymru ar Ddysgu Digidol yn gyfle i ganolbwyntio ar rannu arferion
da ym maes cymhwysedd digidol a chreu cysylltiadau rhwng ymarferwyr addysgu
proffesiynol sydd eisoes yn defnyddio platfformau ac adnoddau digidol a’r rhai
sy’n awyddus i ddechrau gwneud hynny er mwyn gwella eu harferion addysgu.
Darllen
rhagor
Gwefan newydd yn dangos y gwahaniaethau rhwng cyfreithiau Cymru a gweddill
y DU
Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio i helpu pobl i
ddeall sut mae cyfreithiau yng Nghymru yn dechrau dargyfeirio o gyfreithiau
gweddill y DU. Gall y Cynulliad Cenedlaethol basio cyfreithiau i Gymru mewn 20
maes datganoledig megis iechyd, addysg, amaethyddiaeth, trafnidiaeth, tai, yr
amgylchedd a mwy.
Mae’r gwaith ar wefan Cyfraith Cymru wedi cael ei arwain
gan Gwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle QC, i godi ymwybyddiaeth o'r
nifer cynyddol o gyfreithiau sy'n cael eu pasio gan y Cynulliad Cenedlaethol
a’u gwneud gan Weinidogion Cymru.
Darllen rhagor
a mynd
i'r wefan.
Cyhoeddi Economi
Cymru: mewn rhifau
Mae Economi Cymru yn perfformio’n eithaf da dros y tymor
canolig o’i chymharu â llawer o rannau eraill o’r DU ac mae’n gwella lles
dinasyddion yng Nghymru yn sylweddol, yn ôl gwefan newydd sy’n cael ei lansio
heddiw.
Mae ‘Economi Cymru: mewn rhifau’ yn rhoi darlun eang,
manwl a hwylus o economi Cymru a chanlyniadau economaidd yng Nghymru. Mae’n rhoi darlun llawn am y tro cyntaf o
berfformiad economaidd ar gyfer wyth dangosydd allweddol – gan eu cymharu â
rhannau eraill o’r DU a hynny dros gyfnod o amser.
Darllen rhagor
Dydd Mawrth Digidol
Mae Dydd Mawrth Digidol yn gymuned
rwydweithio sy'n cyfarfod ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis – fel arfer yng
Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd – i gyfnewid gwybodaeth, trafod a chynnal
busnes yn seiliedig ar y thema ddigidol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eich
diddordeb yma.
Dilynwch ni:
@WG_economy
Nawr gallwch gael y diweddaraf am Adran Economi, Gwyddoniaeth
a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â hi drwy ein dilyn ni ar Twitter.
|