
Bwrdd Cynghori ar Wyddoniaeth
i reoli Cronfa Bontio gwerth £3 miliwn ar gyfer Gwyddorau Bywyd
Mae tîm o unigolion hynod o brofiadol, sy’n cael eu cydnabod yn
arbenigwyr yn eu meysydd, wedi’u penodi i Fwrdd Cynghori Gwyddonol newydd ar
gyfer y Gronfa Bontio Gwyddorau Bywyd.
Bydd y Bwrdd, a gyhoeddwyd gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi a
Gwyddoniaeth, yn rhoi cyngor ar y modd y bydd y Gronfa gwerth £3 miliwn yn cael
ei rheoli a’i gweithredu ar ran Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru.
Darllenwch fwy
 |
|
Cwmnïau o Gymru wedi ennill contractau gwerth £1.4m ar daith fasnach Llywodraeth Cymru i Medica 2014
Mae’r cwmnïau Gwyddorau Bywyd o Gymru a aeth ar daith fasnach Llywodraeth Cymru i gynhadledd Medica y llynedd wedi ennill contractau gwerth dros £1.4m yn barod, ac mae rhagor i ddod.
Cyhoeddir y newyddion da wrth i’r ceisiadau agor ar gyfer digwyddiad 2015 (a gynhelir 16-19 Tachwedd). Rhaid i’r cwmnïau sydd â diddordeb gofrestru cyn 17 Gorffennaf; os byddant yn gymwys, gallant gael hyd at 50% o gymhorthdal gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y daith. Darllenwch fwy
Darllenwch y daflen yma am ragor o wybodaeth am y pecynnau ymwelwyr, rhagor o fanylion am y cymorth sydd ar gael i gwmnïau cymwys o Gymru a sut i ymgeisio.
|
 |
|
Cwmni Gwyddorau Bywyd yn
ehangu yng Nghymru – wrth i fewnfuddsoddi dorri pob record
Mae Carwyn Jones, Prif
Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi bod mewnfuddsoddi wedi torri pob record.
Daw’r newydd hwn wrth i
Ortho-Clinical Diagnostics, Inc, sef cwmni blaengar o’r Unol Daleithiau,
gadarnhau ei fod wedi ehangu ei safle ym Mhencoed yn dilyn buddsoddiad o £4.6
miliwn gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Darllenwch fwy
|
 |
|
PRA Health
Services yn creu swyddi yn Abertawe
Mae PRA Health
Sciences - sefydliad blaenllaw byd-eang ym maes ymchwil glinigol - yn ehangu am
yr ail waith yn Abertawe, gan greu bron 90 o swyddi newydd gyda chymorth gan
Lywodraeth Cymru.
Darllenwch fwy
|
 |
|
Neem Biotech yn ehangu ac yn creu swyddi newydd ar gyfer
treial clinigol cyntaf
Mae Neem Biotech yn paratoi i
lansio ei dreial clinigol cyntaf ar gyfer cyffur a ddyluniwyd i helpu pobl sydd
â ffeibrosis systig. Mae’r cwmni o Abertyleri, a agorodd ei gyfleuster newydd
yn ddiweddar, yn cael ei gefnogi gan £225,000 o gyllid
busnes gan Lywodraeth Cymru.
Darllenwch
fwy
|
 |
|
Pentref Arloesi cyntaf GE Healthcare yn y Deyrnas Unedig
Mae Edwina Hart, Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a
Gwyddoniaeth Cymru, a Kieran Murphy, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol GE
Healthcare, wedi agor cam cyntaf campws newydd GE Healthcare. Yn gampws ar
gyfer busnesau sy’n tyfu sy’n datblygu dulliau a thechnegau ar gyfer y
diwydiant gwyddorau bywyd byd-eang, mae'r campws
wedi derbyn £367,000 gan raglen Arloesi Agored Llywodraeth Cymru a Chronfeydd
Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.
Darllenwch
fwy
|
 |
|
Buddsoddi £18 miliwn mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
Bydd prosiectau ymchwil mawr ym meysydd canser, iechyd y cyhoedd, gofal
sylfaenol a brys, iechyd meddwl ac effeithiau heneiddio yn elwa ar fuddsoddiad
o £18 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Darllenwch fwy
|
 |
|
Disgwyl i Ganolfannau
Therapi Pelydrau Proton Cyntaf y Deyrnas Unedig 'Drawsnewid' Gofal Canser
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Hwb Gwyddorau Bywyd ddigwyddiad cynllunio a
datblygu ar gyfer canolfannau therapi pelydrau proton cyntaf y Deyrnas Unedig,
a fydd yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddarpariaeth gofal canser.
Darllenwch
fwy
|
Sphere Medical
ar fin adleoli i Gymru
Bydd Sphere Medical o Gaergrawnt yn symud ei waith
cynhyrchu i Gymru ar ôl dyroddiad ecwiti codi arian o £12 miliwn.
Mae'r cwmni, sy'n arbenigo mewn monitro gwaed ac offer diagnostig, eisoes wedi
sicrhau £4 miliwn o gefnogaeth o Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru
Llywodraeth Cymru, sy’n werth £100 miliwn. Ac mae £4 miliwn yn rhagor wedi cael
ei ymrwymo gan Woodford Investment Management. Bydd gwaith arfaethedig i
gynyddu graddfa ei weithrediadau yn arwain at gyflogi 30 o weithwyr medrus iawn
yn ei gyfleuster cynhyrchu'r flwyddyn nesaf.
Darllenwch fwy
Y Gweinidog
Gwyddoniaeth yn agor Cyfleuster Sbectromedreg Màs Cenedlaethol
Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, wedi agor
Cyfleuster Sbectromedreg Màs Cenedlaethol
y Deyrnas Unedig (NMSF) y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol
(EPSRC) yn swyddogol ym Mhrifysgol Abertawe, ar ôl iddo gael contract gwerth £3
miliwn i gynnal gwaith adnewyddu yn ddiweddar.
Darllenwch
fwy
Innovate UK yn buddsoddi hyd at £1 miliwn mewn
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth newydd
Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £1 miliwn i sefydlu Partneriaethau
Trosglwyddo Gwybodaeth newydd i ddatblygu dulliau modelu i gefnogi'r defnydd o
feddyginiaeth haenedig yn y Deyrnas Unedig, ar draws biowybodeg, bioleg
systemau, economeg iechyd ac algorithmau dadansoddol.
Rhagor o wybodaeth
Hwb ar gyfer cwmnïau Technolegau Meddygol sy'n datblygu
cynnyrch y genhedlaeth nesaf
Mae chwech o gwmnïau Technolegau Meddygol bach neu newydd
hynod arloesol yng Nghymru wedi'u dewis ar gyfer cyllid Ymchwil a Datblygu
gwerth £600,000 gan Innovate UK, cwmni arbenigwyr arloesi o Brydain, i
ddatblygu a masnachu'r genhedlaeth nesaf o ddyfeisiau a chynnyrch yn y maes
technolegau meddygol.
Daw'r cyhoeddiad yr un pryd ag ymweliad Dr Ruth McKernan,
Prif Weithredwr newydd Innovate UK, â Chaerdydd, i ddod i wybod mwy am y maes
arloesi yng Nghymru. Bydd hefyd yn cyfarfod unigolion allweddol, gan
gynnwys Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru.
Darllenwch
fwy
Carreg filltir o bwys wrth adeiladu canolfan ddelweddu
gwerth £44 miliwn sy’n ymchwilio i’r ymennydd
Mae gwaith adeiladu canolfan ddelweddu
newydd gwerth £44 miliwn ym Mhrifysgol Caerdydd
sy'n ymchwilio i'r ymennydd (CUBRIC), fydd yn arwain Ewrop wrth helpu
gwyddonwyr i ddeall achosion cyflyrau'r ymennydd, wedi cyrraedd carreg filltir
o bwys.
Darllenwch fwy
Darganfyddiad asthma newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd
Am y tro cyntaf, mae
gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd wedi amlygu gwraidd posibl asthma yn ogystal â
chyffur parod sy'n cynnig triniaeth newydd.
Darllenwch fwy
Alesi Surgical yn sicrhau
buddsoddiad o £2.1 miliwn
Mae
Alesi Surgical (Asalus Medical Instruments Limited, gynt) wedi sicrhau cyllid
ychwanegol o £2.1 miliwn i fasnacheiddio ymhellach ei brif gynnyrch,
UltravisionTM, a ddatblygwyd o'r cysyniad gwreiddiol yn ddyfais o safon CE gyda
chymorth yr IP Group a Cyllid Cymru.
Darllenwch fwy
Cynllun atgyfeirio newydd i roi cyllid a chymorth i
fusnesau newydd
Mae Edwina Hart, Gweinidog yr
Economi, wedi lansio cynllun peilot newydd er mwyn cynyddu nifer y busnesau newydd
yng Nghymru sy’n cael cyllid a chymorth angenrheidiol i dyfu. Datblygwyd
y cynllun peilot gan Busnes Cymru, NatWest a Cyllid Cymru, a bydd yn rhedeg am gyfnod
o 12 mis yn y lle cyntaf.
Darllenwch fwy
Rhyddhad cyfradd fusnes ar gyfer manwerthwyr Cymru yn
cael ei ymestyn a’i gynyddu
Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi
ymestyniad Cynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru, a chynnydd yn uchafswm y budd sydd
ar gael i £1,500 yn 2015-16.
Darllenwch
fwy
Datganoli trethi annomestig yn llawn yn creu’r garreg
filltir fawr gyntaf ar gyfer datganoli cyllidol
Creodd datganoli trethi annomestig yn llawn yng Nghymru o
1 Ebrill y garreg filltir fawr gyntaf ar gyfer datganoli cyllidol yng Nghymru,
yn ôl Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt.
Darllenwch
fwy
Ydych chi wedi ymweld â phorthol gwybodaeth a
chaffael newydd GwerthwchiGymru? Wedi’i sefydlu
gan Lywodraeth Cymru, mae’n helpu busnesau i ennill cytundebau gyda’r sector
cyhoeddus drwy Gymru ac mae’n galluogi prynwyr y sector cyhoeddus i hysbysebu a
rheoli cyfleoedd tendro. Ar y safle, byddwch yn gweld cytundebau ar gyfer
nwyddau a gwasanaethau’r sector cyhoeddus o amrediad eang o sefydliadau a
ariennir yn gyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol,
Ymddiriedolaethau GIG, colegau a phrifysgolion.
BioCymru 2016,
1-2 Mawrth 2016, Canolfan Mileniwm
Cymru, Caerdydd
Ewch i BioCymru 2016 i glywed gan brif siaradwyr,
arbenigwyr y diwydiant a buddsoddwyr mewn gwyddorau bywyd, cymerwch olwg ar y
man arddangos, gwnewch gysylltiadau newydd a nodwch gyfleoedd busnes newydd.
Rhagor o wybodaeth am BioCymru.
Wythnos GREAT
Gofal Iechyd a Gwyddorau Bywyd - Expo Milan - 29-30 Medi, Milan
Mae Wythnosau GREAT yn gyfres o deithiau masnach sy’n
cyd-daro ag Expo’r Byd eleni ym Milan, gan gynnig cyfle rhagorol i gwmnïau yn y
Deyrnas Unedig gwrdd â phrynwyr mawr, partneriaid posibl a chyfleoedd busnes
sylweddol o bedwar ban byd.
Cynhelir Dyfodol Seminarau Iechyd yn ystod Wythnos Iechyd a Gwyddorau Bywyd y
Deyrnas Unedig.
Rhagor o
wybodaeth
Dyddiadau i’r
dyddiadur –
8 Gorffennaf 2015 - Sioe Deithiol Gofal Iechyd a Gwyddorau
Bywyd Tsieina yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Caerdydd Cofrestru
ar gyfer y digwyddiad hwn 29 Medi 2015 - Venturefest, Caerdydd – Rhagor o wybodaeth Tymor yr hydref 2015 – Ymgyrch fasnach aml-sector,
Budapest, Hwngari – Cofrestrwch eich
diddordeb yn y digwyddiad hwn 25-28 Ionawr 2016 - Iechyd Arabaidd, Dubai – digwyddiad
i’r Sector Gwyddorau Bywyd - Cofrestrwch
eich diddordeb 1-2 Mawrth 2016 - BioCymru, Caerdydd, Rhagor o wybodaeth
Dilynwch ni ar @WG_economy
Nawr gallwch gael y diweddaraf am Adran Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ymgysylltu â hi drwy ein
dilyn ni ar Twitter
|