Menter newydd yn rhoi hwb o £100m i gynhyrchu
ffilm a theledu rhyngwladol yng Nghymru
Mae
Llywodraeth Cymru yn ymuno â Jane Tranter a Julie Gardner – cyn uwch
gynhyrchwyr yn y BBC a fu’n gyfrifol am Doctor Who, Torchwood a Da Vinci’s
Demons – i gefnogi cwmni newydd o’r enw BAD WOLF. Bydd y cwmni’n cynhyrchu rhaglenni teledu a
ffilmiau ar gyfer pen ucha’r farchnad deledu ryngwladol, hynny yn Los Angeles
ac yn Ne Cymru.
Yn y
De y bydd cartref cynhyrchu BAD WOLF a bydd yn dod â rhyw £100 miliwn i economi
Cymru dros y deng mlynedd nesaf trwy arlwy gynhyrchu uchelgeisiol a
phartneriaethau â darlledwyr rhyngwladol.
Darllen
mwy
|
|
Cymorth i ffilm gyffrous oruwchnaturiol Red
& Black Films
“Don’t Knock Twice” - ffilm gyffrous,
oruwchnaturiol gyda Katee Sakhoff (“Oculus,” “Riddick,” “Battlestar Galactica”)
gan Red & Black Films, cwmni sydd wedi ennill llu o wobrau, yw’r ffilm hir
ddiweddaraf i gael help ariannol gan Lywodraeth Cymru o'r Gyllideb Buddsoddi yn
y Cyfryngau sy'n £30 miliwn, o dan gyngor Pinewood Pictures.
Red & Black Films o Gaerdydd yw’r cwmni cyntaf o Gymru i gael
arian trwy’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau sy’n cael ei ddefnyddio i dalu
cyfran sylweddol o gyllideb y cynhyrchiad. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi help
ychwanegol ar ffurf grant, ac yn y camau cychwynnol, rhoddodd Ffilm Cymru help
iddyn nhw gan roi arian datblygu yr oedd ar y cwmni ei angen yn fawr.
Darllen mwy
|
|
|
Cyfleusterau o'r radd flaenaf yn rhoi Dragon ar
flaen y gad
Mae
Llywodraeth Cymru yn cefnogi buddsoddiad i greu cyfleuster ôl-gynhyrchu, adfer
a digido ffilmiau gyda'r gorau yn y byd. Bydd hyn yn creu swyddi sy'n gofyn am
gryn sgil ar gyfer graddedigion yng Nghymru.
Mae
Dragon – cwmni sydd wedi’i leoli yn ne Cymru ac yn Llundain – yn buddsoddi
£445,000 mewn prosiect technoleg flaengar ar gyfer ôl-gynhyrchu, systemau
cyfrifiadurol a systemau storio digidol, gan greu cyfleuster unigryw ar gyfer y
diwydiant ffilm a theledu.
Mae
buddsoddiad Dragon wedi’i ategu gan £200,500 o Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth
Cymru, gan greu tair ar ddeg o swyddi newydd a diogelu saith o’r swyddi
presennol.
Darllen mwy
|
|
|
Hwb i'r sector datblygu gemau yng Nghymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyllido Sioe Datblygu
Gemau Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Economi y bydd
y cymorth ariannol yn sicrhau bod y sioe'n parhau i fod yn un o ddigwyddiadau
cenedlaethol a rhyngwladol a fydd yn hyrwyddo'r ddawn a'r arbenigedd sydd ar
gael yng Nghymru yng nghalendr Gemau'r Deyrnas Unedig, a bydd yn adeiladu ar ei
llwyddiannau hyd yma. Darllen
mwy.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru,
cynhaliwyd 4edd Sioe Datblygu Gemau
Cymru ar 22 Mehefin. Daeth hanner cant o arddangoswyr gan gynnwys prif
gwmnïau gemau Cymru, gwneuthurwyr adnoddau creu gemau a gwerthwyr gemau retro.
Yn y sioe hefyd roedd sesiynau cymorth un-i-un gydag arbenigwyr ar faterion
cyfreithiol, cyllido a chyfrifon. Rhagor o
wybodaeth.
|
|
|
Canolfan diwydiannau creadigol Llywodraeth
Cymru yn llawn
Mae
GloWorks, canolfan flaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiannau creadigol
ym Mae Caerdydd yn llawn dop.
Y
diweddaraf i symud i’r lle gwag olaf yn yr adeilad yw Milk, sef cwmni
effeithiau gweledol sydd wedi ennill gwobr BAFTA.
Mae
GloWorks yn ddatblygiad 32,000 troedfedd sgwâr gyferbyn â Stiwdios Lloc y
Rhath, sef stiwdios cynhyrchu drama’r BBC sy’n ymestyn dros 170,000 troedfedd
sgwâr ym Mhorth Teigr. Ychydig filltiroedd i ffwrdd, mae stiwdio Pinewood
Wales.
Darllen mwy
|
|
|
Perfformiad cyntaf Set Fire to the Stars yn UDA
Yn Efrog Newydd ar 9 Mehefin
cafwyd perfformiad cyntaf Set Fire To The
Stars, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, cyn iddi gael
ei rhyddhau ar hyd a lled UDA.
Gyda Celyn Jones yn actio rhan
Thomas ac Elijah Wood yn actio rhan y bardd o America a'r darlithydd prifysgol
John Malcolm Brinnin, mae'r stori'n canolbwyntio ar daith gyntaf Dylan Thomas o
amgylch America ym 1950, lle mae Brinnin yn ei chael yn anodd cadw trefn ar
Thomas.
Saethwyd y ffilm gyfan yn Abertawe
mewn 18 diwrnod ac mae traciau sain a sgôr gerddorol Gruff Rhys i'w clywed
ynddi.
Gweld mwy yma.
|
|
|
Rhaglen ECTARC yn y Diwydiannau Creadigol
Mae ECTARC Wales wrthi'n chwilio
am leoliadau yn y sectorau
diwydiannau creadigol - gan gynnwys golygu fideo, gwneud ffilmiau, dylunio
gwefannau, graffeg, dylunio diwydiannol a newyddiaduraeth.
Mae'r ganolfan iaith a hyfforddiant yn rhan o
raglen hyfforddiant galwedigaethol Erasmus+ yr UE. Mae'n gweithio gyda
phartneriaid ar draws Ewrop gan ddarparu lleoliadau gwaith sy'n gofyn am gryn
sgiliau ar gyfer myfyrwyr a graddedigion rhwng 24 a 40 oed am gyfnod o ddeuddeg
wythnos o leoliad gwaith yng Nghymru.
Os oes
gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r rhaglen lwyddiannus hon, anfonwch
e-bost at Chelsea Moth neu James
Griffiths.
Rhagor o wybodaeth
|
|
|
Gwella gwefan - allwch chi helpu?
Ar hyn o
bryd rydym yn awyddus i wella cynnwys sector Creadigol ar wefan Gov.Cymru a byddem
yn croesawu eich adborth.
Os oes
gennych 5 munud yn rhydd, a fyddech cystal â'n helpu gan dynnu sylw at gynnwys
perthnasol a mwy diweddar drwy ymweld â gwefan
Optimal Sort.
|
|
|
Dechrau pennod arall yng ngyrfa greadigol Eiry
Y mis
hwn, mae apiau addysgol rhyngweithiol Eiry Rees Thomas yn cael eu haddasu ar
gyfer llyfrau print yn y DU ac UDA, i’w dosbarthu ledled y byd.
Grant o
Gronfa Datblygu Digidol Llywodraeth Cymru oedd y sbardun i Eiry fentro i greu’r
gyfres o apiau addysgol rhyngweithiol i athrawon a dysgwyr. Cyhoeddwyd yr apiau
gan Apple, ac fe gawsant adolygiadau rhagorol.
Darllen mwy
|
|
|
Canllaw marchnata newydd ar-lein
Os ydych
am gael gwybodaeth am werthu drwy Twitter a Facebook, creu sylw cadarnhaol ar y
cyfryngau am ddim, neu gael y cyngor gorau am sut mae delio â chwynion
cwsmeriaid, mae'r atebion i gyd ar Barth Marchnata newydd ar-lein Busnes Cymru.
Mae
cannoedd o ganllawiau a fideos o awgrymiadau, straeon am lwyddiannau marchnata
(ac enghreifftiau o sut mae ailgodi ar ôl methiannau marchnata) a chyngor
arbenigol, yn cynnig popeth y mae angen i fusnesau Cymru ei wybod am greu ymgyrchoedd
marchnata llwyddiannus a phroffidiol.
Ewch i Barth Marchnata Busnes Cymru
|
Economi Cymru:
mewn rhifau
Mae
economi Cymru yn perfformio’n eithaf da dros y tymor canolig o’i chymharu â
llawer o rannau eraill o’r DU ac mae’n gwella lles dinasyddion yng Nghymru yn
sylweddol, yn ôl gwefan newydd sy’n cael ei lansio heddiw.
Mae
‘Economi Cymru: mewn rhifau’ yn rhoi darlun eang, manwl a hwylus o economi
Cymru a chanlyniadau economaidd yng Nghymru.
Mae’n rhoi darlun llawn am y tro cyntaf o berfformiad economaidd ar
gyfer wyth dangosydd allweddol – gan eu cymharu â rhannau eraill o’r DU a hynny
dros gyfnod o amser.
Darllen mwy
Estyn Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes wrth i
swyddi Ardaloedd Menter Cymru daro 7,000
Mae
cynllun poblogaidd i gynnig rhyddhad ardrethi busnes i gwmnïau yn Ardaloedd
Menter Cymru wedi ailagor ar gyfer ceisiadau wrth i gyfanswm y swyddi sydd
wedi’u creu neu’u diogelu yn y saith Ardal Fenter fynd dros 7,000.
Darllen mwy
Datganoli llawn ar gyfer ardrethi annomestig yn
garreg filltir gyntaf bwysig i ddatganoli cyllidol
Yn ôl
Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, roedd datganoli llawn ar
gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru o 1 Ebrill ymlaen yn garreg filltir
gyntaf bwysig i ddatganoli cyllidol yng Nghymru.
Darllen mwy
Gwefan GwerthwchiGymru newydd
Ydych chi wedi ymweld â phorth
caffael a gwybodaeth newydd GwerthwchiGymru?
Wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru, mae’n helpu busnesau i ennill contractau
gyda’r sector cyhoeddus drwy Gymru ac mae’n galluogi prynwyr y sector cyhoeddus
i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro.
Ar y safle, byddwch yn gweld contractau ar gyfer nwyddau a
gwasanaethau’r sector cyhoeddus gan amrediad eang o sefydliadau a ariennir yn
gyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau'r
GIG, colegau a phrifysgolion.
Gwefan newydd yn dangos sut
mae cyfreithiau Cymru yn wahanol i weddill y DU
Mae gwefan newydd wedi'i lansio i helpu pobl i
ddeall y mae cyfreithiau yng Nghymru yn dechrau bod yn wahanol i weddill y DU.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru mewn 20
maes datganoledig sy'n bwysig yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn
ddiwylliannol i ddinasyddion, fel iechyd, addysg, amaethyddiaeth, trafnidiaeth,
tai a'r amgylchedd.
Mae gwefan Cyfraith Cymru wedi cael ei harwain
gan Gwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle CF, i godi ymwybyddiaeth o'r
nifer gynyddol o gyfreithiau i Gymru sy'n cael eu pasio gan y Cynulliad
Cenedlaethol a’u gwneud gan Weinidogion Cymru.
Darllen
mwy
Uwchgynhadledd Busnes Mecsico, 24-29 Hydref 2015, Dinas
Mecsico/Guadalajara, Mecsico
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd
cwmnïau i gymryd rhan mewn taith fasnach i Uwchgynhadledd Busnes Mecsico yn
Guadalajara. Bydd arweinwyr o'r gymuned fusnes, academyddion a'r arena
wleidyddol yn bresennol.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth
Cymru, mae'r daith yn cynnig cyfle cyffrous i gysylltu â busnesau yn un o'r
economïau sy'n datblygu gyflymaf yn y byd. Dyma gyfle i edrych ar allforio, neu
gynyddu'r allforion, i'r 11eg economi fwyaf yn y byd sydd â phoblogaeth o dros
112 miliwn.
Rydym yn
cefnogi teithiau masnach eraill hefyd, gan gynnwys -
MIPCOM – 12-15 Hydref 2015, Cannes, Ffrainc
WOMEX – 21-25 Hydref 2015, Budapest, Hwngari
Rhagor o wybodaeth
Dilynwch ni ar @WG_economy
Gallwch gael y diweddaraf am
Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â
ni drwy ein dilyn ar Twitter
|