Newyddion y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol – Rhifyn 5

Newyddion y sector Ariannu a Gwasanaethau Proffesiynol

=============
Ariannu a Gwasanaethau Proffesiynol

Rhifyn 5,

Gorffennaf 2015

=============
howells

Cyfreithwyr arobryn yn ehangu yng Nghymru

Mae cwmni cyfreithwyr llwyddiannus o Dde Cymru yn ehangu ac yn agor canolfan ragoriaeth arbenigol ar gyfer trawsgludo eiddo preswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda'r nod o fod yn un o’r pum prif gwmni trawsgludo yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y buddsoddiad gan Howells Solicitors, gyda chefnogaeth o £100,000 gan Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru, yn creu 13 o swyddi newydd ac yn diogelu 3 swydd arall wrth i’r cwmni sefydlu ei ganolfan drawsgludo newydd.

Darllen mwy

=============
capital

Caerdydd yn lleoliad blaenllaw i'r Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn prysur ddod yn un o leoliadau mwyaf cystadleuol y DU ar gyfer Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol y tu allan i Lundain meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, mewn cyfarfod gyda phobl flaenllaw o fyd busnes heddiw.

Mewn digwyddiad dros frecwast gyda CBI yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog mai’r ddinas yw un o’r lleoedd sy’n datblygu gyflymaf fel cartref i’r Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, wrth i Gymru weld 10% o gynnydd yn y nifer sy’n gweithio yn y sector ers 2005. 

Darllen mwy

=============
capital

Equiniti yn agor canolfan arloesi Technoleg Ariannol newydd yng nghanol Caerdydd

Mae Equiniti, un o gwmnïau mwyaf blaengar y DU ym maes technoleg, buddsoddi, pensiynau a thaliadau, wedi agor ei ganolfan arloesi newydd ym maes Technoleg Ariannol. Bydd hyn yn hwb derbyniol iawn i strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu un o'r sectorau gwasanaethau ariannol a phroffesiynol mwyaf y tu allan i Lundain.

Mae’r ganolfan wedi'i lleoli yng 'Nghwr y Ddinas' yng Nghaerdydd – datblygiad newydd yn yr Ardal Fenter – a chafodd ei hagor yn swyddogol gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Bydd yn parhau i ddatblygu atebion arloesol ym maes Technoleg Ariannol o’r ganolfan gyffrous newydd. 

Darllen mwy

=============
carbon law

Carbon Law Partners yn sefydlu pencadlys yng Nghaerdydd

Mae Carbon Law Partners – cwmni cyfreithiol arloesol sydd wedi newid y ffordd mae cwmnïau cyfreithwyr yn gweithio drwy alluogi eu cyfreithwyr i benderfynu sut maent am weithio gyda chleientiaid – yn sefydlu Pencadlys y DU y cwmni yng Nghaerdydd.

Gyda chefnogaeth o £325,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru, mae Carbon Law Partners yn symud o'i ganolfan wreiddiol yn y Bont-faen i ganol dinas Caerdydd lle bydd yn creu 25 o swyddi ac yn cyflwyno ei wasanaeth ar draws y DU, gyda chynlluniau ar gyfer swyddfeydd eraill mewn canolfannau allweddol ledled y wlad.

Darllen mwy 

=============
clarke

Clarke Willmott LLP yn ehangu i Dde Cymru

Mae Clarke Willmott LLP, cwmni cyfreithwyr blaenllaw, wedi ehangu i dde Cymru drwy agor swyddfa ym Mae Caerdydd.

Yn sgil y symud, bydd rhai o arbenigwyr tai a chynllunio mwyaf blaengar y diwydiant yn gweithio yn y ddinas, ac yn adeiladu ar hanes cadarn Clarke Willmott yn ne Cymru yn ddiweddar.

Mae hyn yn rhan o gynlluniau'r cwmni cyfreithiol i ddatblygu ar draws y DU yn dilyn ei gyhoeddiad diweddar bod trosiant y cwmni wedi cynyddu o £33 miliwn yn 2012/13 i £40 miliwn yn 2014/15.

Mynd i'r wefan

=============
FPS network

Lansio'r Rhwydwaith Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

Cynhaliwyd lansiad y Rhwydwaith Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yn ddiweddar o dan arweiniad Chris Nott, Cadeirydd Panel y Sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a Phartner Rheoli Capital Law LLP.

Wrth groesawu'r gynulleidfa, pwysleisiodd Chris pa mor bwysig yw busnesau cynhenid a'u rôl allweddol wrth hyrwyddo Cymru. 

Cynhaliwyd y noson yn yr Ystafell Farchnata newydd yng Nghaerdydd, ac roedd yn gyfle i rwydweithio ac i ddangos y model anferth o Gaerdydd.

Darllen mwy

=============
CISI

Cyfarfod cyntaf Bwrdd CISI Cymru

Mae cyfarwyddwyr dylanwadol, sy'n gwneud penderfyniadau i gwmnïau bancio a rheoli cyfoeth amlwg yn fyd-eang, wedi bod yn ymweld â Chaerdydd i glywed drostynt eu hunain beth sydd gan y ddinas i'w gynnig i fusnesau yn y sector gwasanaethau ariannol.

Cynhaliodd aelodau Bwrdd Sefydliad Siartredig Gwarannau a Buddsoddiadau (CISI) gyfarfod llawn y Bwrdd yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.

Manteisiodd Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd i'r eithaf ar y cyfle hwn drwy drefnu 'profiad' mewnfuddsoddi i hyrwyddo Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel y lleoliad gorau i gwmnïau ym maes gwasanaethau ariannol sy'n chwilio am le i ehangu neu adleoli.

Darllen mwy

=============

Prifysgolion Cymru yn cael achrediad CILEx ar gyfer hyfforddiant cyfreithiol

Mae dwy brifysgol yn ne Cymru wedi cael eu cymeradwyo gan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEx) i gynnig cyrsiau hyfforddiant cyfreithiol arloesol.

Mae Prifysgol De Cymru ac Ysgol Busnes Abertawe, sy'n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn paratoi i gofrestru myfyrwyr a fydd yn dilyn llwybr ennill-wrth-ddysgu CILEx i fod yn gyfreithwyr cymwys.

Mae saith canolfan yng Nghymru wedi cael eu hachredu gan CILEx i ddarparu'r cymwysterau proffesiynol ar gyfer cyfreithwyr.

Darllen mwy

=============

System hygyrch o gyfreithiau i gefnogi twf busnesau yng Nghymru

Mae system eglur a hygyrch o gyfreithiau yn allweddol wrth hyrwyddo sector cyfreithiol sy'n datblygu, yn llwyddo ac yn ffynnu er mwyn cefnogi a denu busnesau i Gymru, meddai Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru wrth weithwyr proffesiynol blaenllaw ym myd y gyfraith.

Yn ystod araith yn nerbyniad haf Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru, dywedodd Theodore Huckle CF: "Mae lefel y mewnfuddsoddi yng Nghymru yn uwch nag y bu ers degawdau, oherwydd bod buddsoddwyr yn gwybod y gallant ddibynnu ar lywodraeth gefnogol a hyblyg a gweithlu medrus. Mae system glir a hygyrch o gyfreithiau yn ffactor allweddol wrth greu a chefnogi'r llwyddiant hwnnw a'i ddatblygu ymhellach."

Darllen mwy 

=============

Ysgol y Gyfraith Bangor yw'r orau yng Nghymru

Ysgol y Gyfraith, Bangor yw ysgol orau'r gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghreiriau prifysgolion diweddaraf a gyhoeddwyd gan The Guardian. Mae'r Ysgol hefyd wedi codi i safle 32 yn y DU, o blith 98 o sefydliadau.

Mae'r llwyddiant diweddaraf hwn yn dilyn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2014, lle daeth Ysgol y Gyfraith Bangor i'r brig yng Nghymru – ac yn gydradd 5ed yn y DU – o ran boddhad myfyrwyr.

Darllen mwy 

=============

Datganoli llawn ar gyfer ardrethi annomestig yn garreg filltir gyntaf bwysig i ddatganoli cyllidol

Mae datganoli llawn ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru o'r 1 Ebrill ymlaen wedi bod yn garreg filltir gyntaf bwysig i ddatganoli cyllidol yng Nghymru yn ôl Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.

Darllen mwy

=============

Cyhoeddi Economi Cymru: mewn rhifau

Mae Economi Cymru yn perfformio’n eithaf da dros y tymor canolig o’i chymharu â llawer o rannau eraill o’r DU ac mae’n gwella lles dinasyddion yng Nghymru yn sylweddol, yn ôl gwefan newydd sy’n cael ei lansio heddiw.

Mae ‘Economi Cymru: mewn rhifau’ yn rhoi darlun eang, manwl a hwylus o economi Cymru a chanlyniadau economaidd yng Nghymru.  Mae’n rhoi darlun llawn am y tro cyntaf o berfformiad economaidd ar gyfer wyth dangosydd allweddol – gan eu cymharu â rhannau eraill o’r DU a hynny dros gyfnod o amser.

Darllen mwy

=============

Gwefan newydd y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

Mae porth ar-lein newydd y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yn weithredol erbyn hyn, ac wedi cael ei lunio'n benodol i hybu buddsoddiadau newydd ac i ddangos y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol unigryw a gynigir yng Nghymru.

Mae'n dangos llwyddiant cwmnïau yng Nghymru, gan gynnwys yr astudiaethau achos o gwmnïau gan Deloitte a Griffin Place.

Mae nifer o adnoddau ar gael ar y safle; Rhith Daith o amgylch Caerdydd, sy'n ffordd wych o ddangos y twf a'r datblygiad cyffrous a ddisgwylir yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd nesaf; cyfrifiannell Arbed Costau sy'n dangos sut mae Caerdydd yn arbed arian i gwmnïau wrth gymharu'r ddinas â lleoliadau eraill yn y DU; a Chanolfan Cyfryngau sy'n cael ei diweddaru'n gyson gyda newyddion diweddaraf y sector ac yn cynnwys llyfrynnau a dogfennau perthnasol.

Mynd i'r wefan.

=============

Gwefan newydd yn dangos sut mae cyfreithiau Cymru yn wahanol i weddill y DU

Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio i helpu pobl i ddeall sut mae cyfreithiau yng Nghymru yn dechrau gwahanu oddi wrth weddill y DU. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu pasio cyfreithiau i Gymru mewn 20 maes datganoledig sy'n bwysig yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol i ddinasyddion, fel iechyd, addysg, amaethyddiaeth, trafnidiaeth, tai a'r amgylchedd.

Mae gwefan Cyfraith Cymru wedi cael ei harwain gan Gwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle QC, i godi ymwybyddiaeth o'r nifer cynyddol o gyfreithiau i Gymru sy'n cael eu pasio gan y Cynulliad Cenedlaethol a’u gwneud gan Weinidogion Cymru.

Darllen mwy a mynd i'r wefan.

=============

Dilynwch ni ar @WG_economy

Nawr gallwch gael y diweddaraf am Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â hi drwy ein dilyn ni ar Twitter.

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.